Torra di l'Isuledda
Mae Tŵr Isuledda (Corseg: Torra di l'Isuledda, Ffrangeg: Tour de l'Isolella ) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Pietrosella (Corse-du-Sud) ar Ynys Corsica. Mae'r tŵr yn sefyll ar uchder o 68 m ar bentir, y Punta di Sette Nave, sy'n ffurfio terfyn deheuol Gwlff Ajaccio.
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pietrosella |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 41.8444°N 8.75472°E |
Statws treftadaeth | heneb hanesyddol cofrestredig |
Manylion | |
Hanes
golyguAdeiladwyd y tŵr tua 1597. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Cafodd y tŵr ei hadfer ym 1970.[2] a'i restru fel un o henebion hanesyddol Monument historiqu Ffrainc ym 1992. Mae'n eiddo i gymuned Pietrosella.[3] Wedi'r adfer mae'r tŵr mewn cyflwr da. Mae ei wregys o frics coch yn amlwg ac mae ymysg yr esiamplau gorau o'r defnydd o ryngdyllau mewn tyrau Genoa. Mae'n hawdd ymweld â'r tŵr trwy ddilyn llwybr bach 500 meter o faes parcio cyfagos ond ni chaniateir mynediad i mewn i'r adeilad.[4]
Gweler hefyd
golyguGaleri
golygu-
Y gwregys o frics coch
-
Rhyngdyllau
-
Rhwng twll unigol
-
Y llwybr i'r tŵr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 138. ISBN 2-84050-167-8.
- ↑ "Tŵr de l'Isolella". Office de Tourisme d'Ajaccio. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 28 May 2014.
- ↑ "Monuments historiques: Tŵr d'Isolella ou des Sette Navi". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014.
- ↑ La tour génoise de l’Isolella Archifwyd 2017-12-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Awst 2018
Dolenni allanol
golygu- "Isolella : Présentation". I Torregiani. Cyrchwyd 18 Mai 2014.[dolen farw]
- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses".[dolen farw] Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.