Thomas Phaer

cyfreithiwr, meddyg, a chyfieithydd

Roedd Thomas Phaer (sillafir hefyd yn Phaire, Ffair, Faer, Phayre, Phayer) (tua 1510 - cyn 12 Awst, 1560) yn gyfreithiwr, yn weinyddwr o Loegr yng Nghymru Oes y Tuduriaid, yn baediatregydd, ac yn awdur. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Boke o Chyldren, a gyhoeddwyd ym 1545, sef y llyfr cyntaf ar baediatreg a ysgrifennwyd yn yr iaith Saesneg. Fe wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin ac Aberteifi [1]

Thomas Phaer
Ganwydc. 1510 Edit this on Wikidata
Norwich Edit this on Wikidata
Bu farw1560 Edit this on Wikidata
Cilgerran Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552, Member of the 1555 Parliament, Aelod o Senedd 1558, Member of the 1559 Parliament Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Credir bod Phaer wedi ei eni yn Norwich. Roedd yn fab i Thomas Phaer, gŵr o dras Fflemig a Clara née Godier ei wraig.

Cafodd Phaer ei Addysgu ym Mhrifysgol Rhydychen.

Rhywbryd rhwng 1548 a 1551 priododd Anne Revel, gweddw Thomas Revel, masnachwr ffyniannus yn Sir Benfro. Mae'n bosib mae hwn oedd ei ail briodas; bu iddynt o leiaf dau blentyn dwy ferch a enwyd yn Mary ac Elizabeth ar ôl merched Harri VIII [2]

Y Gyfraith

golygu

Astudiodd y gyfraith yn Lincoln's Inn, a chafodd ei benodi yn gyfreithiwr yn Llys y Gororau; ar ei benodiad ymsefydlodd yng Nghilgerran gan drigo yno hyd ddiwedd ei oes. Ysgrifennodd dau lyfr ar y gyfraith yn Saesneg, Natura brevium ym 1530 a New Book of Presidentes (hy Precedence - barnwriaethau blaenorol) ym 1543; bu a New Book of Presidentes yn gyfrol hynod boblogaidd, gan gael ei ail-argraffu 27 o weithiau hyd 1656.

Meddygaeth

golygu

Tua 1540 dechreuodd Phaer ymddiddori ym maes meddygaeth gan weithio fel meddyg a chyhoeddi llyfrau meddygol. Ym 1544 cyhoeddodd The Regiment of Lyfe, cyfieithiad o waith meddygol gan Jehan Goeurot, a thair gyfrol o lyfrau meddygol o'i waith ei hun, A Goodly Bryefe Treatise of the Pestylence, A Declaration of the Veynes a The Boke of Chyldren. Mae The Boke of Chyldren[3] yn waith arbennig o bwysig yn hanes datblygiad meddygaeth gan ei fod ymysg y cyntaf i gydnabod plant fel dosbarth arbennig o gleifion, y llyfr oedd un o'r traethodau cyntaf i wahaniaethu rhwng plentyndod ac oedolaeth.[4]

Un o'r ddeddfau Cymreig cyntaf, nad oedd yn ymwneud a'r cyfansoddiad i gael ei phasio gan Lywodraeth Lloegr ar ôl uno oedd deddf ym 1547 ar nyrsio plant yng Nghymru, mae'n debyg mae Phaer oedd yn gyfrifol am ei gyflwyno a'i lliwio trwy'r Senedd.

Ym 1559 gwnaeth cais i Brifysgol Rhydychen am radd Bagloriaeth mewn Meddygaeth ar y sail ei fod wedi bod yn ymarfer fel meddyg ers dros ugain mlynedd ac wedi gwneud ymchwil ym maes gwenwyn a gwrthwenwyn; caniatawyd ei gais am MB ym mis Chwefror 1559 a derbyniodd gradd Doethur mewn Meddygaeth ym mis Mawrth 1559.

Cyfieithydd a llenor

golygu

Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau proffesiynol ym meysydd y gyfraith a meddygaeth bu Phaer hefyd yn awdur a chyfieithydd o farddoniaeth. Cyfieithodd rhannau helaeth o Aeneid gan Fyrsil, ond bu farw cyn cwblhau'r gwaith. Ymysg ei farddoniaeth ei hun mae ganddo galarnad gan Owain Glyn Dŵr am gael ei gamarwain i ddistryw trwy gredu ffug daroganau amdano'i hun.

Boed yn ei lyfrau cyfreithiol, meddygol neu lenyddol y peth mwyaf nodweddiadol o waith Phaer yw'r pwysigrwydd y mae'n rhoi ar ddefnyddio'r Saesneg, iaith y werin, mewn llyfrau yn hytrach na Lladin yr uchelwyr, sydd yn beth od, i raddau, gan ei fod yn byw a gweithio mewn ardal lle nad oedd llawer o'r werin yn gallu'r Saesneg.

Gwasanaeth cyhoeddus

golygu

Yn ogystal â gwasanaethu fel cyfreithiwr i Gyngor y Gororau bu Phaer yn cynrychioli etholaethau Cymreig mewn pedair senedd gan gael ei ddychwelyd dros Bwrdeistrefi Caerfyrddin (1547) ac wedyn Bwrdeistrefi Aberteifi (1555, 1558, 1559). Bu'n dal amrywiaeth o swyddi lleol, gan gynnwys gwasanaethu fel stiward Cilgerran a Chwnstabl Castell Cilgerran o 1548 hyd ei farwolaeth, bu'n Ustus Heddwch yn Sir Aberteifi, ac yn swyddog y tollau yn Aberdaugleddau a phorthladdoedd eraill. Mae ei Adroddiad ar daith o amgylch arfordir Cymru, a baratowyd yn ystod teyrnasiad Edward VI, yn parhau i fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am weinyddiaeth ac arferion porthladdoedd Cymru yng nghanol yr 16g.[5]

Marwolaeth

golygu
 
Cofeb Thomas Phaer, Eglwys Cilgerran.

Ym 1560 syrthiodd Phaer oddi ar gefn ei geffyl gan achosi anaf difrifol i'w llaw dde, bu farw o achos cymhlethdodau yn deillio o'r anaf tua mis Awst 1560. Claddwyd ei weddillion yn Eglwys Cilgerran. Ym 1986 codwyd plac yn yr eglwys er cof amdano gan danysgrifiad ymysg darllenwyr The British Medical Journal.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur ar lein PHAER (neu PHAYER ), THOMAS (1510? - 1560)
  2. Philip Schwyzer, ‘Phaer, Thomas (1510?-1560)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Oct 2009 accessed 15 Dec 2015
  3. Thomas Phaer and The boke of chyldren (1544) fersiwn arlein [1] adalwyd 16 Rhagfyr 2015
  4. JAMA Pediatrics PEDIATRIC BIOGRAPHIES August 1928 THOMAS PHAER 1510?-1560 by JOHN RUHRÄH Cyf Am J Dis Child. 1928;36(2):367-369. doi:10.1001/archpedi.1928.01920260175014. cyfeiriad arlein :[2] adalwyd 16 Rhagfyr 2015
  5. The History of Parliament on line PHAER (FAYRE), Thomas (by 1514-60), of Carmarthen, Carm.; Forest, Cilgerran, Pemb. and London. [3] adalwyd 16 Rhagfyr 2015
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Gruffydd Williams
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
15471553
Olynydd:
William Parry
Rhagflaenydd:
ansicr
Aelod Seneddol Aberteifi
15551559
Olynydd:
John Gwyn