Torra di Cargali
Mae Tŵr Cargali (Corseg:Torra di Cargali Ffrangeg Tour de Gargalo) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli ar Isulottu di Gargalu (Ynys Gargalu).
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Hanes
golyguMae'r tŵr yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1][2]
Mae ynys Gargalu yn rhan o Warchodfa Natur Scandola. Mae'r warchodfa wedi'i leoli ar arfordir gorllewinol Corsica rhwng Punta Muchillina a Punta Nera ac mae'n cynnwys Cape Girolata a Cape Porto. Sefydlwyd y warchodfa ym 1975. Mae'r parc a'r warchodfa wedi cael eu cydnabod gan y Cenhedloedd Unedig fel Safle Treftadaeth Naturiol y Byd, ac wedi ei gynnwys ar Restr Treftadaeth y Byd ers 1983. Oherwydd ei leoliad mae'n bron yn amhosibl ymweld â'r tŵr, ond mae i'w gweld ar fordaith o amgylch y warchodfa. Mae mordeithiau rheolaidd i ymwelwyr yn cychwyn o dref Calvi [3]
Gweler hefyd
golyguGaleri
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Canton: Les Deux-Servi - L'architecture militaire". Direction Régionale des Affaires Culturelles de Corse (DRAC). Cyrchwyd 4 Mai 2014.
- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 143–144. ISBN 2-84050-167-8.
- ↑ Visit Scandola Nature Reserve adalwyd 1 Awst 2018