Agor y brif ddewislen

Peintiwr a dyluniwr o Hwngari oedd Vilmos Huszár (5 Ionawr 18848 Medi 1960). Adnabyddir ef orau am fod yn un o sefydlwyr symudiad arlunio'r Iseldiroedd, De Stijl.

Vilmos Huszár
Vilmos Huszar.jpg
Ganwyd 5 Ionawr 1884 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Medi 1960 Edit this on Wikidata (76 oed)
Hierden Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Brenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd, gwrthryfelwr milwrol, dylunydd graffig Edit this on Wikidata
Arddull celfyddyd haniaethol Edit this on Wikidata
Mudiad celfyddyd haniaethol Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Bwdapest, Hwngari ac ymfudodd i'r Iseldiroedd yn 1905, gan fyw yn Voorburg gyntaf, dylanwadwyd gan arlunwaith Ciwbiaeth a Dyfodiaeth. Cyfarfu nifer o arlunwyr dylanwadol megis Piet Mondrian a Theo van Doesburg, y ddau yn ganolig yn sefydliad symudiad De Stijl gyda Huszár yn 1917. Cyd-sefydlodd gylchgrawn De Stijl yn ogystal, a dyluniodd glawr y rhifyn cyntaf.

Yn 1918 dyluniodd gynllun lliw mewnol ar gyfer lloft Tŷ Bruynzeel yn Voorburg. Rhwng 1920 a 1921 cydweithiodd gyda Piet Zwart ar ddyluniadau dodrefn. Gadawodd y grŵp De Stijl yn 1923 a chyd-weithiodd gyda Gerrit Rietveld ar arddangosfa mewnol ar gyfer Arddangosfa Alrunio Berlin Fwyaf. Rhwng 1925, Huszár canolbwyntiodd ar ddylunio graffeg a phaentio.

Yn 1926 creodd hunaniaeth gweledol cyflawn ar gyfer cwmni sigaret Miss Blanche Virginia, a gynhwysodd pecynnu, hysbysebu, a deunudd arddangos man gwethiant. Tynnodd y gysyniad elfennau o'r lluniau a oedd yn gysylltiedig â "Merched Newydd", neu Flappers, a oedd yn dechrau ymddangos yn yr 1920au. Cafodd y Flappers eu cael eu gweld fel merched ifanc, sengl, dinesig, a chyflogedig, gyda syniadau annibynnol a dirmyg arbennig tuag at awdurdod ac arferion cymdeithasol. Cafodd ysmygu sigaret ei gysylltu â'r annibyniaeth newydd yma.

Ni wyddwn leoliad y rhan fwyaf o waith Huszár, mae nifer o'i beintiadau a'i gerfluniau yn wybyddus i ni yn unig oherwydd y ffotograffau a welwyd yng nghylchgrawn De Stijl, neu o ffotograffau'r arluniwr ei hun. Mae'r gweithiau sydd wedi mynd ar goll yn cynnwys y Dancing mechanical doll, teclyn a allai portreadu nifer o stumiau a fe'i ddefnyddiwyd yng nghynhadleoedd cynnar Dada yn y 1920au cynnar.

Bu farw Huszár yn Hierden, Yr Iseldiroedd, yn 1960. Rhwng 8 Mawrth a 19 Mai 1985, cynhaliwyd arddangosfe adolygol mawr o waith Huszár yn y Gemeentemuseum yn Y Hague.

Dolenni allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: