Thomas Jones Wheldon

gweinidog gyda'r Methodistaid Calfinaidd

Roedd Y Parchedig Thomas Jones Wheldon (10 Mawrth, 184128 Hydref, 1916) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.[1]

Thomas Jones Wheldon
Ganwyd10 Mawrth 1841 Edit this on Wikidata
Llanberis Edit this on Wikidata
Bu farw28 Hydref 1916 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Wheldon yn yng Nghae-esgob, Llanberis, yn blentyn i John Wheldon a Mary Elinor (née Powell) ei wraig. Ychydig wedi ei eni symudodd y teulu i ffermdy o'r enw Llwyncelyn ar droed yr Wyddfa. Cafodd ei addysgu elfennol yn Ysgol Brydeinig Llanberis a gwariodd cyfnod fel disgybl athro (athro dan hyfforddiant) yno. Ym 1857 aeth i Goleg y Bala lle bu am 4 mlynedd fel myfyriwr lleyg (un nid oedd yn cael ei baratoi am y weinidogaeth). Ar ôl ei gyfnod yn y Bala symudodd yn ôl i Lanberis i fyw gan barhau a'i addysg fel myfyriwr allanol ym Mhrifysgol Llundain gan raddio BA ym 1863.[2] Cafodd ei dderbyn yn bregethwr gan Gyfarfod Misol Methodistiaid Arfon ym 1864 [3]

Wedi graddio cafodd cynnig swydd yn y gwasanaeth sifil yng Ngweinyddiaeth India, ond roedd erbyn hynny wedi penderfynu ei fod am fynd yn weinidog. Wedi ei hordeinio derbyniodd alwad i wasanaethu fel gweinidog ar gapel Cymraeg y Methodistiaid yn y Drenewydd. Ychydig yn niweddarach ehangwyd ei ofalaeth i gynnwys achos Saesneg yr enwad yn yr un dref.[4]

Ym 1873 symudodd i Flaenau Ffestiniog i fod yn weinidog ar gapeli Bethel a'r Tabernacl yno. Roedd ofalaeth Ffestiniog yn un oedd yn cynyddu yn gyflym trwy i'r dref tyfu gyda mewnlifiad o weithwyr ar gyfer y diwydiant llechi. Bu Wheldon yn gyfrifol am sefydlu nifer o gapeli newydd yn y dref i ddiwallu anghenion ysbrydol y newydd dyfodiaid. Yn ogystal â sefydlu capeli yn y dref bu hefyd yn frwd dros sicrhau addysg i blant y gweithwyr. Bu'n aelod amlwg o Fwrdd Ysgolion Ffestiniog a sicrhaodd agor ysgolion cynradd a chanolradd ym mhob cwr o'r plwyf a sefydlu'r Ysgol Uwchradd gyhoeddus cyntaf yng Ngogledd Cymru yno.[5]

Bu Wheldon hefyd yn ffigwr amlwg ym mywyd gwleidyddol cylch y Blaenau. Roedd yn aelod blaenllaw o'r Blaid Ryddfrydol a bu'n chware rhan bwysig yn ceisio cymodi'r blaid yn etholaeth Meirion wedi iddi hollti ym 1885 gyda dau ymgeisydd Rhyddfrydol. Henry Robertson a Morgan Lloyd yn ymgiprys am y sedd Seneddol yn etholiad cyffredinol 1885. Wedi ethol Tom Ellis yn Aelod Seneddol Meirion ym 1886, bu Wheldon yn gymorth ac yn gefn iddo.

Wedi deunaw mlynedd yn Ffestiniog symudodd Wheldon i fod yn weinidog ar gapel y Tabernacl, Bangor ym 1892. Aeth ati yn syth i drefnu ail-adeiladu'r Tabernacl fel addoldy llawer mwy o ran faint ac urddas. Parhaodd ei ddiddordeb mewn addysg yno. Roedd ar Bwyllgor Addysg y Sir ac yn aelod o Gyngor Coleg Prifysgol Bangor.

Bu Wheldon yn gwasanaethu ei enwad fel Ysgrifennydd y Drysorfa Gynorthwyol am nifer fawr o flynyddoedd. Ym 1868 fe'i hetholwyd i fod ar Fwrdd y Gymdeithas Genhadol Dramor. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd ym 1891 ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol ym 1902-3.

Ymddeolodd o'r weinidogaeth ym 1909 o herwydd salwch difrifol gan ymgartrefu yn y Rhyl hyd ddiwedd ei oes.[6]

Priododd Wheldon â Mary Ellenor Powell ym 1877 cawsant bump o blant. Eu mab hynaf oedd Syr Wynn Powell Wheldon, cyfreithiwr, milwr a chofrestrydd Prifysgol Bangor a thad y darlledwr Syr Huw Pyrs Wheldon.[7]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn y Rhyl yn 75 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Nant Peris, Llanberis.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "WHELDON, THOMAS JONES (1841 - 1916), gweinidog gyda'r Methodistaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-06-04.
  2. Trysorfa y Plant Cyf. XLI rhif. 481 - Ionawr 1902 Y Parch T J Wheldon BA Bangor adalwyd 4 Mehefin 2020
  3. Y Drysorfa Rhif CCXIII - Medi 1864 tudalen 341 Newyddion adalwyd 4 Mehefin 2020
  4. "Y PARCH THOMAS J WHELDON BA BANGOR - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-08-26. Cyrchwyd 2020-06-04.
  5. "Y DIWEDDAR BARCH T J WHELDON BA - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1916-10-25. Cyrchwyd 2020-06-04.
  6. Monthly Treasury organ of the English Methodist or Presbyterian Church of Wales Vol. X No. 2 - Chwefror 1909 tudalen 8 Tabernacl Bangor adalwyd 4 Mehefin 2020
  7. "Wheldon, Sir Huw Pyrs (1916–1986), television broadcaster". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/40171. Cyrchwyd 2020-06-04.