Vida Goldstein
Ffeminist o Awstralia oedd Vida Goldstein (13 Ebrill 1869 - 15 Awst 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, gwleidydd a swffragét. Roedd hi'n un o bedwar ymgeisydd benywaidd yn etholiad ffederal 1903, yr etholiad cyntaf yn Awstralia lle roedd menywod yn gymwys i sefyll fel ymgeiswyr.
Vida Goldstein | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1869 Portland, Victoria |
Bu farw | 15 Awst 1949 o canser South Yarra |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, gwleidydd, swffragét |
Tad | Jacob Robert Yannasch Goldstein |
Mam | Isabella Goldstein |
Gwobr/au | Rol Anrhydeddus Fictorianaidd i Ferched |
Fe'i ganed yn Portland, Victoria a bu farw yn South Yarra, Victoria o ganser. Mynychodd Goleg Presbyteraidd y Merched ym Melbourne.[1][2]
Magwraeth
golyguSymudodd ei theulu i Melbourne ym 1877 pan oedd tua wyth oed, lle byddai'n mynychu Coleg Presbyteraidd y Merched. Dilynodd Goldstein ei mam fel aelod o fudiad y bleidlais i ferched (yr hyn a elwir yn "etholfraint") a chyn hir daeth yn un o'i harweinwyr, gan ddod yn adnabyddus am ei siarad cyhoeddus grymus ac fel golygydd cyhoeddiadau o blaid y bleidlais. Er gwaethaf ei hymdrechion, Victoria oedd y dalaith olaf yn Awstralia i weithredu hawliau pleidleisio cyfartal, gyda menywod yn cael yr hawl i bleidleisio yn 1908.
Roedd ei mam yn swffragét, yn llwyrymwrthodwr ac yn ymgyrchydd dros ddiwygio cymdeithasol. Roedd y ddau riant yn Gristnogion defosiynol gyda chydwybodau cymdeithasol cryf. Roedd ganddyn nhw bedwar o blant eraill ar ôl Vida - tair merch (Lina, Elsie ac Aileen) a mab (Selwyn).[3]
Er bod Jacob Goldstein, ei thad, yn wrth-swffragétydd, credai'n gryf mewn addysg a hunanddibyniaeth. Cyflogodd athrawes breifat i addysgu ei bedair merch ac anfonwyd Vida i Goleg Presbyteraidd y Merched ym 1884, gan fatriciwleiddio ym 1886. Pan effeithiwyd ar incwm y teulu gan y dirwasgiad ym Melbourne yn ystod y 1890au, aeth Vida a'i chwiorydd, Aileen ac Elsie, ati i redeg ysgol yn St Kilda. Gan agor ym 1892, lleolwyd ysgol 'Ingleton' yng nghgartref y teulu ar Ffordd Alma am y chwe blynedd nesaf.[4]
Y gwleidydd
golyguYm 1903, safodd Goldstein, yn aflwyddiannus, fel aelod annibynnol o'r Senedd, gan ennill 16.8% o'r bleidlais. Safodd bum gwaith i gyd, ac er iddi 'rioed ennill etholiad enillodd ei blaendal yn ôl ar bob achlysur ond un. Safodd ar bolisiau asgell chwith ac roedd rhai o'i safbwyntiau radical yn dieithrio'r cyhoedd oddi wrthi, a rhai o'i chymdeithion hefyd.
Ar ôl i Awstralia ganiatau pleidlais i fenywod, arhosodd Goldstein yn driw fel ymgyrchydd dros hawliau menywod ac amryw achosion cymdeithasol eraill. Roedd hi'n heddychwr selog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chyd-sefydlodd Fyddin Heddwch y Merched, sefydliad gwrth-ryfel.
Daeth yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd ar faterion menywod, gan annerch neuaddau llawn o amgylch Awstralia ac yna Ewrop ac Unol Daleithiau America. Ym 1902, teithiodd i'r Unol Daleithiau gan siarad yng Nghynhadledd Ryngwladol Etholfraint y Menywod (lle cafodd ei hethol yn ysgrifennydd), a rhoddodd dystiolaeth o blaid pleidlais i fenywod gerbron pwyllgor o Gyngres yr Unol Daleithiau, a mynychodd Gynhadledd Rhyngwladol Cyngor y Merched.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Rol Anrhydeddus Fictorianaidd i Ferched .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: "Vida Goldstein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Vida Goldstein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Vida Goldstein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Brownfoot, Janice N Vida Goldstein profile at Australian Dictionary of Biography (ADB) online edition Archifwyd 20 Mai 2011 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 1 Hydref 2009.
- ↑ Friends of St. Kilda Cemetery The Suffragette: Biography of Vida Goldstein Archifwyd 28 Awst 2008 yn y Peiriant Wayback