Plas Nantclwyd

plas rhestredig Gradd II* yn Llanelidan

Mae Plas Nantclwyd yn adeilad rhestredig Gradd II* yng nghymuned Llanelidan, Sir Ddinbych. Mae'n un o gartrefi'r teulu Naylor-Leyland ar stad Nantclwyd. Rhwng 1956 a 1970, dyluniwyd rhannau o'r tŷ, gerddi a pharc y plas gan y pensaer adnabyddus, Clough Williams-Ellis.[1]

Plas Nantclwyd
Mathplas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstad Nantclwyd Edit this on Wikidata
LleoliadLlanelidan Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr110.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0568°N 3.32775°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Sioraidd Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Yn ystod yr 17g roedd Plas Nantclwyd yn adnabyddus fel lle a oedd yn groesawus i'r beirdd a'u crefft, fel sy'n amlwg o'r cywydd isod gan Mathew Owen o Langar.[2] Ymddengys bod rhai yn y cyfnod wedi arfer cyfeirio at y tŷ fel Pont y Go, ar ôl bont cyfagos dros Afon Clwyd.

Ymhlwy Llanlidan wladedd
mae lles mawr mae llys y medd;
llawn yw hwn, llawen henwydd,
o ennaint cler yn Nant Clwyd.

...

er ganed plasau glennydd
hyd doldir ein sir ni sydd
nid adwen un, od ydi,
yn y wlad hon, ail i ti
am gwrw a bir, difir a dôn,
a gae fyrdd, ag i feirddion.
Wrth son, anfodlon wyf i,
dig am hyn dy gamhenwi.
Anrewsm enw a roesont,
di-lân beth dy alw yn bont.
Nid pont wyd, ond penna tŷ,
cu diriongrair cadarngry.
Pont ar Glwyd, pwynt i'r gwledydd,
yn dy'ymyl, blas annwyl, fydd.
Dithau ar fryn, goddfyn gwaed,
na lysenwan, lys henwaed.
Pont y Go yw honno ei hun
dithau, plas Nantclwyd laslun.

Yn ôl traddodiad, rhoddodd Walter Clopton Wingfield dyfeisiwr y gêm tenis lawnt un o arddangosiadau cyntaf o'r gêm mewn parti Nadolig yn Nantclwyd ym 1873.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cronoleg Clough Williams-Ellis". Portmeirion Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-07. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2014.
  2. Jones, E.D.. "The Brogyntyn Welsh manuscripts". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7 (4 (Gaeaf 1952)): 277-315. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/listarticles/llgc-id:1277425/llgc-id:1279553. Adalwyd 7 Gorffennaf 2014.
  3. W. (2004, September 23). Wingfield, Walter Clopton (1833–1912), inventor of lawn tennis. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 17 Chwef. 2019