Thomas Middleton
- Mae'r erthygl hon am y bardd Seisnig. Am yr erthygl am y bardd o'r Waun o'r un cyfnod, gweler Thomas Myddleton.
Bardd a dramodydd Seisnig oedd Thomas Middleton (bedyddiwyd 18 Ebrill 1580 – Gorffennaf 1627). Cyd-weithiodd a Dekker a John Webster, ac roedd rhai yn drysu rhyngddo a Shakespeare.
Thomas Middleton | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
18 Ebrill 1580, 28 Ebrill 1580 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw |
4 Gorffennaf 1627, 2 Gorffennaf 1627 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig, Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
dramodydd, bardd, ysgrifennwr, dramodydd ![]() |
Adnabyddus am |
The Changeling, Women Beware Women ![]() |
BywydGolygu
Ganed yn Llundain yn fab i adeiladwr cyfoethog. Aeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen, cyn cadael heb raddio, ym 1598. Priododd ym 1603.
GwaithGolygu
Cyhoeddodd gerddi tra yn Rhydychen tua 1600. Gwaharddwyd ei waith ar y pryd gan y sensor. Dechreuodd ysgrifennu pamffledi fel 'Penniless Parliament of Threadbare Poets' a recordwyd ei waith gan Philip Henslowe yn ei ddyddiadur. Roedd yn gyfaill i Thomas Dekker ond yn elyniaethus at Ben Jonson a George Chapman yn y 'War of the Theatres'. Ysgrifenodd Jonson drama 'The Staple of News' sy'n enllibio drama Middleton, 'A Game at Chess'.
Erbyn 1610, cydweithiodd Middleton â'r actor William Rowley, ac yn 1620, cafodd swydd 'City Chronologer' ar gyfer Dinas Llundain. Daliodd y swydd tan 1627, pan aeth y swydd i Jonson. Daeth ddiwedd ar ei ddramau yn 1624, pan waharddwyd 'A Game at Chess' gan y Cyfrin Gyngor, ac dysgrifennodd dim byd wedyn. Bu farw yn ei dŷ yn Newington Butts ym 1627.
DramauGolygu
- The Phoenix (1603-4)
- The Honest Whore, Rhan 1, comedi dinesig (1604), ar y cyd a Thomas Dekker
- Michaelmas Term, comedi dinesig, (1604)
- A Trick to Catch the Old One, comedi dinesig (1605)
- A Mad World, My Masters, comedi dinesig (1605)
- A Yorkshire Tragedy, trasiedi un act (1605); i Shakespeare yn ôl y tudalen blaen ond cytunir heddiw ei fod yn waith Middleton.
- Timon of Athens trasiedi (1605-1606); o bosibl ar y cyd a William Shakespeare.
- The Puritan (1606)
- The Revenger's Tragedy (1606). a nid i Cyril Tourneur.
- Your Five Gallants, comedi dinesig (1607)
- The Bloody Banquet (1608-9); ar y cyd a Thomas Dekker.
- The Roaring Girl, comedi dinesig am Mary Frith (1611); ar y cyd a Thomas Dekker.
- No Wit, No Help Like a Woman's, comedi trasig (1611)
- The Second Maiden's Tragedy, trasiedi (1611);
- A Chaste Maid in Cheapside, comedi dinesig am aeres o Gymru (1613) i ddathlu Thomas Myddleton (y Waun) fel Arglwydd Faer Llundain 1613.
- Wit at Several Weapons, comedi dinesig (1613)
- More Dissemblers Besides Women, comedi trasig (1614)
- The Widow (1615-16)
- The Witch, comedi trasig (1616)
- Macbeth (Addasiad Thomas Middleton), trasiedi. Addasiad o Macbeth gan Shakespeare Macbeth ym 1616, ond gyda llinellau o The Witch.
- A Fair Quarrel, comedi trasig (1616). trasiedi William Rowley.
- The Old Law, comedi trasig (1618-19). trasiedi William Rowley a Philip Massinger neu Thomas Heywood.
- Hengist, King of Kent, or The Mayor of Quinborough, trasiedi (1620)
- Women Beware Women, trasiedi (1621)
- Measure for Measure. Dan ddylanwad ShakespeareMeasure for Measure ym 1621.
- Anything for a Quiet Life, comedi dinesig (1621). ar y cyd a John Webster.
- The Changeling, trasiedi (1622). ar y cyd a William Rowley.
- The Nice Valour (1622).
- The Spanish Gypsy, comedi drasig (1623). ar y cyd a William Rowley addasiad gan Thomas Dekker a John Ford.
- A Game at Chess, sateir politicaidd (1624). Am briodas Charles, mab James I o Loegr.