Titan (lloeren)

(Ailgyfeiriad o Titan (lleuad))

Titan yw pymthegfed lloeren Sadwrn, hyd y gwyddom.

  • Cylchdro: 1,221,630 km oddi wrth Sadwrn
  • Tryfesur: 5150 km
  • Cynhwysedd: 1.35e23 kg
Titan
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Sadwrn, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs134.518 ±0.003 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod25 Mawrth 1655 Edit this on Wikidata
Yn cynnwyslake of Titan, atmosphere of Titan Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0288 Edit this on Wikidata
Radiws2,574 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym mytholeg Roeg roedd y Titaniaid yn deulu o gewri, plant Wranws (y nefoedd) a Gaia (y Ddaear). Cawsant eu gorchfygu gan deulu Zews.

Darganfuwyd y lloeren hon gan Huygens ym 1655.

Ymddangosai Titan i fod y lloeren fwyaf o fewn Cysawd yr Haul ond mae ymchwil ddiweddar wedi dangos pa mor drwchus yw awyrgylch Titan a bod arwyneb solet y lloeren ychydig yn llai na Ganymede. Serch hynny mae tryfesur Titan yn fwy na thryfesur Mercher ac yn fwy o lawer na Phlwton.

Un o brif amcanion taith y chwiliedydd Voyager 1 oedd i astudio Titan. Daeth y chwiliedydd o fewn 4000 km o'i harwyneb a darganfod bod awyrgylch o gymylau trwchus oren gan y lloeren. Yn 2004 dechreuodd y cylchdroydd Cassini i anfon data am y lloeren yn ôl atom, ac ym mis Ionawr 2005 glaniodd y chwiliedydd Huygens ar y lloeren gan dynnu lluniau o arwyneb Titan.

Y mis Ionawr 2005 disgynnodd chwiliedydd Huygens yr ESA trwy atmosffer Titan a danfon yn ôl atom luniau manwl o fyd sydd yn barhaol dan orchudd ei gymylau oren trwchus. Gyda'r lluniau daw hefyd gwybodaeth am y rhyngweithiadau cemegol sy'n digwydd yno, a fydd yn rhoi argraff i wyddonwyr planedol o'r cemeg a ddigwyddodd ar y Ddaear gynfiotig gynt.

Arwyneb Titan

Mae'r chwiliedydd Huygens yn rhan o genhadaeth Cassini-Huygens i fforio Sadwrn a'i gylchau a lleuadau. Titan yw'r unig un o leuadau Cysawd yr Haul a chanddi atmosffer. Mae cemeg organig a gafodd ei ganfod yn yr atmosffer hwnnw wedi ennyn dychymyg gwyddonwyr planedol y byd i gyd.

Mae Titan yn fwy na Mercher, a chanddo atmosffer trwchus o nitrogen a methan. Mae gan y Ddaear atmosffer trwchus ac felly Gwener, sy'n ddigon poeth i doddi plwm. Er bu atmosffer trwchus gan Fawrth rhywbryd yn y gorffennol, un tenau sydd ganddo heddiw, gan achosi Mawrth i fod yn oer a diffrwyth. Felly os ydym am fforio planed sydd yn debyg i'r Ddaear, Titan yw'r lle.

Mae atmosffer Titan yn fwy trwchus nag yw'n hatmosffer ni, ac wedi ei wneud allan o amrywiaeth o folecylau biocemegol, gan gynnwys methan, hydrogen a charbon.

Mae Titan yn debyg o ran crynswth a chyfansoddiad i'r lloerennau Ganymede, Callisto, Triton ac efallai Plwton, hynny ydy 50% iâ dŵr a 50% craig. yn ôl pob tebyg mae Titan yn cynnwys sawl haen wedi eu cyfansoddi o ffurfiau crisial gwahanol o iâ, gyda chalon greigiog tua 3400 km ei hyd. Gallai'r galon ddal i fod yn boeth. Er bod ganddi gyfansoddiad tebyg i'r lloeren Rhea a lloerennau eraill Sadwrn, mae hi'n ddwysach oherwydd ei bod mor fawr fel mae ei dwyster yn cywasgu ei thu mewn.

