Torra di Fiurentina

Mae Tŵr Fiurentina (Corseg: Torra di Fiurentina, Ffrangeg: Tour Fiorentine) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune San-Giuliano ar arfordir dwyreiniol ynys Corsica. Dim ond rhan o'r sylfaen sydd wedi goroesi.

Torra di Fiurentina
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSan-Giuliano Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.2833°N 9.55944°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethlisted in the general inventory of cultural heritage Edit this on Wikidata
Manylion

Dechreuwyd adeiladu'r twr ym 1575 a chwblhawyd y gwaith ym 1582.[1] Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2]

Wedi'i leoli ar draeth hir yr arfordir dwyreiniol, ar dwyn rhwng y traeth a'r gwinllannoedd. Rhaid cerdded tua phymtheg munud i'r gogledd o'r man parcio ar hyd y traeth er mwyn cyrraedd ati. Er bod y tŵr crwn hwn yn adfeilion mae modd mynd i mewn iddi. Y tu mewn mae le tân a dau agoriad bach, hanner ogrwn. Mae'n dŵr a adeiladwyd yn bennaf o gerrig[3].

Yn 2007 ychwanegwyd y tŵr i "Restr Gyffredinol Treftadaeth Ddiwylliannol" ("Inventaire général du patrimoine culturel") a gynhelir gan Weinyddiaeth Diwylliant Ffrainc. Mae'n eiddo i'r cyhoedd.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Inventaire général du patrimoine culturel: Tŵr génoise de Fiorentina". Ministère de la culture. Cyrchwyd 12 Awst 2018.
  2. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
  3. LES TOURS : DE PRUNETTU - FIORENTINA SAN GHJUILIANU - FALCONE - LE PHARE D'ALISTRU Archifwyd 2012-08-27 yn y Peiriant Wayback adalwyd12 Awst 2018

Dolenni allanol

golygu