Ysgol Glan Clwyd

(Ailgyfeiriad o Ysgol Uwchradd Glan Clwyd)

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Llanelwy, Sir Ddinbych ydy Ysgol Glan Clwyd. Agorwyd yr ysgol ym 1956 fel yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf erioed. Ar y dechrau roedd yr ysgol wedi'i lleoli yn Y Rhyl (ar safle presennol Ysgol Gymraeg Dewi Sant), ond symudwyd i'w safle presennol yn Llanelwy yn 1969.[2]

Ysgol Glan Clwyd
Hen Adeilad Ysgol Glan Clwyd o'r ffordd fawr(Cyn adnewyddu yn 2017)
Arwyddair Harddwch, Doethineb, Dysg
Sefydlwyd 1956
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Sian Alwen
Dirprwy Bennaeth Eirian Williams
Lleoliad Ffordd Dinbych, Llanelwy, Sir Ddinbych, Cymru, LL17 0RL
AALl Cyngor Sir Ddinbych
Disgyblion 1034 (2022)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan www.ysgolglanclwyd.co.uk

Mae gan yr ysgol ddalgylch eang, gyda disgyblion yn teithio o'r ardal arfordirol rhwng Tywyn a Threffynnon hyd at bentrefi Dyffryn Clwyd i'r de ac i'r gorllewin o dref Dinbych. Roedd 725 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mlynyddoedd 7–11 yn ystod arolygiad Estyn 2006, yn ogystal â 108 yn y chweched dosbarth, daeth 30% o’r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith yr aelwyd a 70% o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif neu'n unig iaith. Mae'r un adroddiad hefyd yn dweud fod 95% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu i safon gyfatebol.[1]

Ar yr un safle â'r ysgol mae Canolfan Hamdden Llanelwy a Theatr Elwy, sy'n rhannu eu cyfleusterau â'r ysgol.

Adeilad Newydd

golygu

Fel rhan o gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru adeiladwyd dau ddarn newydd o'r ysgol, y Dderbynfa a'r Hafan, ar ddarn o gaeau chwarae'r ysgol. Costiodd y prosiect £15.9 miliwn, ac roedd hefyd yn cynnwys adnewyddu'r hen adeilad. Agorwyd y ddau adeilad yn swyddogol ym mis Medi 2017 ond roedd disgyblion eisoes wedi symud i'r adeilad newydd ym mis Ionawr 2017.

 
Adeilad Newydd Ysgol Glan Clwyd yn 2017

Sioeau Cerdd

golygu

Fel sawl ysgol, mae Ysgol Glan Clywd yn llwyfannu sioeau cerdd. Yn y gorffennol mae'r ysgol wedi llwyfannu sioe o'r enw Sioe Y Sioeau, gyda chaneuon o The Lion King a Hairspray. Mae'r ysgol hefyd wedi llwyfannu'r sioe Blood Brothers.

Yn 2023 dyma berfformio Yn y Dechreuad, sioe am hanes Ysgol Glan Clwyd o'i hagor yn 1956 yn yr Rhyl tan heddiw. Mae'r sioe yn cynnwys caneuon gan Caryl Parry Jones.

Côr Ysgol Glan Clwyd

golygu

Mae'r ysgol yn nodedig am ei chorau.

Cyn-ddisgyblion o nod

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Adroddiad Arolygiad Ysgol Glan Clwyd 23/10/06. Estyn (27 Rhagfyr 2006).
  2.  'Addysg Gymraeg: Dathlu 50 mlynedd' ar BBC Cymru'r Byd.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-04. Cyrchwyd 2014-06-06.

Dolenni allanol

golygu