Morgan Lloyd

bargyfreithiwr a gwleidydd

Roedd Morgan Lloyd (14 Gorffennaf 1820 - 5 Medi 1893) yn fargyfreithiwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol.

Morgan Lloyd
Ganwyd14 Gorffennaf 1820 Edit this on Wikidata
Trawsfynydd Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1893 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbargyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCwnsler y Brenin Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Cafodd Morgan Lloyd ei eni yng Nghefngellgwm, fferm ger Trawsfynydd, yn fab i Morris Lloyd, amaethwr, ac Ann (Humphreys) ei wraig. Fe'i bedyddiwyd yng nghapel Moriah (neu "Gapel Arddlas")[1] y Trefnyddion Presbyteraidd, Trawsfynydd ar 20 Awst o'r un flwyddyn.[2]

Bu'n fyfyriwr dan hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Bala ond ar ddiwedd ei gyfnod yno penderfynodd barhau a'i addysg yn hytrach na chael ei ordeinio. Ar y pryd doedd anghydffurfwyr ddim yn cael mynychu prifysgolion Lloegr (doedd dim prifysgol yng Nghymru) gan hynny aeth i Brifysgol Caeredin a galwyd ef at y Bar yn Ionawr 1847 .

Bywyd ym myd y gyfraith golygu

Ar ôl ei gyfnod yn y Brifysgol aeth yn ddisgybl bargyfreithiwr i'r Deml Ganol yn Llundain ble cafodd ei alw i'r bar ym 1847. Bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghylchdaith Caer a Gogledd Cymru, lle'r oedd yn cael ei gydnabod fel dadleuwr medrus dros achos diffinyddion. Fe'i gwnaed yn Gwnsler y Frenhines (QC) ym 1873 a'i ethol yn un o Feincwyr y Deml Canolog ym 1875. Ysgrifennodd nifer o erthyglau ysgolhaig ar faterion y gyfraith gan gynnwys y llawlyfr dylanwadol ar gyfer y llysoedd sirol The Law and Practice of the County Courts .[3]

Gyrfa wleidyddol golygu

Dechreuodd ddangos diddordeb yn y byd gwleidyddol yn gynnar yn ei yrfa gyfreithiol gan fod yn un frwdfrydig dros hawliau anghydffurfwyr a hawliau amaethwyr bychain a thenantiaid fferm .

Safodd etholiad pedair gwaith, ac ar bob achlysur yn erbyn ymgeisydd arall o'r Blaid Ryddfrydol, gan ei fod yn wrthwynebus i'r achos Rhyddfrydol a oedd yn cael ei gynrychioli gan ddosbarth y landlordiaid. Safodd gyntaf yn 1868 yn erbyn William Owen Stanley o Benrhos, mab yr Arglwydd Stanley o Alderley, yn etholaeth Biwmares ond bu'n aflwyddiannus.

Ym 1874 llwyddodd i gipio sedd Biwmares gan wrthwynebu ei gyd aelod o'r Blaid Ryddfrydol Syr Edmund Hope-Verney, bonheddwr o Sais. Bu'n gynrychiolydd y fwrdeistref hyd ddiddymiad yr etholaeth ym 1885.

Pan ddiddymwyd etholaeth Biwmares safodd Lloyd yn etholaeth Meirion yn erbyn Henry Robertson perchennog Ystâd y Pale, Llandderfel. Cafodd lawer o gefnogaeth bersonol yn ardaloedd chwarelyddol yr etholaeth megis Ffestiniog a Chorris ond nid gan y wasg Ryddfrydol Cymraeg, a gan hynny methodd ei ymgais etholiadol.[4]

Oherwydd ei gred bod Undeb y Deyrnas Gyfunol yn amddiffyn achos Protestaniaeth torrodd Morgan Lloyd â'r Prif weinidog William Gladstone ar achos hunan lywodraeth i'r Iwerddon Babyddol, ac ym 1892 safodd ei etholiad olaf fel ymgeisydd Rhyddfrydol Unoliaethol ar gyfer sedd Môn, gan golli eto i'r obscure corn factor Thomas Lewis[5].

Achos Prifysgol Cymru golygu

Tu allan i'w fywyd cyfreithiol a gwleidyddol bu diddordeb mawr gan Lloyd ym myd addysg Cymru. Roedd yn un o gefnogwyr mwyaf brwdfrydig y syniad o godi Prifysgol yng Nghymru. Bu ymysg y rhai a oedd yn derbyn cyfraniadau'r werin tuag at achos sefydlu Prifysgol Cymru trwy weithio'n wirfoddol fel fel un o'i is-drysoryddion ym 1863. Ar ôl gwireddu'r freuddwyd bu'n ysgrifennydd mygedol i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth hyd at ei farwolaeth ym Medi 1893.

Bywyd personol golygu

Bu'n briod ddwywaith, y tro cyntaf gyda merch i'r llyngesydd Charles Elphinstone Fleming bu farw yn fuan ar ôl eu priodi, ac yn ail gyda Priscilla, merch James Lewes, Cwmhyar, sir Aberteifi.

Bu Morgan Lloyd farw o drawiad ar y galon yn Brook Green, Llundain ar y 5ed o fis Medi 1893 gan adael tri o blant; claddwyd ef ym mynwent Willesden, Llundain .

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan familysearch.org;[dolen marw] adalwyd 19 Hydref 2013
  2. https://familysearch.org/pal:/MM9.1.1/X1YT-JB3 adalwyd Hydref 19 2013
  3. Y Bywgraffiadur Ar-lein LLOYD , MORGAN ( 1820 - 1893 ) http://yba.llgc.org.uk/cy/c-LLOY-MOR-1820.html adalwyd 19 Hydref 2013
  4. Y Dydd 12 Gorffennaf 1895- Fersiwn ar-lein http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3163949/ART2 adalwyd 19 Hydref 2013
  5. Evening Express 9 Medi 1893 Fersiwn ar-lein http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3238122/ART17 adalwyd Hydref 192013
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Owen Stanley
Aelod Seneddol dros Biwmares
18741885
Olynydd:
Diddymu'r sedd