Wicipedia:Ewch amdani!

(Ailgyfeiriad o Wicipedia:EA)
Llwybr(au) brys:
WP:EA
WP:EWCH
WP:DATRYSWCH

Ewch amdani!

golygu

Mae cymuned Wicipedia yn eich annog i olygu tudalennau, ac yn dweud ewch amdani wrth ddiweddaru/gwella erthyl(au). Mae Wiciau fel yr un a geir yma yn datblygu'n llawer cyflymach pan fo pawb yn helpu'i gilydd i ddatrys problemau, cywiro gramadeg, ychwanegu ffeithiau, sicrhau bod geiriad cywir ac ati. Hoffem i bawb fynd amdani a helpu i Wicipedia fod yn wyddoniadur gwell. Sawl tro ydych chi wedi darllen rhywbeth a meddwl, "Pam nad oes copiolygu gan yr erthygl yma?" Mae Wicipedia'n rhoi'r gallu ichi ychwanegu, adolygu, a golygu erthyglau, a'r gorau oll - mae e eisiau ichi ei wneud! Wir, mae angen rhyw dipyn o foesgarwch, ond mae'n gweithio. Byddwch yn ei weld e. Wrth gwrs, bydd cyfranwyr eraill yn golygu'r hyn rydych yn ei ysgrifennu hefyd, ond peidiwch â'i gymryd yn bersonol! Maen nhw, fel y gweddill ohonom ni, jyst am greu Wicipedia'n wyddoniadur cystal ag y gallai fod.

Hefyd, pan welwch chi wrthdrawiad mewn tudalen sgwrs, peidiwch ag eistedd yn dawel - ewch amdani a dweud eich dweud yno hefyd.

...ond gan bwyll

golygu
 
Mae "Ewch Amdani" (yn Saesneg: Be Bold) wedi dod yn slogan anffurfiol Wicipedia

Er bod cyfranwyr eraill a chwithau yn mynd amdani, sy'n gaffaeliad da, mae'n bwysig bod cyfranwyr yn cymryd gofal a chan bwyll, a ddim yn golygu'n ddi-hid. Wrth gwrs, gellir dadwneud unrhyw newidiadau, ond mae'n bwysig nad ydych yn ei gymryd i galon os yw'ch newidiadau yn cael eu dadwneud, eu newid (gwella fel arfer), neu gael eu golygu ymhellach. Ond ceir ychydig o newidiadau arwyddocaol sy'n parhau am oes, ac maen nhw'n anodd eu datrys os ydyn nhw'n codi. Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, gofynnwch am gymorth.

Yn aml iawn, mae'n llawer haws gweld fod rhywbeth o'i le yn hytrach na gwybod yr hyn sy'n gywir i'w wneud. Nid oes yn rhaid i bawb fynd amdani. Wedi'r cyfan, dweud bod rhywbeth o'i le gydag erthygl yn ei thudalen sgwrs gall fod yn gam cyntaf, a hwn yw'r cam cyntaf i ddatrys y peth. Ond mae'n wir fod problemau'n cael eu datrys yn gynt os mai chi sy'n ei wneud.

I ddyfynnu Edmund Spenser, "Be bold, be bold, and everywhere be bold," ond "gan bwyll."

Llefydd nad ydynt yn erthyglau

golygu

Er ein bod yn annog i gyfranwyr fynd amdani wrth ddiweddaru erthyglau, mae'n rhaid cymryd rhagor o ofal wrth olygu tudalennau sydd ddim yn erthyglau. Adnabyddir y fath dudalennau gyda'r rhagddodiad enw-le. Er enghraifft, mae gan y tudalen hwn, Wicipedia:Ewch amdani!, y rhagddodiad "Wicipedia:"; os oedd Ewch amdani! (gyda dim rhagddodiad) yn sefyll ar ei ben ei hun, fe fyddai'n erthygl.

Gall problemau godi am ambell i reswm ar wahanol gyd-destunau o fewn llefydd nad ydynt yn erthyglau. Dylech ystyried y problemau hyn wrth fynd amdani, a sut i fynd amdani hefyd.

Enw-le Wicipedia

golygu

Mae'r rheol o "gan bwyll" yn hynod o bwysig yng nghyd-destun canllawiau a pholisïau Wicipedia, lle gellir mynegi rhannau allweddol mewn ffordd benodol i adlewyrchu consensws - sydd efallai ddim yn amlwg i bobl sy'n anghyfarwydd â'r cefndir. Mewn achosion o'r fath, mae'n well trafod newidiadau yn gyntaf. Wedi dweud hynny, dylech gywiro gwallau gramadegol a sillafu mor fuan ag y bo modd ac wrth eu gweld.

Mae trafod newidiadau i dudalennau eraill gyda'r rhagddodiad "Wicipedia:" hefyd yn syniad da. Mae gwneud hwn yn darparu rheswm o'r newidiadau ar gyfer cyfranwyr eraill. Mae'r fath fwyafrif o dudalennau'n gasgliadau o ddadleuon a osodwyd mewn lle Wicipedia am gyfeiriad, felly nid oes angen ailadrodd yr un dadleuon drosodd a throsodd.


Mae Wicipedia Cymraeg yn brosiect cydweithredol ond mae ganddi ei pholisïau ei hun. Ystyrir hefyd polisïau Wiki-en yn ganllawiau defnyddiol pan nad yw'r polisïau manwl ar gael yn y Gymraeg.

Ein hamcan gyda Wicipedia yw creu gwyddoniadur a roddir am ddim i bawb ei ddefnyddio; hwn y'r gwyddoniadur mwyaf a grëwyd erioed, o ran ei hyd a'i led. Carem iddo hefyd fod yn ffynhonnell ddibynadwy o ffeithiau diduedd.

Mae i Wicipedia, felly, nifer o bolisïau a chanllawiau a ystyrir yn bwysig gennym. Mae'r rhain yn ein cynorthwyo i gyrraedd yr amcanion yma. Mae rhai ohonynt yn esblygu o ddydd i ddydd wrth i Wicipedia ddatblygu a chynyddu. Mae eraill, fodd bynnag, wedi hen sefydlu ac ni chaent eu hystyried mewn unrhyw ffordd yn ddadleuol gan y rhan fwyaf o hen lawiau Wicipedia.

Polisïau

golygu

Mae'r rhain wedi'u sefydlu ar Bum Colofn Wicipedia:

1. Osgoi rhagfarn (neu ogwydd). Dylai erthyglau gael eu hysgrifennu o safbwynt niwtral, sy'n golygu y dylai'r erthygl gynrychioli o leiaf dwy farn wahanol, a hynny yn deg ac yn sensitif. Gweler Wicipedia:Arddull ddiduedd am esboniad manylach.

2. Peidiwch ag amharu ar hawlfraint. Mae Wicipedia yn wyddoniadur a roddir i bawb yn rhydd, yn rhad ac am ddim, a hynny o fewn termau GNU Free Documentation License. Mae uwchlwytho gwaith heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint yn herio (ac weithiau'n torri) ein hamcanion, sef adeiladu gwyddoniadur cyfan gwbwl am ddim y gall unrhyw un ei ddosbarthu i unrhyw bwrpas; gall hefyd arwain at atebolrwydd cyfreithiol. Gweler Wicipedia:Hawlfraint a Wicipedia:Cynnwys cyfyngedig am ragor o wybodaeth.

3. Gwyddoniadur yw Wicipedia. Dylai'r wefan gael ei defnyddio'n bennaf er mwyn hybu'r gwyddoniadur hwn ac nid i leisio barn. Pwrpas y tudalennau 'Sgwrs' yw gwella a hybu'r erthyglau. Gweler Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia a Wicipedia:Angen ffynhonnell sy'n ymwneud â dwy garreg glo hanfodol. Ceir polisi gennym hefyd ar Amlygrwydd, sef y meincnodau a ddefnyddir wrth i ni ystyried a ydy'r person, y grŵp, y cwmni neu'r gwrthrych yn haeddu erthygl. Ceir hefyd Bolisi ar enwi erthyglau.

4. Parchwch ddefnyddwyr eraill. Mae'r rheiny sy'n cyfrannu at Wicipedia'n dod o wahanol wledydd a diwylliannau ac mae ganddynt farn wahanol i'w gilydd yn aml. Mae hyn yn wir hefyd am y Wicipedia Cymraeg, gyda llawer o'r cyfrannwyr yn byw ledled y byd. Gallwn gydweithio'n effeithiol mewn modd cwrtais i ddatblygu Wicipedia pan rydym yn parchu pobl ac amrywiaeth barn. Gweler y canllaw Saesneg: Moesau. Mae ein Polisi preifatrwydd yn rhan anhepgor o barchu eraill.

5. Dilynwch y confensiynau. Drwy ddilyn rhai confensiynau neu arferion sydd heb eu hysgrifennu, gallwn greu gwyddoniadur mwy cyson a defnyddiol. Edrychir ar rai o'r canlynol fel polisïa drwy ddefnydd a chonfensiwn:

6. Ewch amdani!. Byddwch ddewr: os gwnewch gangymeriad - peidiwch â phoeni! Gweler: Wicipedia:Ewch amdani!.

Sut mae'r polisïau hyn yn cael eu gorfodi?

golygu

Golygydd Wicipedia yw...chi. Nid oes "Prif Olygydd" neu sensor mawr sy'n goruchwylio'r holl waith o ddydd i ddydd. Yn hytrach, mae'r defnyddwyr eu hunain yn monitro newidiadau diweddar a chywiro gwallau'n ymwneud â hawlfraint a chynnwys a fformadu fel maent yn codi.

Mewn achosion eithriadol mae Jimmy Wales yn medru atal defnyddiwr sydd wedi bod yn hen niwsans. Mae Jimbo wedi creu rhai polisïau swyddogol ar ran Wicipedia: this Wikien-l post a en:User:Jimbo Wales/Statement of principles.

Sut y crëwyd y polisïau

golygu

Ymarfer da a chonsensws barn mewn gwirionedd sydd wrth wraidd ein polisïau. Yn yr un modd, crëwyd y canllawiau hyn er mwyn disgrifio'r gymuned a gwaith y gymuned fel y mae hi heddiw a'r ymarfer da maent wedi ei grynhoi a'i gasglu dros y blynyddoedd. Rydym yn parhau i drafod ac ystyried problemau ar yn Y Caffi.

Canllawiau i'w hystyried

golygu

Yn ogystal â'r polisïau cyffredinol rydym wedi'u rhestru uchod, mae'r canlynol yn ganllawiau a ddefnyddiwn, ond sydd wedi'u creu ar Wici-en::

Canllawiau iaith

golygu

Erthyglau a sgyrsiau eraill ynghylch Wicipedia

golygu
  • Mae gwefan Meta-Wikipedia yn cynnwys llawer o erthyglau ynglŷn â Wicipedia a phynciau perthynol mewn dull mwy golygyddol.
  • Creu erthyglau sut-i ar Wicipedia.