Tincer
Hen enw ar grefftwr teithiol sydd yn cyweirio offer metel yw tincer, tincr, neu ar lafar tincar.[1] Benthycwyd i'r Gymraeg Canol o'r ffurf Saesneg Canol tinker, a cheir cofnodion o'r gair mewn barddoniaeth Dafydd ap Gwilym ac Iolo Goch yn y 14g.[1] Nomadiaid perpatetig ydoedd, hynny yw yn ymgynnal eu bywyd crwydrol drwy wneud mân-swyddi i bobl ac yn masnachu â chymunedau sefydlog. Crwydrasant ar draws Ynysoedd Prydain ac Iwerddon yn trwsio offer metel, fel arfer pethau cyffredin y tŷ megis tegelli a phadelli, am dâl. Teithiodd rhai tinceriaid mewn grwpiau neu gymunedau bychain, megis y Teithwyr Gwyddelig, Teithwyr Ucheldiroedd yr Alban, neu'r Roma.
Ffotograff gan John Thomas o dincer yn Llanfair (1880au). | |
Enghraifft o'r canlynol | hen broffesiwn, galwedigaeth |
---|---|
Math | dirty job, coppersmith |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth yr enw hefyd yn air difrïol i gyfeirio at "weithiwr trwsgl neu aneffeithiol",[1] a bellach fe'i ystyrir yn sarhad ac yn hen ffasiwn i alw rhywun o gymuned grwydrol yn dincer.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 tincer. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.