Undeb Credyd Plaid Cymru

Undeb credyd ar gyfer aelodau Plaid Cymru


Roedd Undeb Credyd Plaid Cymru (enw swyddogol llawn, Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union) yn undeb credyd yn annibynnol yn ariannol ond yn gefnogol o Blaid Cymru ac yn gwneud cyfraniadau i'r Blaid drwy hysbysebu a nawdd achlysurol. Sefydlwyd yr undeb yn swyddogol yn 1986.[1] Sefydlwyd ar gyfer aelodau Plaid Cymru ac aelodau o'u teulu agos.[2]

Undeb Credyd Plaid Cymru
Enghraifft o'r canlynolUndeb credyd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1986 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata

Daeth yr Undeb Credyd i ben yn 2018. Gydag hynny, bu mewn trafodaethau gyda sawl undeb credyd arall i drosglwyddo'r cyfrifon. Dewiswyd Smart Money Cymru sydd a'i phencadlys yng Nghaerffili gan ei bod ddeniadol i'r undeb credyd llai, yn enwedig ei symudiad i gynnig mwy o wasanaethau digidol.[1]

Swyddfa golygu

Lleolwyd yr Undeb Credyd mewn sawl gwahanol man yn ystod ei chyfnod, gan gynnwys Tŷ'r Cymry yn Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd ac o fewn swyddfa ganolog Plaid Cymru pan bu yn Rhodfa'r Parc yn y cyfnod wedi Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.

Swyddogion golygu

Llywydd anrhydeddus yr Undeb Credyd oedd Dafydd Wigley.

Ymysg y swyddogion blaenllaw eraill oedd; Alan Jobbins, Stuart Fisher, Glyn Erasmus, Jim Criddle, a Malcolm Parker.

Cyhoeddiad golygu

Roedd gan yr Undeb Credyd gylchlythyr i'w haelodau o'r enw Nerth.[3]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union". Gwefan UCPCCU (nid yw bellach yn fyw). Cyrchwyd 8 Mehefin 2022.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-03. Cyrchwyd 2022-06-09.
  3. "Sgwennu am Undeb Credyd Plaid Cymru i @Wicipedia a ffeindio hen e-byst â chylchlythyr 'Nerth' - anghofio iddynt noddi @rasyriaith. So much respect for founders of @Plaid_Cymru Credit Union - setting up independent financial institution to support other Welsh enterprises". cyfrif Twitter Siôn Jobbins @SionJobbins. 8 Mehefin 2022.