Porth y Byddar (drama)
Drama lwyfan Gymraeg gan Manon Eames sy'n adrodd hanes Boddi Tryweryn yw Porth y Byddar. Llwyfannwyd y gwaith gan Theatr Genedlaethol Cymru, ar y cyd â Clwyd Theatr Cymru yn 2007 i nodi 50 mlynedd [Gorffennaf 1957] ers pasio "Mesur Seneddol fyddai'n caniatáu boddi dyffryn Tryweryn, er mwyn creu cronfa ddŵr i gyflenwi anghenion dinas Lerpwl." [1] Ni chyhoeddwyd y ddrama, ond fe'i haddaswyd yn nofel gan Manon Eames o dan yr un enw, Porth y Byddar.
Clawr y rhaglen swyddogol o 2007 | |
Enghraifft o'r canlynol | drama lwyfan |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 2007 |
Awdur | Manon Eames |
Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd |
Pwnc | Boddi Tryweryn |
Disgrifiad byr
golygu"Mae Porth y Byddar yn adrodd hanes y digwyddiadau yng Nghymru 50 mlynedd yn ôl, yn dilyn y penderfyniad i foddi pentref Capel Celyn, ger y Bala, i greu cronfa ddŵr enfawr i gludo dŵr i Lerpwl.
Syrthiodd apeliadau a phrotestiadau ar glustiau byddar. Pasiwyd y cynllun gan y Senedd [yn San Steffan] ac, ar 1 Awst, 1957, derbyniodd y Sêl Brenhinol angenrheidiol. Collwyd yr ysgol, y capel, y swyddfa bost, 11 fferm a’r fynwent am byth, a chwalwyd y gymuned."[2]
Cefndir
golygu"Drama gan Manon Eames yw Porth y Byddar, a gomisiynwyd gennym [Clwyd Theatr Cymru] ar achlysur yr Eisteddfod Genedlaethol [Sir Y Fflint 2007]" dywed Terry Hands, yn Rhaglen swyddogol y cynhyrchiad. "Gyda'r cynhyrchiad hwn rydym yn torri tir newydd mewn sawl ystyr; dyma'r Eisteddfod gyntaf yn Sir y Fflint ers i Tim [Baker] a minnau fod yma, dyma ein cyd-gynhyrchiad cyntaf gyda Theatr Genedlaethol Cymru, a'n cynhyrchiad prif-lwyfan cyntaf yn y Gymraeg", ychwanegodd.[1]
O dan y pennawd, "Mwy na Tryweryn / Mwy na symbol...", mae'r dramodydd Manon Eames yn egluro'r cefndir.
"Mae hanes cymhleth Boddi Tryweryn yn ymestyn dros gyfnod o ddeng mlynedd, ac wrth ymchwilio'n fanwl drwy'r dystiolaeth, wrth ddarllen a gwrando, trafod ac ysgrifennu, fe gefais fy argyhoeddi fwyfwy bod gwir angen i ni deall 'Tryweryn' fel rhywbeth mwy na symbol, waeth pa mor bwerus, yn yr isymwybod cyffredinol - deall beth ddigwyddodd, a sut a pham y boddwyd Capel Celyn". [1]
"Tu ôl i'r symbol cyfarwydd a grymus mae yna ffeithiau caled, gwarth, brad, arswyd a phoen; trwy eu cofio nhw y gwelir goblygiadau ac arwyddocâd gweithred sydd, efallai - yn fwy nag unrhyw beth arall yn yr oes fodern [cyn 2007] - wedi dylanwadu ac effeithio arnom ni fel cenedl". [1]
"Ond dydi ffeithiau caled ddim yn creu drama: o ganlyniad, mae seiliau ffeithiol i Porth y Byddar, ond mae'r ddrama wedi ei hadeiladu o'm hymateb personol a chreadigol i i'r hyn a ddarganfyddais: proses o roi cig a gwaed ar sgerbwd o ffeithiau oer. Mae yn y ddrama gymeriadau hanesyddol, ond hefyd cymeriadau hollol ffuglennol wedi eu creu gen i; mae sail hanesyddol i sawl golygfa, ond mae yna hefyd olygfeydd hollol wreiddiol wedi eu dychmygu gen i. Ymateb creadigol i dystiolaeth real, ar lafar ac ar bapur, ydi'r ddrama, gyda'r bwriad o gyfleu gwirioneddau, yn ogystal ag ysbryd, trasiedi Tryweryn - boed yn deillio o hanes, o'mhen, neu o'nghalon".[1]
Cymeriadau
golyguCyfansoddwyd y gwaith fel darn ensemble ar gyfer y cwmni gyda nifer o gymeriadau amrywiol. Ni restrwyd y cymeriadau yn y Rhaglen.
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y gwaith gan Theatr Genedlaethol Cymru, ar y cyd â Clwyd Theatr Cymru yn 2007. Cyfarwyddwr Tim Baker; cynllunydd Set Max Jones; cynllunydd gwisgoedd Debbie Knight; cynllunydd goleuo Nick Beadle; cyfansoddwr Dyfan Jones; cynllunydd sain Kevin Heyes; cast: Phil Reid, Betsan Llwyd, Victoria Pugh, Rhian Blythe, Llion Williams, Rhodri Evan, Sara Lloyd, Iola Hughes, Wyn Bowen Harries, Simon Watts, Dyfan Roberts a Sion Pritchard.
Canmolwyd y cynhychiad yn y Daily Post gan ddatgan "Mae yna rai eiliadau teimladwy a dramatig iawn - fel y trên olaf yn mynd heibio; y wers olaf yn yr ysgol tra bod y plant yn gweld eu pentref yn cael ei chwalu tu allan; y gwasanaeth olaf yn y capel; datgladdu'r cyrff o'r fynwent liw nos; wylofain mam wrth fedd ei mab, a foddodd mewn damwain bysgota ac a gladdwyd yn y fynwent leol, sy'n wynebu cael ei foddi eto."[2]