Théodore Hersart de la Villemarqué
Roedd Théodore Hersart de la Villemarqué (7 Gorffennaf 1815 – 8 Rhagfyr 1895), y cyfeirir ato yn aml fel Villemarqué neu, yn Llydaweg, Kervarker, yn uchelwr ac awdur o Lydaw sy'n adnabyddus fel sylfaenydd y mudiad Rhamantaidd yno yn y 19g. Cyhoeddodd weithiau llenyddol Llydaweg a chyfieithodd ac addasodd nifer o ganeuon Llydaweg i'r iaith Ffrangeg. Ei gyfrol fywaf adnabyddus yw'r Barzaz Breiz.
Théodore Hersart de la Villemarqué | |
---|---|
Ffugenw | Kervarker |
Ganwyd | Théodore-Claude-Henri Hersart de La Villemarqué 7 Gorffennaf 1815 Kemperle |
Bu farw | 8 Rhagfyr 1895 Kemperle |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, bardd, hanesydd, arbenigwr mewn llên gwerin, llenor, ieithegydd |
Swydd | cadeirydd |
Adnabyddus am | Barzaz Breiz |
Tad | Pierre Hersart de La Villemarqué |
Mam | Marie-Ursule Feydeau de Vaugien |
Priod | Clémence Tarbé des Sablons |
Llinach | Hersart de La Villemarqué Family |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
Cyfarfu hefyd ag Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer a threuliodd y Nadolig ym mhlasty Charlotte Guest a oedd yn berchen nifer o weithfeydd haearn ym Merthyr ac yn Nowlais.[1]
Roedd Villemarqué yn gyfaill i Gymru a'r Gymraeg. Cydweithiodd â'r Arglwyddes Charlotte Guest ar ei chyfieithiad o'r Mabinogion (a gyhoeddwyd yn 1838). Yn ddau-ddeg-tri oed, yn hydref a gaeaf 1838 a 1839, daeth i Ferthyr ac Abertawe er mwyn deall mwy am Gymru. Y prif bwrpas dros ei ymweliad oedd canfod llawysgifau am y Llydaweg er mwyn rhoi hygrededd i'r iaith Lydaweg. Ymwelodd â'r awdur Carnhuanawc a rhoddodd araith gofiadwy yn Eisteddfod y Fenni yn pwysleisio'r cysylltiadau hanesyddol, ieithyddol a llenyddol rhwng Cymru a Llydaw ac yn galw am undod a brawdgarwch rhwng y ddwy wlad Geltaidd.[2] Ysgrifennodd gyfres o lythyron dadlennol yn ystod ei ymweliadau sydd wedi eu golygu a'u cyhoeddi ar wefan Prifysgol Brest.[3]
Pan ddychwelodd i Lydaw chwaraeodd ran bwysig yn y mudiad diwylliannol a arweiniodd at sefydlu Goursez Vreizh (Gorsedd Llydaw) ond roedd o'r farn fod y Gymraeg wedi'i llygru gan effaith Protestaniaeth. Ond hyd yn oed ar ddiwedd ei oes, daliai i sôn fod ei ymweliad â Chymru wedi bod yn un ffrwythlon a melys.
Cyfieithodd Peredur, un o'r Tair Rhamant Cymraeg Canol, i'r Ffrangeg.
Eisteddfod y Fenni, 1838
golyguGwahoddwyd Théodore Hersart de la Villemarqué a'r Llydawyr eraill a oedd yn teithio gydag ef i Eisteddfod y Fenni yn 1838, eisteddfod oedd a'i bryd ar fod yn rhyngwladol ei natur. Ar y pryd nid oedd ymwybyddiaeth o'r teulu 'Celtaidd' yn llawn ac yng Nghymru, i ryw raddau, dyma gychwyn hynny.
Cyfeiriadu
golygu- ↑ [Chisholm, Hugh, ed. (1911). "La Villemarqué, Théodore Claude Henri, Vicomte Hersart de". Encyclopædia Britannica; 16 (11fed gyfrol.). Cambridge University Press. t. 294.
- ↑ Gweler Gwefan Prifysgol Cymru. Mary-Ann Constantine BA, PhD. Archifwyd 2017-07-23 yn y Peiriant Wayback Mae Constantine yn gweithio ar lenyddiaeth Cymru, yn Gymraeg a Saesneg, yn y cyfnod Rhamantaidd. Astudiodd ar gyfer ei gradd gyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Clare, Caer-grawnt (1988–91), ac aros yno wedyn i wneud PhD ar lên gwerin Llydaw.
- ↑ Constantine, Mary-Ann; Postic, Fañch (2019), ‘C’est mon journal de voyage’ : La Villemarqué’s Letters from Wales, 1838-1839., https://hal.univ-brest.fr/hal-02350747, adalwyd 2019-12-12.
Llyfryddiaeth
golygu- Barzaz Breiz : Chants Populaires de la Bretagne (1839)
- Contes Populaires des Anciens Bretons (1842)