Vikki Howells

gwleidydd Cymreig

Gwleidydd Llafur Cymru yw Vikki Howells sydd wedi cynrychioli etholaeth Cwm Cynon yng Nghynulliad Cymru ers etholiad 2016.

Vikki Howells
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Gwm Cynon
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganChristine Chapman
Mwyafrif5,994
Manylion personol
CenedligrwyddCymraes
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
AddysgYsgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr, Aberdâr
Alma materPrifysgol Cymru, Caerdydd
Gwefanwww.vikkihowells.com

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Magwyd Howells yn Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf.[1]

Gyrfa golygu

Gyrfa addysg golygu

Roedd Howells yn athrawes am 16 mlynedd.[2] Cyn ei hethol i'r Cynulliad, roedd yn athrawes hanes a phennaeth cynorthwyol y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun St Cenydd yng Nghaerffili, De Cymru.[3] Cymerodd absenoldeb drwy ganiatâd i ymgyrchu ar gyfer etholiad, ac fe fyddai wedi dychwelyd i'w gwaith ar y dydd Llun yn dilyn yr etholiad pe na bai hi wedi bod yn llwyddiannus.[1]

Gyrfa wleidyddol golygu

Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd bod Howells wedi cael ei dewis fel ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer etholaeth Cwm Cynon yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.[3] Mae hi wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur ers dros 20 mlynedd.[3] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,830 pleidlais (51.1% o'r pleidleisiau a fwriwyd).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Tegeltija, Sam (6 May 2016). "Assembly Election 2016: Labour holds Cynon as Vikki Howells succeeds Christine Chapman". Wales Online. Cyrchwyd 7 May 2016.
  2. "Vikki Howells Welsh Labour Assembly candidate for Cynon Valley". VikkiHowellsCynonValley.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-04. Cyrchwyd 7 May 2016.
  3. 3.0 3.1 3.2 Tegeltija, Sam (8 December 2015). "Teacher Vikki Howells announced as Labour's Cynon Valley candidate for National Assembly election". Walses Online. Cyrchwyd 7 May 2016.

Dolenni allanol golygu