Fay Compton

actores a aned yn 1894

Roedd Fay Compton (ganwyd Virginia Lilian Emmeline Compton-Mackenzie), CBE (18 Medi, 1894 - 12 Rhagfyr, 1978), yn actores Saesnig o dras Albanaidd.[1]

Fay Compton
Ganwyd18 Medi 1894 Edit this on Wikidata
Kensington Edit this on Wikidata
Bu farw12 Rhagfyr 1978 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr Baner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
TadEdward Compton Edit this on Wikidata
MamVirginia Bateman Edit this on Wikidata
PriodH. G. Pelissier, Leon Quartermaine, Laurie de Freece, Ralph Michael Edit this on Wikidata
PlantAnthony Pelissier Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa golygu

Blynyddoedd Cynnar golygu

Ganwyd Compton yn Fulham, Llundain, yn bumed plentyn ieuengaf a thrydedd ferch Edward Compton (1854-1918), actor a chyfarwyddwr (Mackenzie oedd ei gyfenw go iawn), a'i wraig, yr actores Virginia Frances Bateman (1853-1940) merch yr actor Heseceia Linthicum Bateman, o Baltimore, UD. Un o'i brodyr oedd yr awdur Compton Mackenzie.[2]

Gwnaeth Compton ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf ym 1911 gyda’r parti cyngerdd The Follies dan arweinyddiaeth H G Pelissier, ei gŵr cyntaf, roedd hi dal yn ei harddegau ar adeg y briodas. Byrhoedlog oedd y briodas: bu farw Pelissier ym mis Medi 1913 yn 31 oed, gan adael ei weddw ifanc gyda mab yn ei fabanod.[3] Ym 1914, yn Maidenhead, fel Fay C. Pellissier, priododd am yr ail dro â'r canwr Lauri de Frece.[4]

Ym 1914 gwnaeth Compton y cyntaf o lawer o ymddangosiadau ar y llwyfan Americanaidd, gan ymddangos yn Theatr Shubert, Efrog Newydd, yn To-Night's the Night, gan deithio yn perfformio'r un rhan wedi hynny. Yn Llundain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf chwaraeodd amryw o rolau, gan gynnwys rôl y teitl yn Peter Pan ym 1917.[5]

1920au a 30au golygu

Yn y 1920au roedd ei rhannau'n cynnwys y rôl deitl yn Mary Rose gan J. M. Barrie. Chwaraeodd y gyntaf o lawer o'i rolau Shakespeare fel Ophelia gyferbyn a Hamlet John Barrymore.[5]

Bu farw ail ŵr Compton, ym 1921, yn 41 oed, ac ym mis Chwefror 1922 priododd Leon Quartermaine, yr oedd wedi actio gydag ef mewn adfywiad yn Quality Street gan Barrie.[3]

Roedd gan Compton enw da am amlochredd,[3] ac ym 1931 ymddangosodd yn olynol yn rôl deitl y pantomeim Dick Whittington ac Ophelia gyferbynna â Hamlet Henry Ainley.[5] Trwy gydol y 1930 symudodd Compton rhwng dramâu'r West End, pantomeim a Shakespeare yn bennaf - Titania, Lady Rosaline, Calpurnia, a Paulina yn The Winter's Tale, un o'i hoff rannau - a theithiodd yn Awstralia a Seland Newydd yn Victoria Regina, Tonight at 8.30 a George and Margaret. Ym 1930 chwaraeodd Ophelia gyferbyn a Hamlet John Gielgud, yn gyntaf yn y Lyceum ac yna yng Nghastell Elsinore.

