Tir a Môr (cyfrol)

Cyfrol gan Bryn Williams a Catrin Beard yw Tir a Môr a gyhoeddwyd yn 2015 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]

Tir a Môr
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurBryn Williams a Catrin Beard
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi12/10/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781848518513
GenreBwyd a diod‎

Dyma gyfrol gyntaf o ryseitiau yn y Gymraeg gan y cogydd Bryn Williams. Mae'r gyfrol ddarluniadol yma'n cynnwys ryseitiau amrywiol, o gyrsiau cyntaf, pysgod, bwyd môr a chigoedd i bwdinau, diodydd, jam a bwydydd i'w coginio yn yr awyr agored. Yn ogystal, cyflwynir hanes magwraeth wledig Bryn yn Nyffryn Clwyd, a'i ddatblygiad yn un o gogyddion mwyaf llwyddiannus ac adnabyddus Cymru.

Mae Bryn Williams yn gogydd adnabydddus sy'n hanu o Ddinbych yn wreiddiol. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Twm o’r Nant, Dinbych, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy, a Choleg Llandrillo cyn iddo symud i Lundain a Pharis. Dysgodd ei grefft o dan law cogyddion sêr Michelin fel Marco Pierre White a Michel Roux Jr.. Ef yw perchennog Bwyty Odette's ym Mryn y Brinllu, Llundain. Daeth i amlygrwydd gyntaf ar y rhaglen deledu Great British Menu yn 2006.

Mae ryseitiau Bryn i'w gweld yn ei lyfr Bryn's Kitchen (2011) a For the Love of Veg (2013) ond dyma'i gyfrol gyntaf yn Gymraeg. Ef yw cyflwynydd y gyfres Cegin Bryn ar S4C. Mae Bryn wedi agor tŷ bwyta ym Mae Colwyn. Derbyniwyd Bryn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 2013.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017