Trichrug

bryn (415m) yn Sir Gaerfyrddin

Bryn yn Sir Gaerfyrddin yw Trichrug. Fe'i lleolir yn y Mynydd Du (neu 'Bannau Sir Gâr') yn ne-ddwyrain y sir rhwng pentrefi Gwynfe, i'r de-ddwyrain, a Bethlehem, i'r gogledd-orllewin, a thua 5 milltir i'r dwyrain o dref Llandeilo; cyfeiriad grid SN698229. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 224metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Trichrug
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr415 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.88°N 3.88°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN6989322928 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd191 metr Edit this on Wikidata
Map

Yn y llun gwelir Trichrug yn y canol gyda bryniau llai Carn Powel a Charreglwyd yn is ar y chwith.

Er nad yw'n fryn uchel mae'n sefyll ar wahân i brif gadwyn y Mynydd Du ac yn cynnig golygfeydd eang o gopaon y Mynydd Du i'r de a'r dwyrain a rhan o Fannau Brycheiniog i'r gogledd-ddwyrain, ardal Cwm Gwendraeth a'r Gŵyr i'r de-orllewin, a Dyffryn Tywi i'r gorllewin a'r gogledd.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 415 metr (1362 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 15 Ionawr 2003.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu