Tlws Giuseppe Garibaldi

Mae Tlws Giuseppe Garibaldi (Eidaleg: Trofeo Garibaldi; Ffrangeg: Trophée Garibaldi) yn dlws rygbi'r undeb a ddyfernir i enillydd y gêm flynyddol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng Ffrainc a'r Eidal.[1]

Tlws Giuseppe Garibaldi
Math o gyfrwngrugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
CrëwrJean-Pierre Rives Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2007 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2 Chwefror 2007 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc, yr Eidal Edit this on Wikidata

Giuseppe Garibaldi

golygu

Chwyldroadwr Eidalaidd oedd Giuseppe Garibaldi a anwyd ym 1807 yn Nice (bellach yn Ffrainc, ond ar y pryd yn rhan o Deyrnas Sardinia). Roedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i uno'r Eidal. Roedd hefyd yn gadfridog ym myddin Ffrainc yn ystod y Rhyfel 1870 rhwng Ffrainc a thaleithiau Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen dan arweiniad Teyrnas Prwsia.[2]

Fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant geni Garibaldi, penderfynodd y Fédération Française de Rugby a Federazione Italiana Rugby greu tlws er anrhydedd iddo i'w ei ddyfarnu i enillydd gêm flynyddol Pencampwriaeth y 6 Gwlad rhwng Ffrainc. a'r Eidal .

Y Tlws

golygu

Syniad

golygu

Cafodd y syniad gwreiddiol am dlws i'w ddyfarnu i enillydd gêm flynyddol Ffrainc a'r Eidal, ei grybwyll gyntaf yn Nice gan y pwyllgor rhyngwladol ar gyfer dathlu daucanmlwyddiant geni Garibaldi.

Cyflwynwyd y syniad i ffederasiynau rygbi Ffrainc a'r Eidal, casglodd fomentwm yn gyflym a chafodd ei gymeradwyo ar 6 Rhagfyr 2006 gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.[3]

Dylunio

golygu

Cafodd y tlws ei ddylunio gan y cerflunydd rhyngwladol a chyn capten tîm Ffrainc Jean-Pierre Rives,[4] dadorchuddiwyd y tlws ar 2 Chwefror 2007, yn ystod seremoni yn llysgenhadaeth Ffrainc yn Rhufain. Dadorchuddiwyd y tlws gan y cyn chwaraewyr rhyngwladol Diego Dominguez ar ran yr Eidal a Jean-François Tordo (a anwyd yn Nice) ar ran Ffrainc.

Gwledydd Chware   Ffrainc
yn ennill
  yr Eidal
yn ennill
Cyfartal Pwyntiau
  Ffrainc
Pwyntiau
  yr Eidal
  Ffrainc 7 7 0 0 223 115
  yr Eidal 8 6 2 0 272 98
Cyfanswm 15 13 2 0 495 213

Canlyniadau

golygu
Blwyddyn Dyddiad Maes Cartref Sgôr Oddi gartref Enillydd
2021 6 Chwefror Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal   10 – 50   Ffrainc   Ffrainc
2020 9 Chwefror Stade de France, Paris Ffrainc   35 – 22   Yr Eidal   Ffrainc
2019 16 Mawrth Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal   14 – 25   Ffrainc   Ffrainc
2018 23 Chwefror Stade Vélodrome, Marseille Ffrainc   34 – 17   Yr Eidal   Ffrainc
2017 11 Mawrth Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal   18 – 40   Ffrainc   Ffrainc
2016 6 Chwefror Stade de France, Paris Ffrainc   23 – 21   Yr Eidal   Ffrainc
2015 15 Mawrth Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal   0 – 29   Ffrainc   Ffrainc
2014 9 Chwefror Stade de France, Paris Ffrainc   30 – 10   Yr Eidal   Ffrainc
2013 3 Chwefror Stadio Olimpico, Rhufain Yr Eidal   23 – 18   Ffrainc   Yr Eidal
2012 4 Chwefror Stade de France, Paris Ffrainc   30 – 12   Yr Eidal   Ffrainc
2011 12 Mawrth Stadio Flaminio, Rhufain Yr Eidal   22 – 21   Ffrainc   Yr Eidal
2010 14 Mawrth Stade de France, Paris Ffrainc   46 – 20   Yr Eidal   Ffrainc
2009 21 Mawrth Stadio Flaminio, Rhufain Yr Eidal   8 – 50   Ffrainc   Ffrainc
2008 9 Mawrth Stade de France, Paris Ffrainc   25 – 13   Yr Eidal   Ffrainc
2007 3 Chwefror Stadio Flaminio, Rhufain Yr Eidal   3 – 39   Ffrainc   Ffrainc

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Six Nations, Eight Cups - The Lesser Known Trophies The Tournament Has To Offer". The Sportsman. 2020-01-31. Cyrchwyd 2021-02-14.
  2. "Giuseppe Garibaldi | Biography, Redshirts, Significance, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-14.
  3. world.rugby. "Six Nations silverware: The rugby trophies won and lost in the annual Championship | World Rugby". www.world.rugby. Cyrchwyd 2021-02-14.
  4. "More than only Six Nations Trophy on offer in Championship". rugby365.com. Cyrchwyd 2021-02-14.

Dolenni allanol

golygu