Torra d'Elbu
Mae Tŵr Elbu (Corseg:Torra d'Elbu Ffrangeg: Tour d'Elbo) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Osani ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Fe'i lleolir ar dir sy'n perthyn i'r Conservatoire du Littoral
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.3717°N 8.5736°E |
Hanes
golyguRoedd y tŵr yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Mae'r tŵr yn gorwedd ychydig i'r tu allan i ffin Gwarchodfa Natur Scandola. Mae Gwarchodfa Scandola wedi bod ar Restr Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1983.
Mae tŵr Elbu wedi goroesi'n weddol gyflawn, mae'n adeilad crwn gyda gwregys hardd o friciau coch rownd ei chanol. Mae'r amddiffynfa ar y teras yn cynnwys rhyngdyllau amlwg ac mae'r parapet yn ffurfio coron gastellog.[2]
Galeri
golyguDolenni allanol
golygu- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses".[dolen farw] Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
- ↑ Tour d'Elbo Archifwyd 2018-02-09 yn y Peiriant Wayback adalwyd 3 Awst 2018