Walter Clopton Wingfield

dyfeisiwr tennis modern

Roedd yr Uwchgapten Walter Clopton Wingfield MVO (16 Hydref 1833 - 18 Ebrill 1912) yn ddyfeisiwr o Gymru a swyddog yn y Fyddin Brydeinig a oedd yn un o arloeswyr tenis lawnt.[1][2] Fe'i cyflwynwyd i Oriel Anfarwolion Tenis Rhyngwladol ym 1997, fel sylfaenydd tenis lawnt fodern. Mae esiampl o'r offer gwreiddiol ar gyfer y gamp a phenddelw o Wingfield i'w weld yn Amgueddfa Tenis Lawnt Wimbledon.

Walter Clopton Wingfield
Ganwyd16 Hydref 1833 Edit this on Wikidata
Rhiwabon Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 1912, 12 Ebrill 1912 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdyfeisiwr, swyddog milwrol, chwaraewr tenis Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Neuadd Anfarwolion' Tennis Rhyngwladol, Member of the Royal Victorian Order Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Wingfield ym 1833 yn Rhiwabon yn fab i Clopton Lewis Wingfield, uwchgapten yn y 66ain Gatrawd Traed, a Jane Eliza, merch Syr John Mitchell KCB. Bu farw ei fam ym 1836 ar ôl enedigaeth ei hail blentyn a bu farw ei dad ym 1846 o rwystr y coluddyn. Magwyd Walter gan ei ewythr a'i hen ewythr. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Rossall, ac ym 1851 aeth i mewn i'r Academi Filwrol Frenhinol, Sandhurst, ar yr ail ymgais trwy ddylanwad ei hen ewythr oedd yn gyrnol.

O Sandhurst comisiynwyd Wingfield yn Gornet yng Ngwarchodlu 1af y Dragwniaid gan wasanaethu yn India. Ym 1858 daeth Wingfield yn gapten ac ym 1860 cymerodd ran yn yr ymgyrch yn Tsieina ac roedd yn bresennol wrth orchfygu Peking. Dychwelodd i Brydain ym 1861 a ymddeolodd o'r dragwniaid flwyddyn yn ddiweddarach.[3]

Wedi ymadael a'r fyddin bu'n fyw ar ei ystâd Rhysnant, Llandrinio, Sir Drefaldwyn. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch i Sir Drefaldwyn ac yn Uwchgapten y Mataliwn Iwmyn y sir.

Ar 1 Tachwedd 1858 priododd Alice, merch ieuengaf y Cadfridog Wheeler Cleveland, bu iddynt dri mab a merch. Bu'r meibion marw o'i flaen mewn amgylchiadau trychinebus.[4][5]

Tenis lawnt

golygu
 
Llyfr rheolau'r gêm gan Wingfield, 1874

Ar ddiwedd y 1860au, roedd Wingfield yn un o'r bobl bu'n arbrofi gyda fersiwn lawnt o denis. Cynigiodd peli rwber wedi fwlcaneiddio oedd yn bownsio cyfle i ddatblygu fersiwn o denis brenhinol i chware yn yr awyr agored. Dyfeisiodd Wingfield gêm a alwodd yn sphairistike. Cymerodd yr enw o'r Roeg ar gyfer "gemau pêl gymnasteg", ond, ar gyngor ffrindiau, ychwanegodd y geiriau neu Lawn Tenis at ei deitl. Yn ôl traddodiad, arddangosodd y gêm gyntaf mewn parti Nadolig gwledig yn Nantclwyd ym 1873, cyn cael patent ar ei gyfer ym mis Chwefror 1874. Fodd bynnag, mae'n rhaid mai hwn oedd y fersiwn derfynol, oherwydd ei fod wedi ei arddangos i'r Arglwydd Lansdowne ym misoedd yr haf, 1869. Nid Wingfield oedd yr unig un i geisio dyfeisio gêm seiliedig ar dennis i'w chware yn yr awyr agored, ar yr un pryd bu Harry Gem ac Augurio Perera yn dangos eu gêm o'r enw Pelota yn Leamington Spa.[3]

