William Ellis Williams
Roedd William Ellis Williams (1881 – 1962) yn ffisegydd o Fethesda, Gwynedd, Cymru.
William Ellis Williams | |
---|---|
Cofeb i ddathlu arbrofion hedfan gan W E Williams yn 1911 ar draeth Llanddona | |
Ganwyd | William Ellis Williams 1881 Bethesda |
Bu farw | 1962 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd |
Dyddiau cynnar
golyguGanwyd William Ellis Williams yn 1881 ym Methesda, Dyffryn Ogwen. Roedd ei dad yn chwarelwr. Yn Nhyddyn Isaf, Llanllechid (pentref "Rachub" bellach) oedd hen gartre'r teulu, ond symudodd y teulu i Hill Street, Gerlan. ('rAllt Isaf ac Uchaf, erbyn hyn)[1][2]. O'r herwydd, mae'r ddwy gymuned yn hawlio Williams ! Bu iddo frawd hŷn, John (Gerlan) Williams, a astudiodd Gwyddoniaeth ym Mangor yn 16 oed, yn 1886. Yn 1892 graddiodd mewn Mathemateg a Ffiseg (gradd Prifysgol Llundain am nad oedd Bangor eto a'r hawl i gyflwyno graddau). Ar ôl, hefyd, astudio diwinyddiaeth, bu hwnnw yn cenhadu yn yr India ac yn Llydaw. Roedd hefyd chwaer, Ellen, a aeth i'r coleg yn 1894 a bu, mewn amser, yn brifathrawes yn Llanfynydd ac yn Rhostryfan.
Wrth fynychu Ysgol Sir Bethesda, darganfuwyd ei fod gan William Ellis Williams dawn fathemategol arbennig. Yn 1897, enillodd ysgoloriaeth Tate Exhibition (£15 y flwyddyn) [ o law Syr Henry Tate o gwmni siwgr Tate & Lyle) i fynd i Fangor yn ei dro, i astudio Gwyddoniaeth. Graddiodd gyda BSc. mewn Mathemateg Bur, Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg yn 1900. Enillodd wobr R.A. Jones am fathemateg (£16) gan ei ganiatáu i aros am flwyddyn arall ac ennill gradd anrhydedd. Yn eu tro enillodd Wobr Coffa Deon Edwards (1901,1902) ag ysgoloriaeth Ymchwil Osborne Morgan (1903) ac fe'i gwnaed yn Gymrodor o Brifysgol Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn bu dau aelod o'r staff yn dra dylanwadol arno; yr Athro Andrew Gray[3] (Ffiseg) a'r Athro George Hartley Bryan[4] (Mathemateg).
Gwyddonydd proffesiynnol
golyguEi maes ymchwil gyntaf oedd cemeg ffisegol gyda Gray. Yn 1902 cyhoeddodd ei bapur cyntaf yn y maes hwn (Magnetic changes of length and electrical conductivity in Nickel yn Phil. Mag[2].) Ar yr un pryd 'roed yn gweithio gyda Bryan (cawr o wyddonydd, ac un o drysorau Prifysgol Bangor[5]). Mae gwaith clasurol Bryan ar egwyddorion hedfan artiffisial[6] o hyd mewn print (electronig)[7]. Tra oedd Bryan yn datblygu'r syniadau damcaniaethol, roedd Williams yn gwneud y gwaith arbrofol. Y bwriad oed profi'r damcaniaethau wrth hedfan gleider. I hwyluso hyn Williams roddodd darnau o fagnesiwm mewn gleidwyr bychain a thaniwyd y rhain cyn eu lansio. Felly, roedd modd cofnodi'r llwybr hedfan ar gamera. Roedd hyn yn galluogi i'r cyflymder cael ei gyfrifo. I'w boddhad, roedd trywydd y gleider yn dilyn y disgwyl damcaniaethol. Cyhoeddwyd y gwaith yn Proc. Roy. Soc. yn Ionawr 1904[8]. (Derbyniwyd y llawysgrif ar 18 Fehefin 1903. Cofier mai ar 17 Rhagfyr 1903 y bu camp Wilbur ac Orville Wright yn hedfan awyren o dan bŵer am y tro cyntaf.) Ceir adolygiad o enghraifft dylanwad y gwaith hwn ym mhapur diweddar gan Collu et al. (2009)[9]
