Cyfarwyddwr theatr a dramodydd a aned yn Birmingham yw Timothy Rossiter Baker neu Tim Baker (ganwyd Mai 1953).[1] Un o sefydlwyr Theatr Gorllewin Morgannwg a bu'n gyfarwyddwr preswyl yn Theatr Clwyd ers 1997.

Tim Baker
GanwydTimothy Rossiter Baker
Mai 1953
Birmingham, Lloegr
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr

Mae o wedi cyfarwyddo i nifer o gwmnïau theatr ar draws y byd gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Frec a Frec (Catalonia); Theatr Genedlaethol Siapan; Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd; Mountview Academy of Dramatic Arts; Lewis and Clark Summer Institute (Portland, Oregon).[1]

Cafodd ei urddo i'r Wisg Werdd yn yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinych 2013.[2]

Yn 2014, cafodd yr anrhydedd o fod yn Gymrawd Mygedol o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam.[3]

Tim fu'n gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru am 4 blynedd.[3]

Ennillodd nifer o wobrau theatr Prydeinig am ei waith gan gynnwys To Kill a Mockingbird (Manchester Evening News Cynhyrchiad Teithiol Gorau Best 2002); Liverpool Daily Post Cynhyrchiad Rhanbarthol Gorau: A View From the Bridge (2003); Barclays Stage Partners Award: To Kill a Mockingbird (2001); Barclays Stage Partners Award: Flora's War' (2000); Liverpool Daily Post Gwobr am y Cynyhyrchiad Gorau Rape of the Fair Country (1997)[3]

Derbyniodd ganmoliaeth gan adolygydd Theatr Y Cymro, Paul Griffiths yn 2010 - "Dwi di bod yn ffan mawr o waith Tim [Baker] ers blynyddoedd, o ddyddiau cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg, hyd ei gyfnod presennol yng Nghlwyd Theatr Cymru. Roedd pob cynhyrchiad wastad yn taro deuddeg, yn llawn emosiwn, gydag ensemble cryf o actorion profiadol yn mynd â ni ar daith, er gwaethaf eu hamgylchiadau. Yn wir, af i gyn belled a dweud fod enw Tim yn uchel ar fy rhestr o gyfarwyddwyr posib i arwain y Theatr Genedlaethol."[4]

Theatr

golygu

detholiad

fel cyfarwyddwr:

fel awdur / addaswr:

  • Flora's War
  • The Secret
  • The Ballad of Megan Morgan
  • The Mabinogion
  • Flights of Fancy
  • The Voyage
  • Tales From Europe
  • The Timeless Myths of the Mabinogion
  • Silas Marner
  • Hard Times
  • The Way it Was
  • The Grapes of Wrath
  • Word for Word / Gair am Air (Clwyd Theatr Cymru).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Theatr Genedlaethol Cymru. Rhaglen Porth y Byddar.
  2. "Rhestr lawn o'r Cymry i'w hurddo i Orsedd y Beirdd yn 2013". BBC Cymru Fyw. 2013-05-22. Cyrchwyd 2024-09-26.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Amdanom / About". Flying Bridge Theatre Company (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-26.
  4. "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-26.