Wiliam Midleton

bardd, milwr, a morwr
(Ailgyfeiriad o William Midleton)

Roedd Wiliam Midleton (c. 15501596) yn fardd Cymraeg a oedd hefyd yn filwr ac yn anturiwr.[1]

Wiliam Midleton
Ganwydc. 1550 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1600 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, milwr Edit this on Wikidata

Brodor o "Archwedlog", Lansannan, Sir Ddinbych oedd Midleton ac roedd yn fab i Ffowc Midleton.

Milwr a môr-herwr golygu

Bu'n ysgrifennydd i William Herbert, Iarll 1af Penfro (1501–1570) (Ail Iarllaeth Penfro, 1551) ac yna i'w fab Henry Herbert, 2il Iarll Penfro (1534–1601). Yng nghartref yr Herbertiaid yn Wilton ger Caersallog (Salisbury) daeth i adnabod yr anturiwr Syr Philip Sidney (1554-1586), brawd Mary, gwraig Henry Herbert.

Yn 1585 aeth Midleton gyda'r fyddin Seisnig i'r Iseldiroedd gan wasanaethu fel llumanwr Sidney ym Mrwydr Zutphen lle clwyfwyd Syr Philip Sidney. a bu farw. Yn 1589 bu Midleton ar gyrch milwrol Seisnig aflwyddiannus i Bortiwgal. Wedi hynny dechreuodd ar yrfa fel môr-herwr (privateer) yn ysbeilio llongau Sbaen. Yn 1589 yr oedd yn gapten ar yr Elizabeth and Mary, llong o'r eiddo ei gefnder Thomas Myddelton, masnachwr cyfoethog o Lundain, a hwyliodd i borthladd Plymouth ar ôl dal llong ac ynddi gargo gwerth £2,700. Yn 1590 hwyliodd yn y Riall, un arall o longau ei gefnder, gan ddal dwy long a hwyliai o Firenze i Lisboa ac ynddynt gargo gwerth £13,000. Adlewyrchir gyrfa Midleton fel morherwr yn yr hanes amdano a geir mewn llawysgrif a fu'n eiddo i Thomas Pennant: dywedir mai Midleton, ynghyd â dau arall (un ohonynt oedd y bardd a'r morherwr Tomos Prys o Blas Iolyn) oedd 'the first that smoaked Tobacco publickly at London'. Mae'r awdur Seisnig Richard Robinson (1544/5-1603) yn cofnodi anturiaethau Midleton ar y môr yn llongau George Clifford, trydydd iarll Cumberland (1558-1605), gan nodi mai Midleton a roes iddo'r wybodaeth am wyth o deithiau morherwol Clifford. Yn 1595 hwyliodd Midleton gyda Syr Francis Drake a Syr John Hopkins fel capten y Salomon Bonaventure yn y cyrch i Banama y bu farw'r ddau Sais arno. Pan oedd ei long wrth angor yn ynys Escudo, man annymunol not inhabited ... but full of Tarrtasis and Aligators, gorffennodd Midleton ei fydryddiad Cymraeg o'r Salmau ar 24 Ionawr 1596. Cofnoda Richard Robinson i Midleton farw yn Falmouth wedi iddo ddychwelyd o Banama.[2]

Y llenor golygu

Roedd teulu Midleton yn noddwyr beirdd a dysgodd grefft y canu caeth. Yn 1594 cyhoeddodd Bardhoniaeth, neu brydydhiaeth, llawlyfr a fwriadwyd i gynorthwyo beirdd amatur a ddymunai ddysgu'r grefft.[3]

Mae'n debyg i fydryddiad Midleton o rai o'r salmau, Rhann o Psalmae Dauyd, a Phrophwyti eraill gael ei gyhoeddi yn 1595 cyn iddo ymadael am Banama. Cyhoeddwyd ei fydryddiad llawn Psalmae y brenhinol brophwyd Dafydh yn 1603 ar ôl iddo farw. Yn wahanol i fydryddiad diweddarach Edmwnd Prys (1621) nid mydryddiad i'w ganu gan gynulleidfaoedd oedd hwn, ond ymarferiad llenyddol soffistigedig y gellid ei ddefnyddio ar gyfer defosiwn preifat. Mae perthynas Midleton â Syr Philip Sidney yn berthnasol yn y cyswllt hwn. Fel salmau Sidney, bwriadwyd salmau Midleton fel tour de force mydryddol; defnyddiodd 43 o fesurau gwahanol er mwyn dangos cyfoeth mydryddiaeth Gymraeg. Mae'n bur debyg iddynt gael eu hysbrydoli gan salmau Sidney (a ddefnyddiodd 43 o fesurau yn y 43 salm a fydryddodd ef).[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gruffydd Aled Williams, *Wiliam MIdleton, bonheddwr, anturiwr a bardd', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 24 (1975), 74-116; Idem, 'Hanes Wiliam Midleton: tystiolaeth Richard Robinson', Llên Cymru, 35 (2012), 19-31.
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig; gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; awdur: Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892–1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd; adalwyd 28 Medi 2016.
  3. Barddoniaeth neu Brydyddiaeth, gol. G. J. Williams (Caerdydd, 1930).
  4. Gruffydd Aled Williams, 'Psalmae Wiliam Midleton', Ysgrifau Beirniadol XVII, gol. J. E. C. Williams (Dinbych, 1990), 93-113.