Yn 1903 symudodd Williams i Brifysgol Glasgow i ddilyn Andrew Gray. Rhoddodd yno ddarlith ar hedfan i'r Royal Philosophical Society of Glasgow (Ionawr 1904) a oedd yn ddatblygiad ar gynnwys y papur Proc.Roy Soc[1]. Yn 1905 symudodd i München i weithio gyda chawr arall o droad y ganrif[1]. Mewn ychydig wythnosau yn 1895 darganfuwyd pelydrau X gan yr Almaenwr Wilhelm Röntgen. Cyhoeddwyd ei darganfyddiad (Über eine neue Art von Strahlen[10]) ar 28 Rhagfyr 1895. Trwy wahoddiad arbennig Llywodraeth Bafaria, symudodd i München (o Würzburg) yn 1900. Fe'i gwobrwywyd a'r Wobr Nobel gyntaf mewn Ffiseg y 1901.
Bu Williams gyda Röntgen am ddwy flynedd. Yn 1907 cyhoeddwyd papurau (ym maes cemeg ffisegol, unwaith eto). (Tension coefficients for polycrystalline Bismuth yn Phil. Mag.[2] ac un ar effaith stres ar ddargludedd [11].)
Awyrennu
golyguYn 1907 gwireddwyd breuddwyd Andrew Gray ac E. Taylor Jones i sefydlu isadran Peirianneg Drydanol o fewn Adran Ffiseg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Apwyntiwyd Williams yn ddarlithydd cynorthwyol yn y pwnc (dan nawdd Cwmni'r Brethynwyr, a bu'n noddwyr hael i CPGC dros y blynyddoedd). Ail gychwynnodd y perthynas ffrwythlon a Bryan ym maes hedfan, hefyd. Roedd y blynyddoedd 1907-1909 yn gyfnod cynhyrfus iawn ym maes hedfan[1]. Mae papurau Williams[12] yn Archifdy'r Llyfrgell ym Mhrifysgol Bangor yn dangos iddo fynd ati yn 1909 i gynllunio ac adeiladu awyren - ar batrwm "Antoinette" y Ffrancwr Leon Levavasseur[13]. Er o'r papurau, gelir gweld fod gryn dipyn o'r cynllun yn wreiddiol iddo[1]. Roedd gan Henry Rees Davies, Treborth (perchennog cwmni llongau a oedd, o bosib, yn gweld posibiliadau masnachol hedfan) diddordeb yn y prosiect, ac yn ei ariannu gyda swm gwerth ryw £10,000 yn arian 2005[1]. Erbyn Mehefin 1910 roedd sied ar gyfer yr awyren ar dir H.C.W. Verney, Y Wern ger Traeth Coch, Llanddona, Môn. Gwnaed arbrofion ar y traeth, ond daeth yn amlwg nad oes yr injan a oedd ar gael yn ddigon pwerus. Roedd dyletswyddau dysgu yn cymryd blaenoriaeth, ond aethpwyd ati i logi injan gryfach (J.A.P.) oddi wrth cwmni A.V. Roe[14] (Avro[15] yn diweddarach). Bu un ehediad byr yn haf 1911, ond torrodd y siafft cranc. Trwsiodd Roe y peiriant, ond cyn i Williams cael cyfle arall gydag ef, fe'i gwerthwyd. Bu'r ddwy flynedd ganlynol yn rhwystredig wrth geisio injan bwrpasol[1]. O'r diwedd y 1913 cafwyd ehediad llwyddiannus. Yn ôl plac sydd ar gyrion traeth Llanddona cofnodwyd bod prawf hedfan wedi bod yn llwyddiant yn 1913. Roedd yr awyren wedi cyflawni'r dasg o gyrraedd uchder o saith troedfedd a hedfan ar 37 milltir yr awr. Galwodd yr awyren y Bamboo Bird. Diddordeb gwyddonol oedd gan Williams yn y gwaith, ac yn 1914 cyhoeddwyd y pwysicaf o'i bapurau yn y maes yn yr Aeronautical Journal[16]. Mae'n debyg mai Williams oedd y gyntaf i osod manomedrau yn yr adenydd i fesur yn fanwl y rhagdybiaethau damcaniaethol[1] - er nad oes cyfeiriad ato pan gyhoeddwyd pethau tebyg gan beirianwyr yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau yn ddiweddarach!
Hwn oedd diwedd gyrfa (a hobi ?) Williams ym maes hedfan. Yn ystod y rhyfel fe'i rhyddhawyd gan Goleg y Brifysgol i weithio i'r Weinyddiaeth Awyr. Ond mae'n debyg ei wybodaeth gemegol a fu o bwys yno. Mae sôn mai ar y broblem o saethu gwn peiriant (maching gun) trwy propelor awyren oedd ei dasg[1].
Yn sicr roedd Williams eisoes yn ymwybodol o agweddau masnachol peirianneg yn ehangach. Yn 1911 cynigodd syniadau (a chyfle patent) ar gydbwyso peiriant car i gwmni ceir Humber[17]. (Nid yw'r ymateb ar gael, ond fe ddefnyddir yr egwyddor o hyd)[1].
Roedd gan Williams hefyd diddordebau ymarferol yn niwydiant cloddio'r ardal. Yn 1911, mewn cydweithrediad a W.J. Parry, Coetmor, gwaeth ymchwiliad o fwynau tiroedd comin Cwm Graianog a Marchlyn ym mhlwyf Llandygai. Yn 1912 a 1913 trodd ei olygon at Ynys Môn, a chwareli calchfaen Moelfre yn arbennig. Erbyn 1914 'roed yn ymchwilio i bosibiliadau manteisio ar dywod silica o'r Iwerddon[1].
Adran Drydanol Bangor
golyguAr ôl y rhyfel fe ddaeth yn ôl i Fangor. Erbyn hyn roedd yna heriau newydd ar y gorwel ac fe drodd ei sylw i'r maes trydanol. Yn 1920, ar argymhelliad y Prifathro Syr Henry Reichel[18] a'r Athro E. Taylor Jones[19], apwyntiwyd Williams yn ddarlithydd mewn Trydan Cymwysedig (yn yr adran ffiseg). (Bu William George[20], Cricieth yn rhan o'r hanes[2].) Ceir hanes sefydlu Adran Drydanol Gymwysedig Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn ystod y 7 mlynedd nesaf yn narlith Eisteddfod Genedlaethol (2005) Alwyn R. Owens[2]. Apwyntiwyd Williams yn bennaeth gyntaf arni yn 1927 - a bu'n brysur yn dysgu (gydag un darlithydd arall yn unig yn gymorth) am y blynyddoedd nesaf. Yn ystod y cyfnod hwn cyhoeddodd erthygl ar "Y Pellweledydd" (sef y teledu) yn Y Ford Gron[21]. Arweiniodd yr adran newydd trwy gyfnod prysur ac anodd yr ail ryfel byd[2] cyn ymddeol yn 1946. Cymerwyd ei le, fel pennaeth, gan W. Emrys Williams, Cymro o Lerpwl[2]. Treuliodd ei ymddeoliad yn ardal ei enedigaeth, Dyffryn Ogwen. Bu farw yno yn 1962 yn 81 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 Owens, Alwyn R. (2015). "Cyfraniad Bangor i fyd hedfan (dwy ran)". Y Casglwr 113 (tud 6-7), 114 (tud 6-7).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Owens, Alwyn R. (2005). Yr Amryddawn William Ellis Williams o Lanllechid: Dyn o Flaen ei Oes. (Y Ddarlith Wyddonol). Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Eryri a'r Cyffiniau).
- ↑ J J O'Connor a E F Robertson (Tachwedd 2007). "Andrew Gray". Prifysgol St Andrews. Cyrchwyd Chwefror 7, 2019.
- ↑ "George Hartley Bryan, 1864-1928". Y Gymdeithas Frenhinol. 1 Rhagfyr 1933. Cyrchwyd Chwefror 7, 2019.
- ↑ "Archif y Mis – Ionawr 2019: George Hartley Bryan (1864-1928)". Prifysgol Bangor. 7 Ionawr 2019. Cyrchwyd Chwefror 8, 2019.
- ↑ Bryan, George Hartley (1911). "Stability in aviation. An introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanes". Internet Archive. Cyrchwyd Chwefror 8, 2019.
- ↑ Bryan, George Hartley (2018). "Stability in Aviation: An Introduction to Dynamical Stability as Applied to the Motions of Aeroplanes (1911)". Google Books. Cyrchwyd Chwefror 5, 2019.
- ↑ G.H. Bryan & W.E. Williams (7 Ionawr 1904). "The Longitudinal Stability of Aerial Gliders". Proc Roy Soc Volume 73: 100-116. https://royalsocietypublishing.org/doi/10.1098/rspl.1904.0017.
- ↑ Maurizio Collu, Minoo H. Patel a Florent Trarieux (2 Rhagfyr 2009). "The longitudinal static stability of an aerodynamically alleviated marine vehicle, a mathematical model". Proc. Roy Soc. A 466 (2116). https://royalsocietypublishing.org/doi/full/10.1098/rspa.2009.0459.
- ↑ Röntgen, Wilhelm (28 Rhagfyr 1895). "Ueber eine neue Art von Strahlen. Vorläufige Mitteilung". Aus den Sitzungsberichten der Würzburger Physik.-medic. Gesellschaft Würzburg: 137–147. https://archive.org/details/b30475697.
- ↑ Williams, William Ellis (1907). "On the influence of stress on the electrical conductivity of metals.". The London, Edinburgh and Dublin Philosophical Magazine and Journal of Science (Phil. Mag.) 13 (77): 635-643. https://www.tandfonline.com/doi/abs/10.1080/14786440709463641?journalCode=tphm17.
- ↑ Lenaghan, Anne (Chwefror 2002). "Papers of William Ellis Williams". JISC Archives Hub. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ Cooper, Ralph. "Léon LeVavasseur 1863-1922". www.earlyaviators.com. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ "The life of A.V. Roe". Avro Aircraft. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-20. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ "AV Roe & Company". BAE Systems. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ Williams, W.Ellis (Hydref 1914). "The Pressure Distribution on an Aeroplane Wing in Flight". The Aeronautical Journal 18 (rhif 72): 319-323. https://www.cambridge.org/core/journals/aeronautical-journal/article/pressure-distribution-on-an-aeroplane-wing-in-flight/A80787EF40EF330E9DA4A1AD29B00D3E.
- ↑ "History of Humber Cars". www.rootes-chrysler.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-20. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ Evans, Syr David Emrys (1953). "REICHEL, Syr HARRY (HENRY RUDOLF) (1856 - 1931), prifathro Coleg y Gogledd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ "Edward Taylor Jones". Prifysgol Glasgow. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-19. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ "William George (Solicitor) Papers" (PDF). Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 3 Mai 2017. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.[dolen farw]
- ↑ Williams, W.E. (Ebrill 1935). "Achubwn y blaen ar y pellweledydd". Y Ford Gron (Papur Cymry'r Byd) 5 (rhif 7): 151-152. https://journals.library.wales/view/1371517/1373116/8#?xywh=-2721%2C-232%2C8551%2C4338.