Germania Inferior
Roedd talaith Rufeinig Germania Inferior yn cynnwys rhan o diriogaeth Yr Iseldiroedd a gogledd orllewin Yr Almaen heddiw. Ei ffin ddwyreiniol oedd Afon Rhein (Lladin Rhenus).
Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Prifddinas | Colonia Claudia Ara Agrippinensium |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Gwlad | Rhufain hynafol |
Cyfesurynnau | 50.58°N 5.22°E |
Iŵl Cesar oedd y cadfridog Rhufeinig cyntaf i ddod a byddin i'r ardal yma. Yn 57 CC gorchfygodd y Nervii oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn Fflandrys. Roedd llwythau Almaenaidd y Tencteri a'r Usipetes yn dymuno sefydlu ar lan orllewinol y Rhein, ond ynghanol trafodaethau a hwy, ymosododd Cesar arnynt. Adeiladodd bont dros y Rhein, ond y flwyddyn wedyn gwrthryfelodd Ambiorix brenin yr Eburones a dinistriodd leng Rufeinig. Ymosododd Cesar ar yr Eburones a'i difa.
Crewyd y dalaith rufeinig Gallia Belgica gan Augustus yn 27 CC. Yn 17 CC gorchfygwyd rhaglaw y dalaith hon, Marcus Lollius, gan y Sugambri a chipiasant eryr y bumed Lleng. Gyrrodd Augustus Tiberius a Drusus i gryfhau'r ffin ar y Rhein, a rhannwyd y tiriogaethau oedd wedi eu concro yn ddwy dalaith, Germania Superior a Germania Inferior. Roedd llengoedd XVII a XVIII yn gyfrifol am ddiogelwch Germania Inferior.
Am gyfnod dan Drusus llwyddodd y llengoedd i orchfygu yr Almaen hyd ar Afon Elbe, ond wedi i'r Almaenwyr ddinistrio byddin Varus ym mrwydr y Teutoburgerwald, dychwelwyd at Afon Rhein fel ffin. Roedd tair lleng yn gwarchod Germania Inferior, sef Legio I Germanica, Legio V Alaudae, XX Valeria Victrix a XXI Rapax. Yn 69 cyhoeddodd llengoedd y dalaith eu cadfridog Vitellius yn ymerawdwr. Llwyddasant i'w sefydlu yn Rhufain fel ymerawdwr, ond yn fuan wedyn gorchfygwyd hwy gan lengoedd Vespasian.
Am gyfnod yr oedd y ddwy dalaith dan reolaeth rhaglaw Gallia Belgica, ond yn 83 cyhoeddodd yr ymerawdwr Domitian hwy yn daleithiau hollol annibynnol. Y prif ganolfanau milwrol yn Germania Inferior oedd Noviomagus Batavorum (Nijmegen heddiw) a Castra Vetera (Xanten heddiw).
Yn y 3g gostyngodd poblogaeth y dalaith, ac yn 256 a 258 bu ymosodiadau gan y Ffranciaid. Rhwng 259 a 260, cyhoeddodd Postumus, rhaglaw y dalaith, ei hun yn ymerawdwr. Ail-feddiannwyd y tiriogaethau gan yr ymerawdwr Aurelian yn 273, ond erbyn hyn yr oedd ymosodiadau parhaus gan y llwythau Almaenaidd. Yn y 4g newidiodd y dalaith ei henw i Germania Secunda, a rhoddodd y rhaglaw Rhufeinig ganiatâd i'r Ffranciaid ymsefydlu yn y rhannau oedd wedi eu diboblogi. Yn 406 a 407 ymosododd yr Alaniaid a'r Fandaliaid ar yr ymerodraeth. Parhaodd y Ffranciaid yn deyrngar i'r ymerodraeth, ond fel yr oedd y llywodraeth ganolog yn dadfeilio daethant hwy i lywodraethu'r tiriogaethau hyn.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |