Wales (cylchgrawn)
Cyfnodolyn llenyddol Saesneg oedd Wales yn cynnwys ffuglen, barddoniaeth, adolygiadau ac erthyglau. Roedd hefyd yn cynnwys hysbysebion ac erthyglau golygyddol. Dechreuodd yn gyhoeddiad chwarterol (Rhif 1. (Haf 1937)-Rhif 11 (Gaeaf 1939-1940), daeth yn bapur llydan yn ystod y rhyfel (Rhif 1 (1941), yna fe'i gyhoeddwyd bob chwe mis (1943-1949). Yn 1958 ail ddechreuwyd ei gyhoeddi yn fisol (Rhif 32) ac fe’i ddiweddwyd yn Ionawr 1960 (Rhif 47). Fe'i cyhoeddwyd rhwng 1937 and 1960.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1894 |
Lleoliad cyhoeddi | Wrecsam |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Keidrych Rhys oedd golygydd y cylchgrawn o'i sefydlu hyd ddiwedd ei gyfnod.
Roedd dylanwad y cylchgrawn ar lenyddiaeth Cymru'n fawr. Yn wir, roedd y cylchgrawn yn "torri tir newydd" yn ôl Robert Graves, a ohebai'n rheolaidd gyda Keidrych a Lynette Roberts; credai y byddai mudiad newydd o feirdd Celtaidd yn tarddu, gyda thraddodiad yn bwysig iddynt.
Cyhoeddwyd erthyglau, storiau byrion a cherddi gan feddylwyr mawr a beirdd blaenllaw megis Alun Lewis, Saunders Lewis, Dylan Thomas, Glyn Jones a Lynette Roberts. Ymddangosodd rhannau cyntaf llyfr Robert Graves ar fytholeg a barddoniaeth, sef The White Goddess, yn ogystal â thair stori: 'Dog', 'Roebuck' a 'Lapwing', rhwng 1944 a 1945.
Roedd y cylchgrawn yn ymgais fwriadol i greu llwyfan ar gyfer sgwennwyr ifanc a deimlai fod unrhyw gyfraniad i ddiwylliant Prydeinig yn gyfraniad pitw, ac roedd yn ymgais, felly, i greu llwyfan i lenyddiaeth Eingl-Gymreig.[2]
Y Cylchgrawn ar-lein
golyguCafodd rhifynau o'r cylchgrawn eu digo gan y Llyfrgell Genedlaethol a'u rhoi ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein. Gellir darllen y rhifynnau am ddim.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cylchgronau Cymru Ar-lein: Wales. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Oxford Companion the Literature of Wales (1986), tud. 622
- ↑ "Wales". Cylchgronau Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 22 Mai 2024.
Dolenni allanol
golygu- 'Wales' ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein