Vikingur Reykjavík
Mae Knattspyrnufélagið Víkingur, y cyfeirir ato'n gyffredin fel Víkingur neu Víkingur Reykjavík (i'w gwahaniaethu oddi wrth Víkingur Ólafsvík) ac a elwir yn rhyngwladol fel Vikingur FC, yn glwb chwaraeon yng Ngwlad yr Iâ sydd wedi'i leoli yng nghymdogaeth Fossvogur yn Reykjavík. Mae'n un o'r clybiau chwaraeon hynaf yng Ngwlad yr Iâ, a sefydlwyd ar 21 Ebrill 1908.
Enw llawn | Knattspyrnufélagið Víkingur | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | Vikings, Vikes (Víkingar) | ||
Sefydlwyd | 21 Ebrill 1908 | ||
Maes | Víkingsvöllur (sy'n dal: 1,450[1]) | ||
Club chairman | Björn Einarsson | ||
FC chairman | Fridrik Magnusson | ||
Rheolwr | Arnar Gunnlaugsson | ||
Cynghrair | Úrvalsdeild | ||
2024 | 2nd | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Mae'r clwb pêl-droed wedi ennill chwe theitl Pencampwriaeth, pum teitl Adran Gyntaf a thri theitl Cwpan. Mae Víkingur yn gweithredu adrannau chwaraeon eraill gan gynnwys pêl-law, tennis, tennis bwrdd, karate a sgïo. Mae pob camp yn cynnwys timau gwrywaidd a benywaidd.
Arfbais a lliwiau
golyguArfbais y clwb
golyguÞorbjörn Þórðarson, a oedd yn gadeirydd y Llychlynwyr yn y cyfnod 1943–44, ddyluniodd y bathodyn Víkingur gwreiddiol.[2]
Ym mlaendir arfbais wreiddiol Vikingur mae pêl ledr frown o'r 19g wedi'i fframio â bathodynnau gwyn ac mae ganddi streipiau coch a du yn y cefndir.[3]
Cit y tîm
golyguMae'r Llychlynwyr wedi chwarae mewn gwisgoedd streipiog coch a du ers blynyddoedd cynnar y clwb.[4]
Maes cartref
golyguVíkin - Mae cyfleusterau a thir cartref wedi'u lleoli yn Víkin ers 1984 pan osodwyd cae pêl-droed yno gyntaf. Dilynodd preswylfa'r clwb ym 1988 ac adeiladwyd cyfleusterau dan do ym 1991, gan wella'r cyfleusterau cyffredinol yn sylweddol.[5] Lleolir Víkin yn ardal Fossvogur (Háaleiti a Bústaðir), ar ochr ddwyreiniol Reykjavík.[6] Vikingsvöllur - Adeiladwyd y lleoliad chwaraeon yn 2004 a'i gwblhau yn 2005. Mae tua 2000 o wylwyr yn Víkingsvöllur.
Hyfforddiant ieuenctid
golyguMae'r rhaglen hyfforddi ieuenctid yn Víkin yn nodedig am ei chyfraniad i dimau hŷn ac ieuenctid cenedlaethol Gwlad yr Iâ, gan ddarparu chwaraewyr fel: Kári Árnason, Sölvi Ottesen, Kolbeinn Sigþórsson, Aron Elís Þrándarson, Óttar Magnús Karlsson
Hanes y clwb
golyguSefydlwyd Víkingur Reykjavík ar 21 Ebrill 1908 gyda'r pwrpas o ariannu pryniant pêl i grŵp o fechgyn mewn cymdogaeth yn Reykjavík chwarae pêl-droed. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y clwb, gyda 32 o fechgyn yn bresennol, yn islawr Túngata 12 yn Reykjavík.
Symud
golyguNid tan y flwyddyn 1976 y neilltuwyd darn o dir i Víkingur yn Fossvogur a dechreuodd adeiladu ei gyfleusterau preswyl a chwaraeon. Yn gyffredinol, mae prif faes gwasanaeth y clwb wedi'i ddiffinio gan Fossvogsdalur, Kringlumýrarbraut, Miklabraut a Reykjanesbraut.
Anrhydeddau
golyguCynghrair
golygu- Uwch Gynghrair Gwlad yr Iâ (7): 1920, 1924, 1981, 1982, 1991, 2021, 2023
- Adran 1. deild karla (5) (lefel 2): |1969, 1971, 1973, 1987, 2010
Cwpan
golygu- Cwpan pêl-droed Gwlad yr Iâ (5): 1971, 2019, 2021, 2022, 2023
- Super Cup Gwlad yr Iâ (3): 1982, 1983, 2022
European record
golyguMen's football - European Clashes
golyguTymor | Cystadleuaeth | Cymal | Clwb | Cartref | Oddi cartref | Agregâd |
---|---|---|---|---|---|---|
1972–73 | European Cup Winners' Cup | 1R | Legia Warsaw | 0–2 | 0–9 | 0–11 |
1981–82 | UEFA Cup | 1R | Bordeaux | 0–4 | 0–4 | 0–8 |
1982–83 | European Cup | 1R | Real Sociedad | 0–1 | 2–3 | 2–4[7] |
1983–84 | European Cup | 1R | Rába ETO Győr | 0–2 | 1–2 | 1–4[8] |
1992–93 | UEFA Champions League | 1R | CSKA Moscow | 0–1 | 2–4 | 2–5[9] |
2015–16 | UEFA Europa League | 1Q | FC Koper | 0–1 | 2–2 | 2–3[10] |
2020–21 | UEFA Europa League | 1Q | Olimpija Ljubljana | N/A | 1–2 (a.y.) | N/A |
2022–23 | UEFA Champions League | PR | FCI Levadia | 6–1 | ||
Inter Club d'Escaldes | 1–0 | |||||
1Q | Malmö FF | 3–3 | 2–3 | 5–6 | ||
UEFA Europa Conference League | 2Q | The New Saints |
Nodiadau:
- 1R: Rownd gyntaf
- 1Q: ROwnd cymhwyso gyntaf
- PR: Rownd rhagbrofol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stadiums (2015) KSÍ.
http://www.ksi.is/mannvirki/knattspyrnuvellir/?vollur=102 - ↑ Sögubrot (2015) Vikingur.is
Weblink: http://www.vikingur.is/forsiea/soegubrot/formenn-vikings Archifwyd 2016-03-15 yn y Peiriant Wayback - ↑ Víkingur Crest (2015) Wikipedia.file:Knattspyrnufélagið Víkingur.png
- ↑ Football clubs (2015) KSÍ.
http://www.ksi.is/um-ksi/adildarfelog/adildarfelag/?Felag=103 - ↑ Official website of Knattspyrnufélagið Víkingur (2015) Sögubrot. Weblink: http://www.vikingur.is/forsiea/soegubrot/stiklae-a-storu Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Stadiums (2015). KSÍ.
Weblink: http://www.ksi.is/mannvirki/knattspyrnuvellir/?vollur=102 Archifwyd 2017-08-13 yn y Peiriant Wayback - ↑ Víkingur goals: Jóhann Þorvarðarson & Sverrir Herbertsson.
Weblink: http://www.sharkscores.com/Comparison/Default.aspx?id=453781 Archifwyd 2015-04-12 yn y Peiriant Wayback - ↑ Víkingur goal: Magnús Þorvaldsson.
Weblink: http://www.footballdatabase.eu/football.coupe.gyor.vikingur-reykjavik.35099.en.html - ↑ Víkingur goals: Atli Einarsson & Guðmundur Steinsson.
Weblink: http://www.footballdatabase.eu/football.coupe.vikingur-reykjavik.cska-moscou.34014.en.html - ↑ Víkingur goals: Arnþór Ingi Kristinsson x2.
Weblink: http://www.footballdatabase.eu/football.coupe.fc-koper.vikingur-reykjavik.180819.en.html