Titan yw'r unig lloeren o fewn Cysawd yr Haul a chanddi awyrgylch o gryn arwyddocâd. Ar yr arwyneb mae ei gwasgedd dros 1.5 bar (50% yn uwch na'r Ddaear). Cyfansoddwyd yn bennaf gan nitrogen molecwlaidd (fel ar y Ddaear) gyda tua 6% o argon ac ychydig o fethan. O ddiddordeb ydy bod yna hefyd olion o nid llai na ddwsin o gyfansoddion organig (fel ethan, seianid hydrogen, carbon deuocsid) a dŵr. Mae'r pethau organig yn cael eu ffurfio wrth i fethan, sy'n goruchafu awyrgylch uchaf Titan, yn cael ei dorri gan olau'r Haul. Mae'r canlyniad yn debyg i'r smog a welir uwchben dinasoedd mawr, ond yn fwy trwchus. Mae hynny'n debyg i'r Ddaear yn ystod ei hanes cynnar, ar ddechrau bywyd. Ond mae'r awyrgylch tawchog trwchus yn ei wneud yn anodd i weld arwyneb Titan.

Does dim maes magnetig gan Titan, ac weithiau mae hi'n cylchio tu allan i fagnetosffer Sadwrn. Mae hi felly'n wynebu'r gwynt heulol. Gallai hynny ioneiddio a dwyn molecwlau oddi ar awyrgylch ucha'r lloeren. Gallai hefyd yrru cemeg hynod Titan.

Ar yr arwyneb mae tymheredd Titan tua 94 K (-290 F). Dan y tymheredd hwn ni all iâ dŵr newid o fod yn solet i fod yn nwy heb ddod yn hylif, ac felly nid oes ond ychydig iawn o ager dŵr yn yr awyrgylch. Serch hynny, ymddengys fod yna ddigon o gemeg yn digwydd ar y lloeren, gyda'r smog trwchus iawn yn ganlyniad iddi.

Mae yna gymylau newidiol ar wasgar yn awyrgylch Titan yn ychwanegol i'r niwl dwfn. Gallai'r rhain fod wedi eu cyfansoddi gan fethan, ethan, neu bethau organig syml eraill. Gallai mesurau bach o gemegau mwy cymhleth eraill fod yn gyfrifol am y lliw oren a welir o'r gofod.

Mae data newydd oddi wrth y chwiliedydd Huygens -seiliedig ar y darganfyddiad o argon 40 yn yr awyrgylch- yn dangos bod y lloeren wedi profi gweithgaredd folcanig sydd wedi cynhyrchu iâ dŵr ac amonia yn lle lafa.

Felly, er bod yr un prosesau'n digwydd ar y lloeren fel ar y Ddaear, mae'r gemeg yn hollol wahanol. Yn lle dŵr hylifol, mae ganddi fethan hylifol. Yn lle creigiau silicaidd, mae ganddi iâ dŵr rhewedig. Yn lle rhwd, mae ganddi ronynnau hydrocarbon, ac yn lle lafa, mae llosgfynyddoedd Titan yn cynhyrchu iâ oer iawn.

Mae yna afonydd a llynnoedd ar y lloeren. Ar hyn o bryd maent yn sych, ond credir iddynt gael eu llenwi'n rheolaidd gan lawogydd methan.

Mewn lluniau a dynnwyd ym mis Hydref 2004, roedd wybren Titan yn rhydd o gymylau, ac eithrio o gwmpas pegwn y de. Ond ym mis Rhagfyr 2004 tynnodd Cassini luniau o Titan lle gellir gweld fod sawl clwt eang o gymylau wedi ffurfio. Yn y llun uchod gwelir bod awyrgylch uchaf Titan wedi ei gyfansoddi o nifer fawr o haenau tawch.