Cafodd Wingfield patent ar gyfer A New and Improved Court for Playing the Ancient Game of Tennis a dechreuodd farchnata ei gêm yng ngwanwyn 1874. Bun gwerthu setiau bocs a oedd yn cynnwys peli rwber a fewnforiwyd o'r Almaen yn ogystal â rhwyd, polion, marcwyr cwrt, racedi a llawlyfr cyfarwyddyd.[6]

Roedd y setiau ar gael gan asiant Wingfield, French and Co yn Pimlico, Llundain, ac yn costio rhwng pump a deg gini'r un. Yn ei fersiwn ef, chwaraewyd y gêm ar lys siâp awrwydr ac roedd y rhwyd yn uwch (4 troedfedd 8 modfedd). Roedd yn rhaid i'r gwasanaeth gael ei wneud o flwch siâp diemwnt ar un pen yn unig ac roedd yn rhaid i'r gwasanaeth bownsio y tu hwnt i linell y gwasanaeth yn hytrach nag o'i flaen. Mabwysiadodd system sgorio seiliedig ar Rackets lle'r oedd gemau'n cynnwys 15 pwynt (o'r enw 'aces'). Rhwng Gorffennaf 1874 a Mehefin 1875 gwerthwyd 1,050 o'i setiau Tenis, yn bennaf i'r bendefigaeth.[7]

Roedd Tenis lawnt yn dod yn gêm amgen i griced yng Nghlwb Criced Marylebone (MCC) ac fe'i chwaraewyd ar faes Lords. Ym 1875 galwodd John Moyer Heathcote gyfarfod yn y MCC i sefydlu set o reolau cyffredinol ar gyfer y gamp a gwahoddwyd Wingfield i gymryd rhan. Mabwysiadwyd cwrt awrwydr a dull sgorio Wingfield a ystyriodd Wingfield fod ei gamp bellach wedi ei ymddiried i'r MCC. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n dioddef trasiedïau personol gan gynnwys afiechyd meddwl ei wraig a marwolaeth ei dri mab ifanc a pherodd iddo golli pob diddordeb yn y gêm. Ym 1877 lansiodd Clwb Tenis Lawnt a Chroce Lloegr Bencampwriaeth Wimbledon. Mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr y MCC, datblygwyd set newydd o reolau a oedd yn hepgor llawer o gyflwyniadau Wingfield.

Ysgrifennodd Wingfield ddau lyfr am denis: The Book of the Game (1873) a The Major's Game of Lawn Tennis (1874).

Marwolaeth

golygu

Bu farw Wingfield ar 18 Ebrill 1912 yn ei gartref yn Llundain, 33 St George's Square, Belgravia, o emffysema a broncitis, y bu'n dioddef ohonynt ers sawl blwyddyn. Fe'i claddwyd ym mynwent Kensal Green. Mae'n cael ei gofio gan gerflun yng nghyntedd y Gymdeithas Tenis Lawnt sy'n ei ddynodi fel 'Dyfesiwr Tenis Lawnt.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tyzack, Anna,The True Home of Tennis Country Life, 22 June 2005
  2. J. Perris (2000) Grass tennis courts: how to construct and maintain them p.8. STRI, 2000
  3. 3.0 3.1 3.2 W. (2004, September 23). Wingfield, Walter Clopton (1833–1912), inventor of lawn tennis. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 17 Chwef. 2019
  4. "FATAL CARELESSNESS WITH A REVOLVER - The Cardigan Observer and General Advertiser for the Counties of Cardigan Carmarthen and Pembroke". 1887-01-15. Cyrchwyd 2019-02-17.
  5. "SHOCKING ACCIDENT OFF SINGAPORE - Pontypool Free Press and Herald of the Hills". D. Walkinshaw. 1877-01-27. Cyrchwyd 2019-02-17.
  6. Barrett, John (2010). The Original Rules of Tennis. Oxford: Bodleian Library. tud. 13–19. ISBN 9781851243181
  7. Birley, Derek (1993). Sport and the Making of Britain. Manchester: Manchester University Press. tud. 313. ISBN 9780719037597