Theodor Mommsen

ysgolhaig a hanesydd clasurol Almaeneg (1817-1903)

Hanesydd, ieithegwr ac archaeolegydd Almaenig oedd Christian Matthias Theodor Mommsen (ynganiad Almaeneg: [tā´ōdōr môm´sən]; 30 Tachwedd 18171 Tachwedd 1903).

Theodor Mommsen
GanwydChristian Matthias Theodor Mommsen Edit this on Wikidata
30 Tachwedd 1817 Edit this on Wikidata
Garding Edit this on Wikidata
Bu farw1 Tachwedd 1903 Edit this on Wikidata
Charlottenburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia, Duchy of Schleswig Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd y cynfyd clasurol, nwmismatydd, cyfreithegwr, newyddiadurwr, hanesydd y gyfraith, ysgrifennwr, academydd, gwleidydd, arysgrifwr, ysgolhaig clasurol, archaeolegydd clasurol, hanesydd, Almaenegwr Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Reichstag of the German Empire, Member of the Prussian House of Representatives, athro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Gwyddorau Prwsaidd
  • Prifysgol Frederick William
  • Prifysgol Wrocław
  • Prifysgol Zurich
  • Prifysgol Leipzig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe History of Rome, Corpus Inscriptionum Latinarum Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNational Liberal Party, Liberal Union, German Progress Party Edit this on Wikidata
TadJens Mommsen Edit this on Wikidata
PriodMaria Auguste Mommsen Edit this on Wikidata
PlantKarl Mommsen, Marie Mommsen, Konrad Mommsen, Ernst Mommsen, Hans Georg Mommsen, Wolfgang Mommsen, Lisbet Mommsen Edit this on Wikidata
PerthnasauUlrich von Wilamowitz-Moellendorff, Tycho Von Wilamowitz-Moellendorff, Wolfgang Mommsen Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Honorary citizen of Rome Edit this on Wikidata

Penodwyd yn athro'r gyfraith sifil ym Mhrifysgol Leipzig ym 1848, ond yn fuan fe gollodd ei swydd oherwydd ei gefnogaeth i Chwyldroadau 1848. Aeth i addysgu cyfraith Rufain yn Zürich a Breslau, ac ym 1858 daeth yn athro hanes yr henfyd ym Mhrifysgol Berlin. Yn sgil uno'r Almaen ym 1870, siaradodd yn gyhoeddus yn erbyn polisïau Otto von Bismarck.

Ei gampwaith yw'r tair cyfrol ar hanes Rhufain hynafol. Sail y clasur hwn yw ymchwil yr awdur i arysgrifau, ddarnau arian, a llenyddiaeth y cyfnod. Ysgrifennodd hefyd ar gyfraith Rufain ac archaeoleg. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1902.

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd yn Garding a chafodd ei fagu yn Oldesloe, Dugaeth Schleswig, sydd heddiw'n rhan o dalaith Schleswig-Holstein yn yr Almaen ond oedd ar y pryd yn rhan o Ddenmarc. Gweinidog Protestannaidd o dras Ffrisiaidd, dyn tlawd ond ysgolheigaidd, oedd ei dad. Cafodd Mommsen ei addysg yn y cartref ac yn ysgol uwchradd y Gymnasium Christianeum yn Altona, Dugaeth Holstein, oedd yn rhan o Gydffederasiwn yr Almaen.

Cafodd ei hyfforddi'n Altertumswissenschaftler (ysgolhaig yr Henfyd) ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Kiel (1838–43). Ar y pryd, astudiaeth cyfraith Rhufain yn bennaf oedd maes cyfreitheg yn yr Almaen. Dylanwadwyd Mommsen gan ddarlithoedd Otto John a gwaith Friedrich Karl von Savigny ar gydberthynas hanes a'r gyfraith, a chymerodd ddiddordeb cryf yn y byd clasurol. Ysgrifennodd ei draethawd estynedig ar gymdeithasau Rhufeinig, a chwblhaodd ymdriniaeth o lwythau Rhufain.[1] Derbyniodd ysgoloriaeth gan lywodraeth Denmarc a rhodd fechan gan Academi Berlin i ymweld â'r Eidal. Treuliodd y cyfnod 1844–47 yn ne'r wlad ac yno bu'n cwrdd â Bartolommeo Borghesi, ysgolhaig oedd yn astudio arysgrifau Lladin.[2] Dechreuodd Mommsen gynllunio'r prosiect anferthol o gyfeiriadur arysgrifol, a chasglodd arysgrifau'r Samniaid yn sampl i'r dasg hon.[1]

Gyrfa academaidd golygu

 
Daguerreotype o Mommsen (canol) gyda’i gydathrawon Moritz Haupt (chwith) a Otto Jahn yn Leipzig ym 1848.

