Thomas Myddelton

person busnes, gwleidydd (1550-1631)
(Ailgyfeiriad o Thomas Myddleton)

Dyn busnes Cymreig ac Arglwydd Faer Llundain ym 1613 oedd Syr Thomas Myddelton (1550 - 12 Awst 1631, weithiau Myddleton neu Middleton), o Gastell y Waun. Roedd Syr Thomas Myddelton yn bwysig ym mywyd Llundain ar ddechrau'r 18g. Ei fab hynaf oedd Thomas Myddelton (1586–1666), a brynodd Castell Rhuthun ym 1632, ac oedd yn Aelod Seneddol ym 1624 dros Weymouth, ac yn A.S. Dinbych ym 1625.

Thomas Myddelton
Ganwyd1550 Edit this on Wikidata
Bu farw1631 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Member of the 1626 Parliament, Arglwydd Faer Llundain Edit this on Wikidata
TadRichard Myddelton Edit this on Wikidata
MamJane Dryhurst Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Brooke, Anna Vanaker, Elizabeth, Hester Saltonstall Edit this on Wikidata
PlantThomas Myddleton, Henry Myddelton, Timothy Myddelton, Hester Myddelton, Mary Myddelton, Richard Myddelton, Timothy Middleton Edit this on Wikidata
Castell y Waun: a brynnodd yn 1595 am £5,000.
Am y dramodydd o'r un cyfnod, gweler Thomas Middleton.

Gyrfa golygu

Roedd Syr Thomas Myddelton yn aelod-sefydlydd o'r East India Company, ac wedi ariannu teithiau Drake, Raleigh a Hawkins yn Y Caribî. Drwy'r cyfoeth a ddaeth o hyn fe brynodd arglwyddiaeth a chastell y Waun (ger y Waun) am £5,000 gan St John of Bletsloe ym 1595.

Dechreuodd Syr Thomas fel prentis i siopwr yn Llundain, cyn dod yn Ddyn-rhydd y Grocers' Company ym 1582, wedyn arolygydd y pothladdoedd tua 1580 ac erbyn 1595 yn gynghorydd i'r llywodraeth ar godi trethi a chyflenwi nwyddau. Roedd yn A.S. Merionydd erbyn 1597 ac yn Arglwydd Rhaglaw'r sir ym 1599, yn Arglwydd Faer Llundain yn 1613, ac yn A.S. y Ddinas rhwng 1624–1626. Ym 1615 prynodd faenordy yn Essex ac eiddo eraill yn Ne-ddwyrain Lloegr. Ym 1628–1629 prynodd Argwyddiaeth Arwystli a Chyfeiliog.

Y Gymraeg golygu

Roedd yn noddwr hael o argraffiadau cynnar o'r beibl Cymraeg, mor hael fod Stephen Hughes, y Piwraton, wedi cyfansoddi bendith iddo a'i "eppil". Fel ffigwr amlwg yn ardal Castell y Waun ac ym Meirionydd yr oedd e'n gysylltiedig â datblygiadau yr Eglwys yng Nghymru.

Ynghyd â Rowland Heylyn, ariannodd Myddelton gyhoeddiad o'r Beibl Cymraeg a oedd yn addas i'w ddefnyddio o ddydd i ddydd.[1]

Arall golygu

Cyfansoddodd y dramodydd Seisnig Thomas Middleton ddrama ym 1713 i ddathlu achlysur Thomas Myddelton yn dod yn Arglwydd Faer Llundain, sef A Cheap Maid in Cheapside. Yn y ddrama mae aeres ddiniwed o Gymru yn dod i Lundain i briodi a hithau heb air o Saesneg, "Dygat a chwee" yw ei hunig eiriau - sef "Duw gyda chwi" enghraifft prin iawn o'r Gymraeg ar lwyfan Saesneg.

Y Teulu golygu

Daeth enw'r teulu o Robert Myddelton, mab Rhirid ap Dafydd o Benllyn (1393–1396), drwy ei briodas â Cecilia, aeres Syr Alexander Myddleton o Middleton, pentref bychan ym mhlwyf Llanffynhonwen (Saesneg: Chirbury), Swydd Amwythig gan fabwysiadu cyfenw ei wraig. Saif y pentref oddeutu milltir o ffin bresennol Cymru a Lloegr. Bu gan eu disgynyddion swyddi o dan y Goron, yn Sir Ddinbych a symudodd tri o feibion Richard Myddelton (c. 1508-75) i Lundain. Ymhlith y mwayf adnabyddus o'r teulu y mae:

  • Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631), Arglwydd Faer Llundain
  • Syr Hugh Myddelton (1560 - 1631), peirinnydd y New River
  • William Midleton (c. 1550 - c. 1600) neu 'Gwilym Canoldref', bardd, fforiwr a milwr.
  • Syr Thomas Myddelton (1586 - 1666) o'r Waun ac yna Wrecsam; mab Arglwydd Faer Llundain (uchod). Arweiniodd luoedd y Senedd yn y gogledd-ddwyrain
  • Thomas Myddelton (c. 1624 - 1663) a wnaed yn farwnig yn 1660 am ei wasanaeth i'r Goron.

Daeth y llinach wrywaidd i ben yn 1796.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu