Arweinydd cerddorfa wedi ei geni yn Tseina, ac wedi ei magu yn Seland Newydd yw Tianyi Lu (ganwyd 1989/1990).

Tianyi Lu
Ganwyd1990 Edit this on Wikidata
Shanghai Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetharweinydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tianyi-lu.com/ Edit this on Wikidata

Yn 2024 Lu oedd arweinydd preswyl Cerddorfa Symffoni Stavanger, Norwy.[1][2]

Mae hi wedi arwain cerddorfeydd rhyngwladol fel Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd a Cherddorfa Symffoni Bournemouth. Yn 2024, bu’n arwain Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Yn 2015, cwblhaodd Lu radd meistr mewn Arwain Cerddorfaol gyda David Jones yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[3][4] Mae hi hefyd wedi mynychu llawer o ddosbarthau meistr ar draws Ewrop.[3][4]

Yn 2024, bu’n arwain Cerddorfa Symffoni BBC yn y BBC Proms am y tro cyntaf. Roedd hi’n arwain “Yr Aderyn Tân” gan Igor Stravinsky. Roedd The Sorcerer’s Apprentice ("Prentis Y Dewin") - gan Paul Dukas hefyd yn y rhaglen.[5]

Bywyd personol

golygu

Ganwyd Lu yn Shanghai, ond symudodd i Auckland, Seland Newydd pan oedd yn bump. Mae hi hefyd yn gallu canu'r ffliwt.[6]

Swyddi

golygu

Yn 2014, penodwyd hi yn Brif Arweinydd Sinfonia St Woolos yng Ngymru. Yn haf 2024, symudodd i swydd newydd yn Yr Iseldiroedd.[7]

Roedd Lu hefyd yn Dudamel Fellow gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles am dymor 2017/2018.

Rhwng 2017 a 2019, Lu oedd arweinydd cynorthwyol Cerddorfa Symffoni Melbourne.

Yn 2019, Lu oedd yr arweinydd preswyl benywaidd cyntaf ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn 2021, penodwyd Lu yn Arweinydd Preswyl Cerddorfa Symffoni Stavanger, Norwy.[3]

Yn 2023, penodwyd Lu yn aelod o fwrdd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Gwobrau

golygu

Yn 2020, enillodd yng Nghystadleuaeth Arwain Rhyngwladol "Guido Cantelli" yn Yr Eidal.[8][9]

Yn 2020, enillodd yng Nghystadleuaeth Arwain Rhyngwladol Syr Georg Solti yn Yr Almaen.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tianyi Lu". Royal Welsh College of Music & Drama (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-07.
  2. Ltd, Supercool (2024-09-07). "Tianyi Lu". WNO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-07.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Tianyi Lu announced as SSO's Conductor-in-Residence". Stavanger Symphony Orchestra. 18 Mawrth 2021. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
  4. 4.0 4.1 "Meet NZSO featured conductor Tianyi Lu | New Zealand Symphony Orchestra | NZSO". www.nzso.co.nz (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-07.
  5. "Stravinsky's 'Firebird' with the BBC Symphony Orchestra". www.royalalberthall.com. 18 Awst 2024. Cyrchwyd 7 Medi 2024.
  6. "Finding a way to make connections". Otago Daily Times Online News (yn Saesneg). 19 Medi 2019. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
  7. "St Woolos Sinfonia". St Woolos Sinfonia (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-09.
  8. "New Zealand conductor wins the first conducting competition she enters". RNZ (yn Saesneg). 2020-09-28. Cyrchwyd 2024-09-09.
  9. "The Winners and Grinners — 2020 International Prize Winners [CONGRATS]". web.archive.org. 2021-12-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-14. Cyrchwyd 2024-09-09.