Henry Robertson

gwleidydd a pheiriannydd

Peiriannydd ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd oedd Henry Robertson (11 Ionawr 181622 Mawrth 1888).

Henry Robertson
Ganwyd11 Mehefin 1816 Edit this on Wikidata
Banff Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 1888 Edit this on Wikidata
Llandderfel, Neuadd y Palé Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Aberdeen Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, peiriannydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PlantHenry Beyer Robertson Edit this on Wikidata
Henry Robertson A.S.
Peintiad olew C. 1860 (o gasgliad LlGC)
Neuadd y Palé, Llandderfel, cartref Robertson NLW3361541

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd Henry Robertson yn nhref Banff yn yr Alban ar 11 Ionawr 1816 yr ifancaf o wyth o blant i Duncan Robertson, gweithiwr gyda Cyllid y Wlad. Cafodd ei addysg yn ysgolion y dref a Choleg y Brenin, Prifysgol Aberdeen lle graddiodd MA [1]

Bywyd Personol golygu

Priododd Elizabeth Dean (1822-1892) yn Llundain ym 1846. Ganwyd iddynt tair merch: Elizabeth yn 1852, Annie ym 1855 a Henrietta ym 1858 a mab - Syr Henry Beyer Robertson (1862-1948).

Gyrfa fel Peiriannydd golygu

Dechreuodd Robertson ar ei yrfa beirianyddol yn gweithio ar brosiectau ym mhorthladd Glasgow. Ym 1842 cafodd wahoddiad i ddod i Gymru i geisio adfer hen waith haearn Brymbo a sefydlwyd yn wreiddiol gan John Wilkinson ond a oedd wedi mynd yn segur erbyn hynny. Sylweddolodd yn fuan y byddai parhad y gwaith yn ddibynnol ar y diwydiant rheilffordd yn gyntaf fel modd i ddosbarthu'r nwyddau o ffowndri Brymbo ac yna er mwyn creu galw am ei gynnyrch. Bu wedi hynny yn gysylltiedig â nifer fawr o brosiectau adeiladu rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau gan gynnwys y llinellau o Gaer i Henffordd, y rheilffordd o Riwabon i Ddolgellau a rheilffordd Canol Cymru o'r Amwythig i Lanymddyfri Roedd yn gadeirydd Cwmni Rheilffordd Llangollen a Chorwen, Cwmni Rheilffordd Corwen a'r Bala, Cwmni Rheilffordd Bro Llangollen, Cwmni Calch y Mwynglawdd, Cwmni Pŵer Glo Brychtyn a Phlas ac yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau peirianyddol a diwydiannol eraill. [2]

Gyrfa wleidyddol golygu

Etholwyd Robertson yn gyntaf fel un o'r ddau Aelod Seneddol dros Swydd yr Amwythig mewn isetholiad ym 1862, ildiodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 1865. Cafodd ei ail-ethol i'r un sedd yn Etholiad Cyffredinol 1874. Erbyn etholiad 1885 cafodd cynrychiolaeth Swydd yr Amwythig ei gostwng i ddim ond un cynrychiolydd a gan mae Robertson oedd yr ail aelod collodd ei le gan benderfynu ceisio am sedd Meirionnydd a oedd wedi dod yn rhydd ar ôl ymddeoliad Samuel Holland. Roedd rhywfaint o anniddigrwydd bod un o du allan i'r etholaeth nad oedd yn siarad Cymraeg wedi ei ddewis gan Rhyddfrydwyr yr etholaeth a chafodd ei herio nid yn unig gan Geidwadwr ond hefyd gan Ryddfrydwr Annibynnol - Morgan Lloyd bargyfreithiwr ac aelod o deulu hynafol Llwydiaid y Cynfal Trawsfynydd [3]. Fe lwyddodd Robertson i gadw'r sedd i'r Rhyddfrydwyr "swyddogol" ond ychydig ar ôl yr etholiad fe dorrodd ei gysylltiad â Phlaid Ryddfrydol swyddogol y Brif Weinidog William Gladstone dros achos hunan reolaeth i'r Iwerddon a bu'n eistedd fel Rhyddfrydwr Unoliaethol am weddill eisteddiad y Senedd. Penderfynodd beidio ac ail sefyll yn etholiad 1886 gan ildio'r sedd i'r Rhyddfrydwr Gladstonaidd Thomas Edward Ellis

Marwolaeth golygu

Tua 1869 prynodd Robertson Ystâd y Pale ger Llandderfel ac yno y bu farw ar 22 Mawrth 1888. Cafodd ei gladdu ym mynwent Llandderfel.[4]

Cyfeiriadau golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Samuel Holland
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
18851886
Olynydd:
Thomas Edward Ellis