Trento
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd yr Eidal yw Trento (Lladin: Tridentum; Saesneg: Trent), sy'n brifddinas talaith Trento a rhanbarth Trentino-Alto Adige hefyd. Saif ar Afon Adige. Dyma le cynhaliwyd Cyngor Trent yn y 16g. Roedd yn rhan o Awstria-Hwngari cyn iddo gael ei atodi i'r Eidal ym 1919.
Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Trento |
Poblogaeth | 118,046 |
Pennaeth llywodraeth | Alessandro Andreatta |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2, CET |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Vigilius of Trent |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Trento |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 157.88 km² |
Uwch y môr | 190 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Aldeno, Cavedine, Garniga Terme, Giovo, Lavis, Pergine Valsugana, Villa Lagarina, Besenello, Civezzano, Cimone, Vallelaghi, Madruzzo, Albiano, Altopiano della Vigolana |
Cyfesurynnau | 46.1°N 11.1°E |
Cod post | 38121, 38122, 38123 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Trento |
Pennaeth y Llywodraeth | Alessandro Andreatta |
Roedd y boblogaeth yng nghyfrifiad 2011 yn 114,198.[1]
Hanes
golyguPentref Celtaidd oedd Trento pan gafodd ei orchfygu gan Rufain yn y 1g CC. Creodd Iŵl Cesar fwrdeistref Rufeinig yma pan rowyd dinasyddiaeth i'r ardal o Gallia Cisalpina i'r gogledd o Afon Po. Enwyd y yr anheddiad yn Tridentum fel teyrnged i Neifion, duw y môr a ddaliodd dryfer (Lladin: tridens, h.y. "tri dannedd", ar ôl y tri bryn sy'n amgylchynu'r ddinas). Daeth Tridentum yn arhosfan bwysig ar Via Raetia, y ffordd Rufeinig a arweiniodd o Verona i Innsbruck.
Ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin gorchfygwyd y ddinas gan Ostrogothiaid, Bysantiaid, Lombardiaid a Ffranciaid cyn iddi ddod yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Ym 1027 rhoddodd yr Ymerawdwr Conrad II lywodraeth y ddinas yng ngofal yr esgob-dywysogion Trent, a byddai'n rheolwyr tymhorol ac ysbrydol. Tua 1200 daeth yn ganolfan bwysig o fwyngloddio, yn enwedig am arian. Yn y 14g daeth ardal Trento o dan reolaeth dugiaid Awstria, sef y teulu Habsburg a fyddai'n gorchufu'r rhanbarth am 600 mlynedd.
Roedd y tywysog-esgobion yn llywodraethu Trento tan oes Napoleon. O dan ad-drefnu'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd ym 1802, collodd yr esgob ei awdurdod seciwlar ac atododd yr ardal i diriogaethau Habsburg. Rhoddwyd Trento i Bafaria gan Gytundeb Pressburg ym 1805; wedyn, ym 1809, fe'i rhoddwyd gan Gytundeb Schönbrunn i Deyrnas yr Eidal, y wladwriaeth byrhoedlog a sefydlwyd gan Napoleon. Yn dilyn cwymp Napoleon ym 1814, dychwelwyd Trento i Awstria (Awstria-Hwngari ar ôl 1867). Yn ddiweddarach yn y 19g, daeth Trento, dinas â mwyafrif ethnig Eidalaidd o fewn ymerodraeth Awstria, yn symbol pwerus i'r mudiad Eidalaidd irredentismo. Fe'i hatodwyd, ynghyd â'i thalaith Eidaleg, i'r Eidal ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Cadeirlan San Vigilio
- Eglwys Santa Maria Maggiore
- Palazzo delle Albere, preswylfa gaerog yr esgob-dywysogion
- Castell Buonconsiglio
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 16 Ionawr 2021
Oriel
golygu-
Cadeirlan a Palazzo Pretorio (yr hen balas esgob)
-
Eglwys Santa Maria Maggiore
-
Palazzo delle Albere
-
Castell Buonconsiglio