Ym 1927 agorodd Compton ysgol actio yn Llundain, the Fay Compton Studio of Dramatic Art, a barhaodd mewn busnes hyd at ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr nodedig oedd Alec Guinness a John Le Mesurier.[6]

1940au i'r 1960au golygu

Yn ystod y 1940au ymddangosodd Compton yn yr Hen Vic fel Regan yn King Lear, chwaraeodd Ruth yn Blithe Spirit Noël Coward am 15 mis. Ymddangosodd yn Othello , Candida a Hamlet, a gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf mewn drama gan Ibsen fel Gina Ekdal yn The Wild Duck.[5] Aeth ar daith noddedig gan Y Cyngor Prydeinig, fel Regina yn The Little Foxes, i Wlad Belg, yr Iseldiroedd, Ffrainc a'r Swistir. Diddymwyd ei thrydedd briodas ym 1942, ac yn y flwyddyn honno priododd yr actor Ralph Michael; diddymwyd y briodas hon ym 1946. Nid fu plant o dair priodas olaf Compton.[3]

Yn y 1950au ailymunodd Compton â chwmni Old Vic. Fel rhan o'r cwmni ymddangos yng Ngŵyl Caeredin 1953, fel Gertrude yn Hamlet’. Ymddangosodd yn Llundain yn nhymor 1953–1954, fel Gertrude; Iarlles Rossillion yn All's Well That Ends Well; Constance Bretagne yn King John; Volumnia yn Coriolanus a Juno yn The Tempest.[5] Gyda'r un cwmni chwaraeodd y Frenhines Margaret yn Richard III ym 1957 gyferbyn a Robert Helpmann fel y Brenin Richard. Chwaraeodd yr Arglwyddes Bracknell yn The Importance of Being Earnest ym 1959.

Yng Ngŵyl gyntaf Chichester, Gorffennaf i Fedi 1962, chwaraeodd Compton Grausis yn The Broken Heart, a Marya yn Dewyrth Vanya.[5] Ymhlith ei rolau llwyfan eraill yn y 1960au roedd Mrs Malaprop yn The Rivals, a'i rôl Barrie olaf fel y Comtesse yn What Every Woman Knows.

Dyfarnwyd CBE i Compton ym 1975. Bu farw yn Llundain yn 84 oed.[7]

Ffilm a theledu golygu

Nid yw gwaith ffilm Compton mor adnabyddus â'i hymddangosiadau llwyfan. Ymddangosodd mewn mwy na 40 o ffilmiau rhwng 1914 a 1970. Ei pherfformiadau mwyaf poblogaidd mewn ffilmiau oedd Odd Man Out (1947), Laughter in Paradise (1951), Othello Orson Welles (1952), The Haunting (1963) ac I Start Counting (1969).

Ymhlith ei pherfformiadau teledu, ymddangosodd ym 1965 gyda Michael Hordern yn y ddrama deledu Land of My Dreams gan Clive Exton. Ymhlith ei rolau mawr olaf roedd Modryb Ann yn addasiad teledu 1967 y BBC o The Forsyte Saga,[5] a Mrs Brown mewn addasiad gan y BBC o lyfr Dickens Dombey and Son ym 1969.[8]

Gwaith golygu

Ffilm golygu

Teledu golygu

Cyhoeddiadau golygu

  • Rosemary: some remembrances (1926), cyflwyniad gan Compton Mackenzie

Cyfeiriadau golygu

  1. "Fay Compton". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-28.
  2. "Fay Compton". www.britishpictures.com. Cyrchwyd 2020-12-28.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Compton, Fay [real name Virginia Lilian Emmeline Compton-Mackenzie] (1894–1978), actress". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/30957. Cyrchwyd 2020-12-28.
  4. "Pelissier, Fay C. & Frece, Lauri de" yng Nghofrestr Priodasau Ardal Gofrestru Maidenhead, cyfrol 2c (1914), tud. 1,004
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 Parker, John (1972). Who's who in the theatre; a biographical record of the contemporary stage (arg. 15fed argraffiad). Llundain: Pitman Pub. tt. 502–504. ISBN 0-273-31528-5. OCLC 1028134.
  6. Gale, Maggie B. (2019). A Social History of British Performance Cultures 1900-1939. London: Routledge. ISBN 978-1351397193. Cyrchwyd 20 November 2020.
  7. "Fay Compton (1894-1978) - Find A Grave Memorial". www.findagrave.com. Cyrchwyd 2020-12-28.
  8. BFI Archive - BBC series Dombey and Son (1969) accessed 26 February 2020.