Ugo Savarese
Bariton operatig o'r Eidal oedd Ugo Savarese (2 Rhagfyr 1912 - 19 Rhagfyr 1997), a oedd yn cael ei gysylltu yn arbennig gyda repertoire'r Eidal.[1]
Ugo Savarese | |
---|---|
Ganwyd | 2 Rhagfyr 1912 Napoli |
Bu farw | 19 Rhagfyr 1997 Genova |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Galwedigaeth | canwr opera |
Math o lais | bariton |
Dechreuodd Savarese ei astudiaethau lleisiol ym 1930 yn y "Conservatorio San Pietro a Majella" yn Napoli gyda Maestro Conte. Gwnaeth ei début lwyfan cyntaf ym 1934, yn y Teatro San Carlo yn Napoli, gan ganu rolau bach. Canodd ei rôl fawr gyntaf, Silvio yn Pagliacci gan Ruggero Leoncavallo yno ym 1938, ac yna rôl teitl Rigoletto a Germont yn La traviata.
Fel y rhan fwyaf o gantorion ei genhedlaeth, amharwyd ar ei yrfa gan wasanaeth milwrol. Ailddechreuodd ei yrfa ar ôl bod yn garcharor mewn Gwersyll Rhyfel yn yr Almaen, gan ymddangos yn Dachau. O hynny ymlaen, aeth ei yrfa yn ei flaen yn gyson, gydag ymddangosiadau gwadd yn yr Opéra-Comique a'r Palais Garnier ym Mharis, y Teatro Nacional Sao Carlos yn Lisbon, y Liceu yn Barcelona, a'r Teatro Real ym Madrid. Bu hefyd yn ymddangos yn Llundain, Monte Carlo, Zurich, Brwsel, Leningrad (St Petersburg, bellach ) ac ati, lle cafodd ei werthfawrogi'n arbennig yn rolau Verdi.
Canodd y rhan fwyaf o rolau bariton repertoire'r Eidal mewn opera fel; Macbeth, Il trovatore, Un ballo in maschera, Aida, La Gioconda, Fedora, Tosca, ac ati.
Ni chyrhaeddodd Savarese lefel enwogrwydd rhai o'i gyfoeswyr megis Tito Gobbi, Giuseppe Valdengo a Gino Bechi, ond mae ei recordiadau lu yn arddangos llais a addysgwyd yn dda a pherfformiwr cadarn, fel yn Il trovatore ac Andrea Chénier gyferbyn Renata Tebaldi, La traviata gyferbyn Maria Callas [2] a La fanciulla del West gyferbyn Carla Gavazzi.
Canodd tan ddechrau'r 1970au, a bu'n dysgu o 1974 i 1996.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ugo Savarese ar All Music adalwyd 3 Mai 2019
- ↑ The Rough Guide to Opera, Matthew Boyden & Nick Kimberley Tud 231 Penguin Group, 1999 ISBN 1858284562