Dychwelodd i Schleswig ym 1847 a bu'n gweithio fel newyddiadurwr am gyfnod, gan olygu'r Schleswig-Holsteinische Zeitung ac ysgrifennu o blaid annibyniaeth dugiaethau'r Elbe oddi ar Ddenmarc. Roedd yn gefnogwr brwd o chwyldroadau 1848–49 yng Nghydffederasiwn yr Almaen a bu hyd yn oed yn sefyll wrth y gwrthgloddiau yn Sacsoni. Daeth yn athro'r gyfraith Rufeinig ym Mhrifysgol Leipzig ym 1848, ond cafodd ei ddiswyddo ym 1851 oherwydd ei wleidyddiaeth. Cyn iddo adael Leipzig, daeth Mommsen i sylw'r cyhoeddwr Karl Reimer, a anogodd iddo ysgrifennu llyfr ysgolheigaidd poblogaidd ar hanes Rhufain.[1]

Symudodd i weithio ym Mhrifysgol Zurich ym 1852 a chyhoeddodd lyfr am yr arysgrifau Naplaidd y wnaeth eu hastudio yn yr Eidal. Ym 1854 cafodd ei benodi i Brifysgol Breslau ym Mhrwsia a chychwynnodd gyhoeddi ei hanes ar yr Hen Rufain.[2] Symudodd Mommsen i Brifysgol Berlin ym 1858 i olygu casgliad anferth o arysgrifau Lladin, Corpus Inscriptionum Latinarum, sy'n sail i holl ymchwil modern y maes arysgrifaeth. Penodwyd yn athro'r brifysgol ym 1861, a bu'n dal y swydd honno am 45 mlynedd. Roedd hefyd yn ysgrifennydd parhaol Academi'r Celfyddydau a'r Gwyddorau Prwsia.

 
Mommsen y Llenor Nobel, 1902.

Gwobrwyodd Sefydliad Nobel y wobr lenyddol iddo ym 1902, gan ei adnabod yn "feistr byw mwyaf y gelfyddyd ysgrifennu hanesyddol, gyda golwg arbennig ar ei waith anferthol, Hanes Rhufain".[3] Cafodd ei enwebu gan 18 o'i gydaelodau yn Academi Frenhinol Gwyddorau Prwsia. Mommsen oedd yr Almaenwr cyntaf i dderbyn y wobr hon, a'r trydydd Almaenwr i ennill un o Wobrau Nobel. Yn ei araith i gyflwyno'r wobr, dywedodd C.D. af Wirsén, Ysgrifennydd Parhaol Academi Sweden:

Darlunir dyn ifanc yn gwrando ar ysbrydoliaeth yr Awenau gan fedal Gwobr Llenyddiaeth Nobel. Hen ddyn yw Mommsen, ond mae ganddo dân ieuenctid, a phrin y sylweddolir mor eglur â thra’n darllen Römische Geschichte taw Clio oedd un o'r Awenau. Ysgogwyd ein brwdfrydedd gan yr enghraifft hwnnw o hanes pur pan yr oeddem yn ifanc; fe'i gedwir ei rym dros ein meddwl, fel y dysgwn wrth ini ei ailddarllen yn ein dyddiau hŷn. Dyna yw grym ysgolheictod hanesyddol os fe'i gyfunir â chelfyddyd fawr.[4]

Ei waith golygu

Llenor hynod o doreithiog oedd Mommsen: rhestrir dros 900 o erthyglau a llyfrau gan un llyfryddiaeth o'i waith hyd y flwyddyn 1887.[5]

Corpus Inscriptionum Latinarum golygu

Ers ei gyfnod yn yr Eidal, bwriadodd Mommsen gyhoeddi casgliad enfawr o arysgrifau Lladin. Cyhoeddodd arysgrifau’r Samniaid ac arysgrifau Teyrnas Napoli ym 1852 yn sampl i'r dasg hon, gan gyflwyno'r gyfrol i'w hen gynghorwr Borghesi.[1] Sefydlodd y Corpus Inscriptionum Latinarum ym Merlin ym 1862 dan nawdd Academi Frenhinol y Gwyddorau Berlin, ac ef oedd y golygydd cyffredinol a'r prif gyfrannwr. Cyhoeddid 17 o gyfrolau hyd heddiw, a pharhaodd ddylanwad Mommsen ar y gwaith am ganrif wedi ei farwolaeth. Dull Mommsen yw'r ffurf gydryw o drefnu'r holl gasgliad, a chyfranodd ei awdurdod ysgolheigaidd ac ymchwil gwreiddiol yn y gyfraith, arysgrifaeth, nwmismateg, llywodraeth a gweinyddiaeth, economeg ac arianneg, a chronoleg hanes Rhufain.[4] Roedd y prosiect yn arloesol ym maes y clasuron gan osod astudiaeth gyfundrefnol o'r byd Rhufeinig, ac yn ffynhonnell bwysig ar y cyfnod hyd heddiw.

Römische Geschichte golygu

 
Tudalen o fapiau yn yr argraffiad 1932 o Römische Geschichte.

Gwaith enwocaf Mommsen yw'r Römische Geschichte ("Hanes Rhufain"; 1854-55, 1885) sy’n ymdrin â hanes Gweriniaeth Rhufain, a'r campwaith anferthol hwn a ysgogai'r dysgedigion yn Academi Sweden i roddi Gwobr Nobel iddo. Tra'n byw a dysgu yn Leipzig, Zürich, a Breslau, ysgrifennodd Mommsen y tair cyfrol gyntaf, hyd at Frwydr Thapsus yn y flwyddyn 46 CC. Roedd yn hynod o ddylanwadol a sbardunodd chwyldro mewn ysgolheictod hanes Rhufain. Dominyddodd ei waith astudiaethau'r cyfnod, ac am amser hir roedd yn anodd cael gwared â'i barnau o’r hanesyddiaeth, er enghraifft dwyn dirmyg ar oligarchiaeth y senedd, edmygedd o Cesar, a'i ddisgrifiad dilornus o'r "llipryn" Cicero. Cynlluniodd Mommsen hefyd hanes o'r Ymerodraeth Rufeinig, ond fe lwyddodd i ysgrifennu un gyfrol yn unig a hynny ar bwnc gweinyddiaeth y taleithiau.[5]

Römisches Staatsrecht a Römisches Strafrecht golygu

Er poblogrwydd ac athrylith y Römische Geschichte, gwaith pwysicaf yr awdur o ran ysgolheictod y clasuron yw'r Römisches Staatsrecht. Ymddengys hyfforddiant Mommsen yn y gyfraith a’r clasuron yn y gwaith arloesol hwn. Cyhoeddwyd yr astudiaeth hon o gyfraith gyfansoddiadol Rhufain mewn tair chyfrol rhwng 1871 a 1888. Ni chyfundrefnid y gyfraith hon gan y Rhufeiniaid hyd yn oed. Mommsen oedd y cyntaf i'w wneud, drwy drefnu'r deddfau a manylion cyfreithiol yn gronolegol er mwyn egluro corff y gyfraith mewn dull yr hanesydd, oedd yn wahanol i arferion traddodiadol y clasurwr. Ymhelaethodd Mommsen ar astudiaethau'r gyfraith gyhoeddus Rufeinig gan gyhoeddi llyfr ar gyfraith trosedd, Römisches Strafrecht, ym 1899.[2]

Mommsen y gwleidydd golygu

Rhyddfrydwr a gwladgarwr oedd Mommsen. Roedd yn un o sefydlwyr y Deutsche Fortschrittspartei (Plaid Flaengar yr Almaen) ym 1861. Eisteddodd yn Senedd Prwsia o 1863 i 1866 a 1873 i 1879, a'r Reichstag o 1881 i 1884. Cyd-sefydlodd y cyfnodolyn gwleidyddol Preussischen Jahrbücher. Er ei wladgarwch, roedd yn barod i feirniadu nifer o bolisïau a thueddau'r Almaen, ac roedd yn gwrthwynebu Bismarck yn gryf.

Bywyd personol a marwolaeth golygu

 
Yr hen Mommsen (yn eistedd, ail o’r dde) â’i deulu yn ei gartref yn Charlottenburg, 1891.

Priododd Theodor Mommsen a Marie Reimer, merch gwerthwr llyfrau, ym 1854. Cawsant 16 o blant, gan gynnwys Marie gwraig y clasurwr Ulrich von Wilamowitz-Moellendorff, ac Ernst gŵr Clara Weber, chwaer Max Weber. Bu mab Ernst a Clara, Theodor Ernst Mommsen, a'r dau gor-ŵyr Hans a Wolfgang Mommsen i gyd yn hanesyddion. Bu farw Theodor Mommsen yn Charlottenburg ger Berlin yn 85 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Theodor Mommsen. Encyclopedia of World Biography. Encyclopedia.com (2004). Adalwyd ar 28 Mai 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Theodor Mommsen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2016.
  3. (Saesneg) The Nobel Prize in Literature 1902. Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 28 Mai 2016.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Award Ceremony Speech. Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 28 Mai 2016.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Theodor Mommsen - Biographical. Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 28 Mai 2016.

Darllen pellach golygu

  • Stefan Rebenich, Theodor Mommsen. Eine Biographie (2002).

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: