Wicipedia:Y Caffi/archif/13

Archif Gorffennaf 2009 - Mawrth 2010

Creu gwybodlen yn hawdd :D

golygu

Rwyf wedi creu templed newydd ar gyfer creu gwybodlen yn hawdd ac yn gyflum! Nid oes angen llenwi erthygl cyfan i fynu efo codau hir rhagor! Ond sydd angen wneud yw copio'r stwff isod i'r erthygl ac yna llenwch y gaps! Edrychwch ar nodyn:gwybodlen am fwy.

{{gwybodlen
|enw=
|delwedd=
|isdeitl=
|pennawd=
|maintdelwedd=
|eitem1=
|testun1= 
|eitem2=
|testun2=
|eitem3=
|testun3=
|eitem4=
|testun4= 
|eitem5=
|testun5=
|eitem6=
|testun6=
|eitem7=
|testun7= 
|eitem8=
|testun8=
|eitem9=
|testun9=
|eitem10=
|testun10=
}}

Pob hwyl, Rhys Thomas 20:57, 14 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr, Rhys. Mae'n syniad ardderchog cael gwybodlen syml aml-bwrpas fel hon yn lle gwastraffu oriau yn ceisio creu rhai arbennig ar bob pwnc dan haul, gan geisio addasu sgriptiau cymhleth y wici Saesneg (nodyn o fewn nodyn o fewn nodyn, ayyb!). Bydd yn arbennig o ddefnyddiol mewn erthyglau daearyddiaeth. Anatiomaros 21:25, 14 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Strategy Volunteers Still Needed

golygu

Please forgive the posting in English. Would someone please translate?

Hi all,
Although we will soon remove the centralnotice that is up, the Wikimedia Strategic Planning project is still looking for volunteers to serve as subject area advisors or to sit on task forces that will study particular topics and make recommend short- and long-term strategies for the Wikimedia projects and Foundation, and the wiki movement.

To apply to serve on a task force or be an advisor in a specific area, visit http://volunteer.wikimedia.org.

The Wikimedia Strategic Planning project is a year-long collaborative process being hosted at http://strategy.wikimedia.org. Your input is welcome there, and will drive the process. When the task forces begin to meet, they will do their work transparently and on that wiki, and anyone may join fully in their work. We hope to include as many community members as possible in the process.

Any questions can be addressed to me either on on the strategy wiki or by email to philippe at wikimedia.org.

I hope you'll consider joining us!

Philippe 03:14, 4 Hydref 2009 (UTC)[ateb]


The LocalisationUpdate extension has gone live

golygu

The LocalisationUpdate extension is now enabled for all Wikimedia projects. From now on new localisations that become available in SVN will become available to your project within 24 hours. Your localisations get into SVN from translatewiki.net typically within a day and at worst in two days. This is a huge improvement from the old practice where the localisations became available with new software. This could take weeks, even months.

The localisations done by our community at translatewiki.net are committed to SVN typically every day. When the system messages in English are the same as the local messages, they will now be inserted in a file and are available for use in all our projects in a timely manner

Delwedd y diwrnod!

golygu

Mae'n debygol eich bod wedi gweld y newidiadau diweddar i'r dudalen hafan. Mae nawr gennym flwch newydd efo delwedd sy'n cael ei diweddaru'n ddyddiol- ond does dim delweddau yn y system!!! Mae gen i arholiadau level A i sefyll ac felly nid oes amser gennyf i ychwanegu tua 365 delwedd i wikipedia- ond nai parhau i gyfrannu rhai lluniau ond mae'n mynd yn boendod! Felly plîs gallwch helpu os gwelwch yn dda trwy ychwanegu lluniau! Gwelwch Delwedd y diwrnod am gyfarwyddiadau- os nad oes unrhyw un yn cyfrannu yna yn anffodus bydd rhaid i mi ddileu'r blwch o'r hafan!

Diolch, Rhys Thomas 20:52, 4 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi treio gwneud hyn gan ddilyn y cyfarwyddiadau rhoddaist ti ar y dudalen 'na ond naeth e ddim weithio. Allet ti esbonio sut i wneud hyn? Bwra i mlaen 'da nhw wedyn. Diolch. Glanhawr 19:03, 8 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Dyma enghraifft- Nodyn:Pigion2/Diwrnod 17/11. Fe fydd y ddelwedd yma yn ymddangos ar yr 17eg o Dachwedd. Edrychwch ar god y nodyn, copïwch y cod yma a newidiwch y ddelwedd ar gysylltiadau- mae'r cod yn eithaf syml! Diolch am eich help! Rhys Thomas 23:27, 8 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Nid yw'r blychau "Delwedd y diwrnod" a "Pethau i'w gwneud" yn ymestyn yr holl ffordd ar draws y dudalen, yn yr un modd â'r blychau eraill. --Adam (Sgwrs) 17:20, 19 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Mae yn ymestyn yn iawn os mae'r delwedd tua 300px! Weithiau mae angen cynnig a gwella ychydig! Rhys Thomas 17:35, 19 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Canoli

golygu

Beth am symud blychau delwedd y diwrnod a'r blwch pethau i'w gwneud i ganol y dudalen? Maen nhw'n disgwyl braidd yn rhyfedd ar yr ochr. Glanhawr 23:05, 19 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Nad oes 'na ffordd i ymestyn y blychau ar draws y dudalen i gyd yn yr un modd â'r blychau eraill? --Adam (Sgwrs) 23:04, 13 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth

golygu

Ymddengys fod ein "cyfaill" o'r Unol Daleithiau, yr un sy'n fandaleiddio ffilmiau Disney yn ol unwaith eto. Mae wedi bod yn ceisio newid tudalennau ffilmiau ond am fod y mwyafrif ohonynt wedi'u diogelu (am yr union reswm hyn) mae wedi troi ei law at newid tudalennau gwahaniaethu sydd a rhyw gysylltiad a ffilmiau animeiddiedig (a fy nhudalen defnyddiwr i hefyd!). Os oes modd cadw ein llygaid yn agored, byddai'n hwyluso pethau yn yr hir dymor. Diolch bobol! Rhodri77 20:28, 11 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Mae e newydd fod ati am awr yn fandaleiddio erthyglau ffilmiau eraill hefyd. Os byddwn yn wyliadwrus na fydd problem sai'n credu. Allwn ni ddiogelu pob erthgyl ffilmiau. Glanhawr 22:39, 11 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Dw i wedi diogelu'r erthyglau am ffilmiau, neu'r rhai mae e wedi fandaleiddio beth bynnag. Y broblem fwyaf yw y bydd e, o bosib, yn mynd ati i newid erthyglau eraill a fydden i ddim yn awyddus i ddiogelu pob erthygl... Anodd gwybod beth i wneud... Rhodri77 18:37, 12 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Sut mae creu Navbox?

golygu

Oes modd inni greu Navbox (templed) am erthyglau? Sut, felly? Xxglennxx 17:15, 13 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

en:Template:Navbox = Nodyn:Blwch llywio --Adam (Sgwrs) 17:23, 14 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Ah, diolch yn fawr, Adam. Roeddwn yn chwarae o gwmpas, gan drio cael un i weithio (http://cy.wikipedia.org/wiki/Nodyn:Navbox), ond mae croeso i ti (neu un o'r admins) ddileu'r nodyn 'na nawr. Xxglennxx 18:38, 14 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n ceisio creu templed am y wici yma o'r templed hwn, ond am rhyw reswm, dyw e ddim yn gweithio. Awgrymiadau, plîs? Xxglennxx 18:44, 14 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Dwi newydd gosod sgerbwd o baramedrau'r (e.e. teitl=) nodyn ar Nodyn:Blwch llywio, gobeithio dy fod yn gallu gweld pa rhai sy'n cyfateb i baramedrau'r nodyn ar en (cofiwch hefyd nad oes angen pob paramedr). --Adam (Sgwrs) 18:57, 14 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Diolch, Adam. Gwnaf i geisio fe 'to :). Xxglennxx 16:36, 19 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Beth am newid enw'r fforwm o Caffi i...

golygu

Pam caffi? Beth am newid y lleoliad i fan arall. Unrhyw awgrymiadau (call neu abswrd!) ee

Siop Siarad
Mainc top-dre
Y cylch cyfrin
Y cwt ieir

(ON Tafarn sydd gan y Llydawyr.) Llywelyn2000 06:44, 14 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

y cynulliad

Ond o ddifrif... "sgyrsfan" neu "fforwm". Mae'n well i'r ystyr fod yn amlwg i ymwelwyr newydd sbon, hyd yn oed os ydy'r enw yn boring.

Diagram ffordd camlasau

golygu

Dwi ddim yn siarad Cymraeg. Rydw i eisiau gosod diagram ffordd camlasau ar Wicipedia. I am working on a map for Camlas Castell-nedd (Defnyddiwr:Bob1960evens/Bocstywod Map), but need the Welsh for "road built over canal", "limit of navigation", "Prince of Wales Dock", "King's Dock", "Red Jacket Pill" (a stream near Castell-nedd), "Giant's Grave" (also near Castell-nedd), and "Branch" (for Tir Isaf Colliery Branch). Diolch. Bob1960evens 11:51, 14 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

  • (a) road (was) built over canal = adeiladwyd ffordd dros y gamlas
  • (there is a) road built over canal = ffordd dros y gamlas
  • limit of navigation = what exactly does this mean?
  • Prince of Wales Dock = Doc Tywysog Cymru
  • King's Dock = Doc y Brenin
  • Red Jacket Pill = assuming it has a Welsh name, it might be shown on an OS map
  • Giant's Grave = Mynwent y Cawr (but the Welsh version, if it exists, is not necessarily a literal translation)
  • Branch = Cangen
  • Tir Isaf Colliery Branch = Cangen Glofa Tir Isaf

--Ben Bore 09:11, 15 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Diolch. "Limit of navigation" means the end of the section which is navigable. Bob1960evens 09:21, 15 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Wikiquote

golygu

Jest cwestiwn bach cyflym. Oes unrhywun yn gwybod sut alla i gael pwerau gweinyddwr ar y Wikiquote? Dw i wedi bod yn gwneud tipyn o waith arno dros yr wythnos ddiwethaf ond byddai'n hynod ddefnyddiol pe bai gen i bwerau gweinyddwr er mwyn gallu delio ag unrhyw achosion o fandaliaeth, uwchlwytho lluniau a.y.y.b. Mawr ddiolch! Rhodri77 18:49, 19 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Ar Meta. Pob lwc! --Adam (Sgwrs) 19:06, 19 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Er gwybodaeth, mae'r safle Wikiquote bellach yn ddiogel. Cafwyd trafodaeth ynglyn a dileu'r safle oherwydd prinder erthyglau a chyfrannwyr ond mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud er mwyn cadw'r safle. Diolch i bawb a gyfrannodd i'r drafodaeth ar meta. Rhodri77 19:23, 21 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Terfyn TOC

golygu

  Cwblhawyd
- Mae'r rhan hon wedi'i datrys.

Oes cod ar gael o fyrhau tabl o gynnwys, fel sydd gan y Wici Saesneg? Pwynt yw byrhau'r TOC felly nad yw'n hir iawn fel sydd gennym yn yr erthygl Wicca. Os nag oes, oes modd creu'r cod? Dyma fe yn Saesneg: {{TOC limit|3}} a dyma'r ddolen i'r Wici yn Saesneg: http://en.wikipedia.org/wiki/Template:TOC_Limit. Xxglennxx 22:30, 24 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Ddim yn siwr os ydy hyn o help, ond beth am edrych ar god http://cy.wikipedia.org/wiki/Nodyn:Cymraeg --Ben Bore 09:16, 25 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am y ddolen, Ben, ond mae'n wahanol o sut mae TOC yn gweithio. Diolch am roi cynnig arni :) Xxglennxx 18:15, 25 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
Jyst i chi i gyd wybod - dwi wedi datrys hyn :) Ewch chi i Derfyn TOC i'w weld (wel, does dim byd i'w weld a dweud y gwir, ond chi'n cael y jest, ha). Xxglennxx 00:31, 30 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am dy waith ar hyn a nodiadau eraill yn ddiweddar, Glenn. Gwn o brofiad fod angen amynedd a dyfalbarhad i ddatrys y pethau yma yn llwyddianus! Anatiomaros 16:09, 30 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Croeso iti (a phawb eraill), Anatiomaros. Efo'r nodynnau priodol, gallwn gyrraedd yr un safon â Wicipedion eraill, gobeithiaf :) Xxglennxx 00:31, 31 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

GOLYGU YN YSTOD Y NOS

golygu

Fedrai gweinyddwyr y wefan ei wneud ni cheir olygu'r seit yn ystod y nos heb gyfrinair ychwanegol?

Mae rhywun yn gwagu'r erthyglau.

Can the site administrators make it so you can't edit the wite during the night without an extra password?

Someone is wiping the artile.s


OK SORI dadwnais i yr info newydd ar Tonari no Totoro achos roeddwn i'n suspicious ond dwedodd rhywun ar fy nhudalen ei fod yn iawn, wps bit embarssing ond serch hynny mae'r erthyglau eraill a got deleted yn gyfan gwbl, a rhaid i hynny fod yn anghywir does dim rhaid i mi fod yn arbenigwr i wybod hynny ac mae'n digwydd yn ystod y nos yn unig, pwy sy' i fyny yn ystod y nos, naill ai maen nhw foriengers neu wei dod allan o glwb nos yn un o ddinasoedd y de siwr o fod

Diolch i ti am gynorthwyo i ddiogelu yr hen Wici. Ymdrechaist ymdrech dda, gyfaill. Ynglyn a dy gwestiwn am ddiogelu erthyglau yn ystod y nos: os ydy pethau'n parhau fel hyn, yna efallai y dylem drafod hyn yn ddifrifol. Diolch. Mae angen plismona da arnom i ddiogelu ein treftadaeth. Dwi'n bersonol yn ei chael hi'n anodd, o ran amser, yn ddiweddar. Dal ati. Llywelyn2000 07:29, 6 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Dadwneud ailgyfeiriad

golygu

Dw i wedi creu ailgyfeiriad o'r dudalen Wicipedia:Cyflwyniad i Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid ond dw i nawr yn sylweddoli mod i wedi gwneud camgymeriad. Sut dw i'n dadwneud yr ailgyfeiriad er mwyn gallu rhoi cynnwys newydd ar y dudalen Cyflwyniad? Diolch! Rhodri77 10:22, 6 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Clicia ar Wicipedia:Cyflwyniad. Mae'n mynd a ti i Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid, ond o dan y teitl mae llinell "(Ailgyfeiriad oddi wrth Wicipedia:Cyflwyniad)". Os clici di ar "Wicipedia:Cyflwyniad" ar y llinell yma, fe gei fersiwn o "Wicipedia:Cyflwyniad" y gelli ei olygu. Gelli ddileu yr ailgyfeiriad a rhoi cynnwys newydd i mewn. Rhion 10:57, 6 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Aha! Gwych! Diolch ;o) Rhodri77 11:16, 6 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Rwy'n mynd

golygu

Mae'r sylw diweddaraf gan Defnyddiwr:Y wiwer wen, sy'n awr yn defnyddio ei dudalen defnyddiwr i fy ngalw'n hiliol, yn rhoi diwedd arni cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn. Rhion 17:33, 9 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Fel mae'n digwydd dw i'n cytuno gyda thi Rhion. Bu'r stori am Michelle Obama a'r ddelwedd o fwnci ar Google ar nifer o raglenni newyddion ac mewn nifer o bapurau newydd - gweler [1]. Y gwirionedd ydy y dylai unrhyw lun na sydd yn dangos y person sydd yn yr erthygl gael ei ddileu. Gwnest y peth iawn i'w ddileu yn fy marn i.
O ran y cyhuddiad o hiliaeth, dw i'n cytuno mai nod pwy bynnag a uwchlwytho y llun o fwnci ar gyfer Michelle Obama oedd i gymharu pobl dduon i fwnciod sydd yn amlwg yn hiliol. O ran gosod llun o fwnci yn lle George Bush, yr awgrym yn yr achos hynny yw fod George Bush yn diffygiol o ran deallusrwydd ac felly nid yw hynny'n hiliol. Unwaith eto, roeddet yn llygad dy le yn dileu'r hiliaeth o'r wefan.
Anwybydda unrhyw sylwadau personol. Mae angen i ambell ddefnyddiwr eirio'i sylwadau mewn modd mwy sensitif er mwyn osgoi codi gwrychyn defnyddwyr eraill. Gobeithio fod hyn o gymorth. Rhodri77 18:35, 9 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]


Plis na! -- *Fi* rwy'n mynd yn hytrach - *chi* dewch yn ôl!

golygu

Mae'n ddrwg iawn gen i fy mod i wedi gwneud i Rhion fynd allan.

Mae'n amlwg mae un o'ch prif gyfranwyr oedd o.

Wna i fynd fy hun. Cewch ddileu fy nghyfrif os ydych isio. Yn fwy bwysig, dwedwch i Rhion y caiff ddwad yn ôl os gwelwch yn dda.

Y wiwer wen 12:35, 12 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Wikimedia

golygu

Mae hysbyseb cymbraeg yma yn anfon at tudalen ffranceg Wikimedia sy'n casglu arian. Fel Llydawr rhwy'n falch iawn i helpu iaith y Ffrancod ac y frawdoliaeth. Bianchi-Bihan 17:05, 14 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]


Help technegol! (Plis!!)

golygu

Dw i eisiau gosod tabs gwahanol ar ben y blwch yn y tiwtorial dw i wedi cyfieithu, (fel ar yr un Saesneg - h.y. fel hyn [2]) os 'does gen i ddim syniad sut i'w wneud. A oes unrhyw awgrymiadau gan unrhywun?

Hefyd, (tra mod i wrthi...) dw i wedi bod yn edrych ar rhai tudalennau defnyddwyr ar y Wici Saesneg ac mae gan y rhan fwyaf ohonyn nhw flychau gwybodaeth bach difyr e.e. yn yr adran "About Me" ar dudalen [3]. Dw i wedi bod yn ceisio arbofi gyda chreu'r un peth, ond heb gael dim lwc. Unrhyw geniuses technolegol mas 'na fyddai'n gallu fy helpu?

Diolch! Rhodri77 18:48, 14 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Wyt ti wedi edrych ar http://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Tutorial/TabsHeader a http://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Tutorial/Header eto? Xxglennxx 22:37, 14 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Bellach i'm post cyntaf - dwi newydd greu "Blwch defnyddiwr" yma: http://cy.wikipedia.org/wiki/Nodyn:Blwch_defnyddiwr Rhowch gynnig arno er mwyn ceisio gwneud bocs dy hunan :) Xxglennxx 22:46, 14 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am dy gymorth. Darllenais i'r hyn gafodd ei ddweud yn y canllawiau Saesneg ond ond dw i dal ddim yn siwr sut i'w wneud... (sori ond mae anghenion dwys gyda fi pan mae'n dod i bethau technegol!). Fe dria i arbrofi er mwyn cael gweld os gaf i unrhyw lwyddiant! Rhodri77 17:47, 15 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Cyfieithu negeseuon ychwanegol ymgyrch codi arian 2009

golygu

Mae drafft o gyfieithiadau negeseuon ychwanegol ymgyrch codi arian 2009 yn barod i'w adolygu gan rywun sy'n fodlon mynd ati. Wedi gwneud unrhyw gywiriadau angenrheidiol all rhywun newid statws y cyfieithiad o 'proofreading' i 'ready' iddynt gael eu rhoi ar waith (trwy bwyso ar y cyswllt +/- ar ben y blwch ar y dde). Diolch. Lloffiwr 22:51, 14 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Codi arian? pwy sy'n codi? Americaniaid neu Ffrancod? Bianchi-Bihan 12:42, 15 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Bianchi-Bihan - dwi'n deall dy rwystredigaeth. Carreg allwedd y we ar y cychwyn oedd ei fod yn rhydd o arian a chyfalafiaeth. Rhanu gwybodaeth AM DDIM oedd ei raison d'etre. Mae'n gas gen innau weld yr hysbysebion hyn ar Wici, ond beth ydy'r opsiwn arall? Sut fedrir ei gynnal heb arian? Does gen i ddim atebion, dim ond ffydd y byddwn rywdro'n rhydd o gadwynau cyfalafiaeth. Llywelyn2000 10:00, 16 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Dwy broblem: 1 gan arian neu heb arian; 2 os gan arian, rhoi arian i'r Gymraeg yn lle rhoi'r i'r saesneg neu'r ffrangeg. Bianchi-Bihan 13:13, 16 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Cwestiwn

golygu

Gweler Sgwrs:Gabrielle d'Estrées ac chwaer. Deb 22:22, 15 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Dw i wedi cywiro'r ddwy erthygl. Llywelyn2000 09:39, 16 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch! Deb 14:56, 16 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Un arall

golygu
Nymff yn ôl fy ngeiriadur i, a nymffod neu nymffau yn lluosog. Thaf 12:27, 16 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Pa eiriadur? Rwy eisio prynu un newydd. Bianchi-Bihan 13:14, 16 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Wel, dwi'n dweud fy ngeiriadur i, geiriadur y BBC yw e i ddweud y gwir, mae'r un mor gyflawn a'r hen lympiau mawr o bapur rydyn ni'n talu amdanyn nhw, os nad gwell!! Dyma'r ddolen Thaf 13:29, 16 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Anrheg hyfryd. Bianchi-Bihan 13:47, 16 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Categorïau ysgolion

golygu

A oes angen creu Categori:Ysgolion Cymraeg yng Nghymru fel is-gategori i Categori:Ysgolion Cymraeg? Bydd hyn yn galluogi i ni ddilyn yr un patrwm gyda Categori:Ysgolion Cymraeg yn Lloegr (er mai dim ond un sydd!), Categori:Ysgolion Cymraeg yn yr Ariannin, Categori:Ysgolion Saesneg yng Nghymru, Categori:Ysgolion Saesneg yn Lloegr ayb. Thaf 13:21, 17 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Hope you don't mind a reply in English. Unless it is important to fix this now, there is something to be said for waiting and seeing what happens to the proposal at en:Wikipedia:Category intersection, as any developments on this front may have a big impact on how best to deal with this kind of issue. Luke 15:24, 17 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Thanks for pointing out that one - but I don't think it would really make much difference as it would seem that any new conventions for categorizations could be implemented using a bot. Essentially it doesn't change the category hierarchies, simply the way they're scripted and can be searched. Thaf 16:48, 17 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Categorïau llenorion

golygu

Beth am rhoi pobol y Categori:Llenorion Cymraeg yn categorïau fel Categori:Llenorion Cymraeg yr 20fed ganrif ac ati? Fel y fr:Catégorie:Écrivain espagnol du XXIe siècle neu fr:Catégorie:Peintre italien par période. Bianchi-Bihan 08:33, 24 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Syniad da. Dwi wedi meddwl am wneud hynny sawl gwaith yn y gorffennol ond wedi ymatal hyd yn hyn achos fod gennym ni gymaint o erthyglau! Efallai fod cael categorïau fel 'Llenorion Cymreig yr nfed ganrif' yn well am fod gennym ni lenorion Lladin a Saesneg i'w cynnwys hefyd? Wna i greu'r categorïau os ydy rhywun arall yn teimlo fel cyfrannu at y gwaith o'u poblogi, achos mae'n lot o waith. (Basai'r categorïau hyn yn ychwanegol i'r prif gategorïau, fel Categori:Llenorion Cymraeg, wrth gwrs, ac nid i gymryd eu lle...). Anatiomaros 14:58, 24 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

commonscat

golygu

I've undone a couple of edits just now which add the non-existent template Nodyn:Commonscat: [4] [5]. I see there are still a number of other places where that template is included: see [6]

It's not going to be trivial to create this template - it seems to rely on some stuff in en:Template:Commons which is not implemented here in Nodyn:Comin. If anybody can be bothered to create this template, then my reverts above can be reverted. Otherwise I will remove the other links too. There is very little use in red-linked templates around the place. Thanks. Luke 12:01, 24 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Dyna'r broblem gyda rhai o'r nodiadau yma - mae nhw mor gymhleth! Mae'n bosibl creu dolen i gategori ar Gomin fel hyn: {{comin|Category:Whatever|beth bynnag}}. Anatiomaros 15:04, 24 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi ffeindio (efo creu nodynnau) bod cymryd y côd o iaith arall (ac wedyn ei olygu) yn well, oherwydd bod bron fwyaf o'r amser, dwi'n methu gweithio allan beth sydd yn rhaid ei gynnwys ayyb! Xxglennxx 01:40, 25 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Rwy'n meddwl na ddylai pobl defnyddio nodiadau nad yw'n bodoli, heb wneud unrhyw ymgyrch i'w creu, ac wedyn disgwyl i bobl eraill creu'r nodiadau er mwyn tacluso ar eu hôl. Nid yr un peth â dolennau coch at erthyglau ydy hi, lle mae testun y ddolen yn gwneud synnwyr hyd yn oed cyn fodolaeth y dudalen a gysylltir ati. I think it is rude and lazy for people to use non existent templates and expect others to sort out the mess. I think we should feel free to revert such edits if it's easier. Luke 07:45, 25 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Hollol cytuno â thi, Luke. Os yw pobl eisiau nodyn penodol, wedyn mi fydd yn rhaid iddynt fynd ati a chreu'r nodyn dan sylw. Mae hyn yn digwydd efo pethau fel uwchlwytho lluniau - fel arfer, nid yw pobl yn gallu trafferthu eu hunain â dewis yr opsiwn cywir, ac wedyn nad oes dim cynnwys â'r llun (disgrifiad, crëwyd gan ayyb). Dyma pam fy mod i wedi bod wrthi'n creu nodynnau fel y rheiny ar gyfer lluniau ar hyn o bryd. Reit, dwi'n mynd ar dangiad nawr, ha. I ffwrdd â fi! Xxglennxx 21:49, 28 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Glenn. Luke 22:09, 28 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]



Wutsje

golygu

Rwy'n meddwl bod Defnyddiwr:Wutsje yn gwneud gwaith da yn delio â fandaliaeth traws-wiki, trwy dadwneud fandaliaeth a thynnu ein sylw at y fandaliaid. Er nid siaradwr Cymraeg ydy e, rwy'n meddwl y byddai rhoi pwerau gweinyddwyr iddo fe, er mwyn iddo fe allu blocio'r fandaliaid ei hun, yn helpu'r prosiect. Mae e'n weinyddwr ar "meta", felly rwy'n tybio ein bod ni'n gallu ei goelio.

I think that Defnyddiwr:Wutsje is doing good work dealing with cross-wiki vandalism, by undoing vandalism and drawing our attention to the vandals. Although he's not a Welsh speaker, I think that giving him admin powers, so that he can block the vandals himself, would help the project. He's an admin on "meta", so I suppose we can trust him.

Diolch. Luke 21:33, 28 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Rhyfedd o beth, Luke, roeddwn i'n meddwl ar hyd yr un llinellau ychydig o ddyddiau nôl. Mae Wutsje wedi bod yn gaffaeliad mawr yma ers rhai blynyddoedd rwan a does gen i ddim amheuaeth y medrem ni ymddiried ynddo fo. Does dim problem yn ystod y dydd a gyda'r nos fel rheol, ond weithiau mae fandaliaeth reit gas yn digwydd yn oriau mân y bore a neb yma i flocio'r fandaliaid. Dim gwrthwynebiad o gwbl i Wutsje ddod yn weinyddwr yma, felly, er ei fod yn gam anarferfol braidd. Ond aroswn i gael barn pobl eraill: does dim brys. Anatiomaros 22:46, 28 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Oes barnau gyda phobl eraill os gwelwch yn dda? Mae e'n dal i wneud gwaith da yn erbyn y fandal Disney, sy' yn nawr yn gwneud ei hun yn fwy o boen yn y tin nag erioed. Gwelwch fy sylw ar dudalen sgwrs Anatiomaros. Diolch. Luke 05:39, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Dim gwrthwynebiad. Mae Wutsje yn amlwg yn gwneud gwaith da. Rhion 07:10, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno 100%. Bydd Wutsje yn gaffaeliad mawr i'r prosiect. Rhodri77 09:24, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n cefnogi hyn hefyd, wrth gwrs. Ga'i dynnu sylw pawb at y drafodaeth (fer!) am statws gweinyddwyr ar y negesfwrdd gweinyddiaeth? Dwi'n eithaf parod i groesawu Wutsje ond credaf hefyd ei bod yn bryd i ni dynnu statws gweinyddwr yn achos dau sydd heb gyfrannu o gwbl ers 5-4 mlynedd (ac un sydd wedi gadael am byth!). Anatiomaros 17:26, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Efallai mai'r peth gorau i'w wneud ar hyn yw agor trafodaeth newydd ar statws gweinyddwr yma yn y Caffi. Gweler isod. Rhion 17:33, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Gyda tri ohonom yn cefnogi a neb yn gwrthwynebu dwi'n meddwl ein bod ar dir diogel i ddeud bod yr enwebiad yn cael ei dderbyn. Dw i am roi pwerau gweinyddwr i Wutsje fory felly (neu ceiff Rhion wneud). Anatiomaros 22:11, 19 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Mae Wutsje yn weinyddwr rwan. Anatiomaros 17:31, 20 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Blwyddyn newydd dda

golygu

Dymuniadau gorau i bawb yma am flwyddyn newydd dda, a phob llwyddiant yn 2010. A boed i frwdfrydedd pob golygwr lifo trwy ein bysellfyrddau flwyddyn nesaf :) Luke 18:34, 31 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Yr un iti, Luke. Dymunaf i ti (ac i chi i gyd) bob lwc yn y flwyddyn newydd - bydded i'ch breuddwydion gyflawni :) Xxglennxx 19:44, 1 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Ia wir, Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Anatiomaros 20:28, 1 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Archifo?

golygu

Shwmae, bawb?! Fyddai'n fuddiol inni archifo rhai edafedd ar y dudalen hon (Tudalen Hafan, Hafan newydd, Hafan newydd (unwaith eto!), Cymharu'r Wicipedia, er enghraifft?), er mwyn mordwyo ayyb? Dwi'n meddwl hefyd dylai edafedd fel "Creu gwybodlen yn hawdd :D" a "Terfyn TOC" gael eu gosod yn rhywle pwysig, ond efo cyfeirnod atynt, felly gall pobl ddod o'u hyd yn hawdd. Jyst syniad yw hwn :) Xxglennxx 19:50, 1 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Dwi wedi archifio dros hanner y cynnwys (Wicipedia:Y Caffi/archif/12). Gobeithio fod hynny'n welliant. Roedd yn hen bryd ei wneud ond mae'n cymryd amser a dyna pam roeddwn i wedi gadael y gwaith cyhyd! Dwi wedi gadael y ddwy adran rwyt ti'n cyfeirio atynt am rwan - methu meddwl lle i'w rhoi nhw. Anatiomaros 20:27, 1 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, Anatiomaros. Jyst syniad bach eto - a fyddai'n dda peten ni roi blwch archif fel sydd gennyt ar dy dudalen sgwrs? Mae'n edrych yn neis ac yn well na jyst geiriau yn fy marn i. Os yw'n ormod o ffws iti, paid poeni. Xxglennxx 21:00, 1 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Wedi'i wneud. Luke 13:57, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

tynnu sylw gweinyddwyr

golygu

Helo,

Ga i ofyn dau beth plis?

Y peth cyntaf - yn benodol - rwy wedi gwneud dau gais sy wedi mynd heb eu sylw, ar Sgwrs MediaWici:Wikimedia-copyrightwarning a Sgwrs MediaWici:Editingold. Allai rhywun ymateb iddynt os gwelwch yn dda?

Yr ail beth - yn fwy cyffredinol - rwy'n awgrymu i ni greu tudalen, ar wahân i'r caffi, er mwyn trafodaeth gyda gweinyddwyr, fel yr "Administrators' Noticeboard" yn y seit Saesneg. Fel di-weinyddwr fy hun, fy niddordeb ynddi yw cael lle i dynnu sylw gweinyddwyr at rywbeth pan fo'r angen - ond rwy'n gobeithio y byddai hi'n ddefnyddiol i'r gweinyddwyr hefyd ar gyfer trafodaeth mewnol am faterion o ddiddordeb i weinyddwyr yn benodol (e.e. fandaliaeth), tra gadael y caffi ar gyfer materion o ddiddordeb cyffredinol. Pe fyddai'r cyfryw dudalen yn bodoli, fyddai'r gweinyddwyr yn ei darllen a'i rhoi yn eu rhestri gwylio?

Diolch. Luke 10:57, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Rwy'n meddwl y byddai'n syniad da. Rwyf wedi gwneud Sgwrs MediaWici:Wikimedia-copyrightwarning. Rhion 14:11, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno ei fod yn syniad da. Anatiomaros 16:06, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Crëaf i hi. Luke 19:45, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Gwaith ardderchog, a chyflym hefyd. Diolch i ti. Wyt ti eisiau i mi lunio neges am hyn a'i bostio i bob gweinyddwr neu wyt ti eisiau gwneud hynny dy hun, gan mai ti sydd wedi gwneud y gwaith? Efallai basa nodyn byr ar ben y dudalen hon yn syniad da hefyd, gyda dolen i'r Negesfwrdd? Anatiomaros 21:22, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Rwy eisoes wedi ychwanegu nodyn byr uchod, ond os ydych chi am lunio neges i'r gweinyddwyr (yn gofyn iddynt roi'r dudalen ar eu rhestri gwylio), byddwn i'n gwerthfawrogi hynny - diolch. Luke 21:26, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
  Cwblhawyd
Anatiomaros 22:04, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
O.N. (sut dweud "I took the liberty") o'i alw'n y negesfwrdd "gweinyddiaeth" yn hytrach na negesfwrdd "y gweinyddwyr" - rwy'n gobeithio bod hynny'n dderbyniol. Y pwynt yw nad yw postio yna wedi'i gyfyngu i'r gweinyddwyr! Luke 21:37, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Translatewiki.net update

golygu
  • Currently 98.44% of the MediaWiki messages and 31.50% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at translatewiki.net. This is the recent localisation activity for your language. Thanks,

Chwilio a chael dim byd!

golygu

Be sy'n bod ar y blwch Chwilio? Yn lle dangos cyfeiriadau mewn erthyglau, fel yr oedd yn wneud cyn rwan, y cwbl gewch chi ydy rhywbeth fel hyn - 'Mae tudalen o'r enw "Llywelyn Fawr" ar y wici hwn' neu hyn - 'Creu'r dudalen Salem ar y wici hwn'. Mae'r blwch chwilio ar 'en' yn dal i weithio 'run fath ag arfer. Mae medru fffeindio cyfeiriadau yn hanfodol am sawl reswm, waeth os ydy erthygl yn bod neu ddim. Be sy'n digwydd, felly? Gobeithio mae nam dros dro ydy o achos mae'n rhwystrigedig iawn! Ydy pawb arall yn cael yr un canlyniad? Anatiomaros 20:50, 10 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Rwy'n cael yr un peth. Mae "Chwilio" yn ddefnyddiol iawn, ac fe fyddai'n biti mawr ei golli. Ond efallai y bydd yn gweithio fory! Rhion 20:57, 10 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Fi hefyd.... mae'r chwiliad gan "google" yn gweithio o hyd, felly o leiaf dydy'r erthyglau ynglŷn â Llywelyn Fawr ddim wedi diflannu yn gyfan gwbl! Rwy'n cytuno â Rhion, y peth gorau yw disgwyl i weld os fydd yn gweithio yfory. Luke 21:12, 10 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Rhyfedd iawn. Fel rydych chi'n ddeud, gobeithio bydd o'n gweithio fory. Os nad ydy o, bydd rhaid ceisio cymorth gan rywun o'r "Fam-long" efallai, achos mae'n boen fel hyn! Anatiomaros 21:19, 10 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n gweithio'n iawn y bore yma. Rhion 07:07, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Ydy, dim probs. Ysgol Rhiwabon 11:41, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Sut mae newid enw categori?

golygu

Dwi am newid rhai enwau o gategorïau sydd yn ymwneud â dewiniaeth, hud, yr ocwlt ac ati, ond dwi'n methu. Ai dim ond gweinyddwyr sydd â'r gallu i'w wneud, felly? Xxglennxx 23:12, 11 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Dw i ddim yn meddwl gall gweinyddwyr ail-enwi categori hyd yn oed, dim ond ei ddileu. Baswn i'n awgrymu creu categoriau newydd, a gadael neges ar negesfwrdd gweinyddwir i ddweud pa rai sydd ddim yn cael eu defnyddio bellach.--Ben Bore 10:06, 12 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am dy awgrymiadau, Ben :) Xxglennxx 16:39, 12 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Rhaid i chi olygu pob erthygl a gynhwysir yn yr hen gategori, er mwyn eu rhoi yn y categori newydd yn ei le. Oes llawer o erthyglau i'w newid? Mae gen i syniad bod modd i ofyn am help bot rhywle (ar meta efallai). Luke 21:17, 12 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Ia, a byddwch yn ofalus wrth greu categoriau newydd - mae'n well treulio pum munud yn ystyried beth i'w alw a lle mae'n mynd i ffitio na gorfod dadwneud llwyth o olygiadau yn nes ymlaen.
ON Dwn i ddim am y bot, ond basai'n braf cael un i ni ein hunain ar gyfer gwaith gweinyddol.
OON Glenn: dwi wedi nodi sawl pwynt am eginau a chategorïau egin yn fy ateb i ti ar fy nhudalen Sgwrs.
OOON(?!) Gan fod cymaint o nodiadau newydd yn cael eu creu yn ddiweddar, efallai ei fod yn syniad cael rhestr ohonynt rhywle - ar y Negesfwrdd newydd efallai? - achos dwi'n dechrau colli trac o be 'di be! Anatiomaros 22:07, 12 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Luke - nag oes, does dim lot a dweud y gwir. Wrth imi ddod o hyd i gategori/gategorïau ni ddefnyddir bellach, dwi'n clicio "Beth sy'n cysylltu yma?" (ar ochr chwith y sgrîn), ac wedyn jyst dileu'r categori o'r erthyglau. Dwi hefyd yn cytuno am gael bot, efallai. Dwi wedi bod yn ystyried ceisio creu un a dweud y gwir, ond mae'n lot o waith ar hyn o bryd. Anatiomaros, am y nodiadau fy mod i wedi creu'n ddiweddar, dwi wedi nodio bob un ohonynt ar fy nhudalen defnyddiwr i (felly dwi'n gallu dod o'u hyd yn iawn!), ac dwi wedi cynnwys y categori "Nodiadau" efo nhw hefyd, felly dylen nhw fod yn y categori Categori:Nodiadau dwi'n meddwl *mynd ac edrych* Hmmm, dydyn nhw ddim yno, ond dwi ddim yn gwybod pam :| Xxglennxx 10:05, 13 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Cyflwyniad am y Wicipedia yn nigwyddiad 'Hacio'r Iaith' 30.1.10

golygu

Dw i'n cyd drefnu digwyddiad reit cyffrous o'r enw Hacio'r Iaith yn Aberystwyth ar y 30ain o Ionawr. Mae'r diwrnod yn mynd i ddilyn trefn BarCamp yn y bore a Hack Day yn y prynhawn. Mewn BarCamp, mae disgwyl i'r mynychwyr i gyd gyfrannu mewn un ffordd neu'r llall.

Eich help chi

golygu

Mae dros 30 o geeks Cymraeg am fod yno, o dw i'n gobeithio bydd slot gyda fi i roi sgwrs bach ar y Wicipedia, ac yn bwysicach fyth ceisio denu cyfranwyr. Bydd pawb yno yn sicr o fod yn gwybod beth yw Wicipedia, felly rhaid i'r cyflwyniad fod yn diddorol a dw i angen teitl da i'r sgwrs achos bydda i'n cystadlu gyda siaradwyr eraill am gynulleidfa. Mae cynllun bras o beth dw i am s 390on amdano ar fy nhudalen defnyddiwr - croseo i unrhyw un ychwanegu ato. Hefyd, os hoffai rhwyun arall ymuno â mi i'w cyd gyflwyno, croeso i chi wneud.--Ben Bore 22:03, 19 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Mae hyn yn swnio fel cyfle gwych i hyrwyddo'r Wici, Ben. Dwi wedi cael cipolwg ar dy gyflwyniad/sgwrs ac mae'n edrych yn iawn i mi. Cofia bwysleisio fod 'gwir angen cyfranwyr'!  :-) Anatiomaros 16:17, 20 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Grŵp Facebook

golygu

Rwy newydd ymuno â Facebook ac wedi creu grŵp "Wicipedia Cymraeg". I ddweud y gwir, dwi ddim yn gwybod pa mor ddefnyddiol fydd e, fe greais i fe heb feddwl yn llawer am ei bwrpas... ond mae e'n bodoli nawr, ac rwy'n gobeithio y bydd e'n atynnu pobl at a prosiect, ond os na chaiff ei ddefnyddio fydd dim wedi cael ei golli.

Rwy'n gobeithio fy mod i wedi gwneud y dewisiadau yn addas - does dim profiad blaenorol mewn Facebook gyda fi. Mae'n ymddangos i mi bod y grŵp yn "gyhoeddus" fel y dylai bod, ond os ydych chi'n dod ar draws gwallau caniatâd wrth ceisio ei defnyddio gadwech i mi wybod. Luke 19:14, 24 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Diolch Luke. Oeddet ti'n gwybod fod Grŵp 'Siaradwyr Cymraeg' (neu rywbeth tebyg) ar Facebook? Efallai basai'n syniad da i roi neges yno i hyrwyddo diddordeb? Duw a ŵyr rydym ni angen cyfranwyr sy'n hyderus yn y Gymraeg yma, fel mae rhai o'r "cyfraniadau" bratiaith/peiriant-cyfieithu diweddar yn dangos, gwaetha'r modd! Anatiomaros 20:05, 24 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Sori wnes i ddim sylw eich neges uchod ar y pryd, dyma ymateb hwyr felly i'ch diolch chi yn fawr am hynny. Luke 06:50, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]


A Basque Portal On Wales

golygu

Hi from the Basque Wikipedia! First, sorry for to write in my bad english but I don´t speak cymraeg. Since I was in Cymru in 2006 I want to do a Basque Portal On Wales in the Basque Wikipedia and it has this welcome title in basque and english: "Ongietorri Galesi buruzko Euskal Atarira - Welcome to the Basque Portal On Wales", could you anyone translate that sentence in cymraeg? Thanks from the Basque Country, and keep suporting your language. Defnyddiwr:Euskalduna 13:37, 28 Ionawr 2010 (UTC)

I'd suggest "Croeso i'r Porth Basgeg ar Gymru". Rhion 13:43, 28 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Thanks, Rhion. I´ll use your translation, by the way, if you want to take a look and give me your opinions or suggestions this is the article in basque language in the Basque Wikipedia of Cymru that I'm developing for the last two weeks, and this is The Basque Portal On Cymru/Wales I just started today. Greetings from the Gwlad y Basg. Euskalduna 13:43, 28 Ionawr 2010 (UTC)

Miloedd o ddelweddau ar gael

golygu

Mae pethau cyffrous iawn yn digwydd ar Gomin. Ar hyn o bryd mae GeographBot wrthi yn llwytho 1.5 MILIWN o luniau o wefan Geograph. Gellid amcangyfrifo bod hynny'n golygu hyd at gan mil neu ragor o luniau o Gymru! Dim ond megis dechrau mae'r gwaith ond mae'r categorïau yno yn barod, hyd yn oed i'r pentrefi lleiaf, e.e. Categori:Bryngwran. Dwi wedi creu tair erthygl heno ar ôl cael fy ysbrydoli gan rhai o'r delweddau a dydwi mond wedi edrych trwy ran o gategori Ynys Môn. Gormod o waith i un person, mae'n amlwg! Os ydy rhywun arall yn teimlo fel chwilio trwy'r categoriau bob hyn a hyn dros y wythnosau nesaf basai'n wych: dyma gyfle i gael llun yn y mwyafrif o'n herthyglau am Gymru. Mae'n wirioneddol anhygoel. Dyma gyfle i weddnewid Wicipedia. Anatiomaros 21:59, 31 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Pichilemu

golygu

Por favor traduzcan simple:Pichilemu, es:Pichilemu o en:Pichilemu. Al menos un esbozo.

Please translate simple:Pichilemu, es:Pichilemu or en:Pichilemu. At least an stub. --MisterWiki 16:52, 2 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Pennawd: Ysgol Uwchradd yr Eglwys Wen (sic.)

golygu

Yr Eglwys Newydd yw'r enw Cymraeg ar Whitchurch. Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yw Whitchurch High yn y Gymraeg. Rwy wedi cywiro prif destun y postiad ond methu fynd mewn i cywiro'r teitl. Sut mae gwneud hyn? (neu, gall rhywun arall ei wneud).

Stefanik

Uwchlaw pob dudalen mae botwm "symud" er mwyn newid y teitl. Newidaf i fe fy hun y tro hwn. Luke 20:55, 7 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

niwtralaeth

golygu

Dros yr amser rwy wedi cyfrannu yma, rwy wedi dod ar draws nifer o ddisgrifiadau o leoedd a golygfeydd fel "hardd", "gogidog" ayyb, o lyfrau ayyb fel "diddorol". Felly dyma gais bach i bobl i fod yn ofalus am bethau tebyg, achos ei bod yn erbyn y rheolau am niwtralaeth (ac eithrio wrth priodoli'r barn at ryw ffynhonnell). Diolch. Luke 08:24, 15 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Tynnu statws gweinyddwr

golygu

Mae gennym 21 o weinyddwyr ar hyn o bryd, 22 yn fuan i bob golwg: nifer anarferol o fawr i Wici bach. Fodd bynnag, nid yw rhai ohonynt wedi cyfrannu ers blynyddoedd, ac mae un wedi datgan ei fod yn gadael yn barhaol. Mae modd rhoi cais am gael tynnu statws gweinyddwr oddi ar ddefnyddiwr os gellir dangos fod y mater wedi ei drafod a bod cytundeb yma.

Rwy'n cynnig ein bod yn rhoi cais am dynnu statws Gweinyddwr oddi ar y canlynol:

Wnewch chi nodi Cytuno neu Anghytuno os gwelwch yn dda? Wrth gwrs, pe bai unrhyw un o'r rhain yn dychwelyd, gellid rhoi statws Gweinyddwr yn ôl iddynt. Rhion 17:40, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno gant y cant. Dylem gael rhyw lun ar bolisi hefyd, fel y wicis eraill (gweler awgrym Rhion ar y negesfwrdd gweinyddiaeth). Anatiomaros 17:44, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Beth am gael y polisi canlynol?
  • Gellir rhoi neu dynnu galluoedd gweinyddwyr yn dilyn consensws y gymuned. Gall y drafodaeth ddigwydd ar unrhyw dudalen, ond mae rhaid gwneud dolen ati oddi ar y Caffi a thudalen sgwrs y defnyddiwr.
  • Gellir hefyd tynnu galluoedd yn awtomatig (heb drafodaeth) os nad yw defnyddiwr wedi gwneud unrhyw gyfraniad yn ystod cyfnod o flwyddyn gyfan.
  • Os nad yw'r drafodaeth am roi neu dynnu galluoedd yn cyrraedd consensws, dim newid fydd y canlyniad, gydag un eithriad: yn achos cais i adfer galluoedd a dynnwyd oherwydd anweithgarwch yn unig (ai yn awtomatig, ai yn dilyn consensws oedd yn dibynnu ar anweithgarwch yn unig, nid ar gamddefnydd), llwyddai'r cais oni bai bod consensws yn ei erbyn.
Sylwch na fyddai'r polisi yn ceisio diffinio popeth. Er enghraifft, fyddai e ddim yn pennu faint o amser sydd angen er mwyn cyrraedd consensws (mae hynny'n dibynnu ar y sefyllfa). Sylwch hefyd nad yw'r rheol am dynnu galluoedd yn awtomatig yn ceisio trin yr achos o ddefnyddwyr sy wedi ymddeol. Fel wici bach, rhaid i'n polisïau beidio â fod yn rhy gymhleth. Luke 19:13, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n meddwl fod polisi eglur a syml rhywbeth tebyg i hynny yn gwneud y tro am rwan. Does gennym ni ddim amser nac adnoddau i gael polisïau manwl maith fel a geir ar 'en'. Bydd yn hawdd ei ddiwygio neu ychwanegu ato yn y dyfodol, os rhaid. Anatiomaros 22:15, 19 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
  Cytuno gyda'r awgrym i dynnu statws a gyda'r awgrym polisi uchod. Rhodri77 09:43, 18 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
  Cytuno, rhoi argraff llawer gwell i'r rhai sydd yn ymweld â'r wici os yw'r rhai sydd wedi eu rhestru fel gweinyddwyr yn gwneud cyfraniad. Thaf 22:23, 19 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Sylw: os dderbynir fy awgrymiad am gyfnod o un flwyddyn heb gyfraniadau, byddai hynny'n golygu y byddwn ni'n tynnu galluoedd gweinyddwr oddiwrth Defnyddiwr:Marnanel hefyd. Luke 23:33, 19 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Medrem roi rybudd ar ei dudalen sgwrs. Pur anaml mae'n cyfrannu - 100 o weithiau mewn dwy flynedd 2007-08/9 a'r rhan fwyaf o'r golygiadau hynny yn rhai bychain. Ond mae'n bwynt teg. Beth os ydy rhywun yn troi i fyny un waith mewn blwyddyn - ydy hynny'n mynd i olygu eu bod yn aros yn weinyddwr? Ond mi gawn ni drafod problemau fel hyn yn nes ymlaen. Mae'r egwyddor yn iawn, beth bynnag am y manylion. Anatiomaros 00:18, 20 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
"Beth os ydy rhywun yn troi i fyny un waith mewn blwyddyn - ydy hynny'n mynd i olygu eu bod yn aros yn weinyddwr?" Mae hynny'n mynd i olygu na chollwn nhw'r statws yn awtomatig - maen nhw'n gallu ei golli drwy gonsensws serch hynny. Dyma'r un sefyllfa â'r defnyddiwr sy wedi ymddeol ond llai na blwyddyn yn ôl. Luke 06:31, 20 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi gwneud cais yma am dynnu statws gweinyddwr Defnyddiwr:Alan012 ar y sail ei fod wedi dweud ei hun ei fod yn gadael yn barhaol. Os na fydd gwrthwynebiad, mi rôf y tri arall sydd heb gyfrannu ers rhai blynyddoedd ymlaen mewn diwrnod neu ddau, er y byddai'n dda cael un neu ddwy o bleidleisiau eraill ar y mater. Rhion 09:36, 20 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Comment in English - sorry. Agree about Alan012. Re the other three, it's rather implied by my suggested policy, so those who've agreed above with the policy will by implication also agree with you about these particular users, though they may wish to confirm it explicitly. Luke 16:30, 20 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Ia, yn nhermau ein wici ni dwi'n meddwl fod gennym gonsensws. Dwi'n siwr bod metawici yn deall y sefyllfa ar y wicis llai hefyd; does dim modd i ni gael y fiwrocratiaeth sydd ar y wicis mawr neu fasa gennym ni ddim amser i sgwennu erthyglau! Ond basai'n braf cael nodyn sy'n creu blwch o gwmpas trafodaeth fel hyn, ar ôl y penderfyniad, i ddangos beth oedd canlyniad y drafodaeth a bod y ddadl drosodd (rhaid i mi chwilio am y nodyn ar en rywbryd). Fel mae Rhion yn nodi, basai'n braf cael pleidlais neu ddwy arall, ond dyna fo. Anatiomaros 17:15, 20 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Mae statws gweinyddwr Alan yn awr wedi ei dynnu. Rhion 08:13, 21 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi rhoi cais i mewn i dynnu statws gweinyddwr Defnyddiwr:Okapi (fel yr un sydd heb gyfrannu ers y cyfnod hiraf) i weld beth fydd yr ymateb. Rhion 13:40, 24 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
  Sori am ymateb yn hwyr, ond dw i'n cytuno gyda'r awgrym i dynnu statws a gyda'r awgrym polisi uchod (gan Anatiomaros 19.2.10). Ben Bore 14:33, 24 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Wps, fi oedd yr uchod. Copiais neges Rhodri i gael y symbol bach gwyrdd del!--Ben Bore 14:44, 24 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Mae statws gweinyddwr Okapi yn awr wedi ei dynnu. Rhion 07:30, 25 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
  Gwn ei bod hi'n hwyr glas - yn rhy hwyr, ond dyma fy marn a dwi'n cytuno. Dwi'n meddwl y bydden nhwtha hefyd yn cytuno. Runig reswm na fedraf innau gyfrannu fel y dylwn ydy rheswm/au personol iawn. Does gen i ddim amser; dim amser. Mi fydda i'n ol. Tua Gorffennaf, dwi'n gobeithio. Mi rydach chi'n gwneud gwyrthiau bobl. Daliwch ati a byddaf nol o Afallon, cyn hir, yn y rhengoedd, i ymladd y frwydr dros roi i'r genedl yr hyn sy'n ddyledus iddi. Ymlaen! Llywelyn2000 19:44, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Braf clywed gen ti, Llywelyn. Gobeithio bydd dy amgylchiadau'n gwella'n fuan. Anatiomaros 23:03, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi rhoi Defnyddiwr:Gareth Wyn ymlaen. Rhion 21:26, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Diolch Rhion. Dwi wedi tynnu enwau Okapi ac Alan012 oddi ar y rhestr o weinyddwyr. Anatiomaros 23:03, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Mae statws Gweinyddwr Gareth Wyn yn awr wedi ei dynnu. Rhion 07:49, 28 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi rhoi Defnyddiwr:Tomos ANTIGUA Tomos ymlaen, i orffen y broses am y tro. Rhion 13:54, 1 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Statws gweinyddwr Defnyddiwr:Tomos ANTIGUA Tomos yn awr wedi ei dynnu, sy'n rhoi diwedd ar y broses am y tro, rwy'n meddwl. Diolch i bawb a gyfrannodd. Rhion 13:18, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Cwestiwn

golygu

(copïwyd) Hello, I use the English.

Is thinked, that the page on Esperanto say some bad.

http://eo.wikipedia.org/wiki/Vikipedio:Yngl%C5%B7n_%C3%A2%27r_dudalen_hon

Is possible, that person writed bad in wales tonuge, no body understanded, no body cans is certain.

What it mean?

Thank you. (Imre)

Imre, the page is an explanation in Welsh language. Similar pages are on Esperanto Vikipedio for other languages, e.g. this one. As far as I can see the Welsh is correct. Anatiomaros 21:40, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Yes. I know alraedy, that it is an explain. My question is, does the explain is good? Is fear, that person writed bad about Zamenhof. He used Welsh tongue for write bad, because no body cans to understand. Before he writed thing about monkey.

I see your changes! Thank you. You make away half of sentence, "ac am ryw â chi'r awdur". What it mean?

Google Translate say "and for some to have the author". I not understand. [7]

Please say do it is bad, I wish to know, is it intention bad, or is it only error. Make difference, does I will seek of administrator to barrier away the user does not. Thank you.

I couldn't understand it either, that's why I deleted it. It doesn't affect the information on the page. Probably just a mistake or the result of vandalism? (PS 'r[h]yw' can also mean "sex!") Anatiomaros 22:05, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Just seen your reply above, Imre. In that case I do think it was vandalism (in very bad Welsh!). Anatiomaros 22:07, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

We have "Cyd-ddigwyddiad golygu". I writed "Good, thank you. I think, that it is not a sufficient why for seek barrier away. But the user have to attention, before not long we will start to suspect a bad intention......" Now I seed your two answer, I ask me, perhaps we should to barrier him. But I am not administrator, not my decide.

I reported the suspect now at the discuss page. Good bye and thank you. Imre 22:35, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
I think I know what it means. In case anyone from eo.wiki is still reading this, here's a translation of the whole sentence with that phrase highlighted:
This part of Wikipedia (Vikipedio) is in Esperanto, a language invented by L. L. Zamenhof who published the book "Lingvo Internacia" in 1887, about the grammar of the international language, and about sex with the author's dog.
It is clearly no coincidence that Google Translate has no clue about it. Google Translate is normally bad, but not that bad. This is sneaky vandalism which makes deliberate use of homonyms to try to evade detection by confusing the translator as much as possible.
Incidentally, Anatiomaros, I'm surprised you didn't think of that particular meaning, particularly as Welsh has so many words for these things - after all, it's what the English have been telling us for years, so it must be true. Luke 23:50, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
It looks blatantly obvious now, but it was a one minute edit on 'eo' in the middle of writing an article, as were the rest of my half a dozen or so hurried contributions both here and on Imre's talk page (jumping back and forth, and not a dafad in sight...). Rwan dwi'n mynd i guddio yn y gornel! Anatiomaros 00:12, 18 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Call for proposals for Wikimedia UK initiatives

golygu

Hi all. My apologies for posting this in English.

The Wikimedia UK board has been putting together a budget for the next year (You can see this, and help with its development, here) and we have some money left over. We are looking for proposals for projects/iniatives with budget requirements in the range of £100-£3000 (GBP). These projects can be either online or offline, but they should be primarily focused on the UK and they must further the objects of Wikimedia UK (broadly, to collate/develop/spread freely licensed material).

The deadline for proposals is the end of this month (i.e. 0:00 UTC on 1 March 2010). You can find more details of the requirements, and how to submit proposals, on our blog. Thanks. Mike Peel 23:37, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Thanks Mike.
Unrhyw syniadau am hyn? Meddwl oeddwn i am y posiblrwydd o gael cyfres o hysbysebion yn y papurau bro neu Golwg. Neu ar y we, hyd yn oed. Ond ar ôl chwilio ar wefan Golwg360 mae rhywun yn cael yr argraff bod nhw ddim eisiau hysbysebwyr! 'Run peth gyda'r papurau bro; i gael mynediad i wefan Cymdeithas y Papurau Bro mae'n rhaid bod yn aelod a logio i mewn! Hurt, a deud y lleia: ydyn' nhw trio cuddio o olwg y cyhoedd neu be? Cyfryngau Cymru! Anatiomaros 00:20, 18 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Wikimedia edit counter, 1 Billion milestone

golygu

Hi. Please, can you help me translating this tool into Cymraeg? (Follow the "Translate it!" link). Thanks. Emijrp 21:30, 18 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

  Cwblhawyd
Rhodri77 08:55, 19 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Neges ganolog arall ar y gweill

golygu

Bydd neges ganolog newydd yn ymddangos cyn hir am y Tasglu Strategaeth. Rwyf wedi cynnig drafft o gyfieithiad o'r neges ar meta. Byddwn yn falch petai rhywun yn gallu bwrw golwg dros hwn a newid statws y neges i 'ready', os ydy'r cyfieithiad yn plesio. Lloffiwr 11:03, 23 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych yn dda i mi (neu efallai gyda "strategaeth Wikimedia" yn lle "strategaeth ar gyfer Wikimedia"). Ond dim ond dysgwr ydw i (baswn i wedi dyfalu "argymelliadau", ond dydy ymchwiliad gwe ddim yn cytuno â fi).
Rwy'n gweld does dim cyfieithiad Cymraeg o'r argymhellion eu hunain, ond dydyn nhw ddim yn edrych yn ddigon diddorol i haeddu'r amser i'w cyfieithu nhw... Luke 12:05, 23 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am edrych ar y drafft, Luke. Ynglŷn â'r argymhellion eu hunain, rwyn cytuno bod lot o bethau llai diflas (a phwysicach) i'w gwneud, ond gan eich bod codi'r pwnc, dyma'r cyswllt at y dudalen waith ar gyfer y cyfieithiad hwn, rhag ofn bod gan rywun arall ddiddordeb mewn bwrw ati. Mae'n dal i fod angen i rywun heblaw fi i fentro newid statws y cyfieithiad i 'ready'. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd â'r ffurf lluosog 'argymelliadau' hyd nes i chi sôn amdano - dyna rhywbeth arall newydd rwyf wedi ei ddysgu heddiw. Fy nheimlad am eich pwynt cyntaf yw hyn; mae 'Strategaeth Wikimedia' yn taro'n iawn fel enw priod ond fel arall, mae'n well gen i 'strategaeth ar gyfer Wikimedia'. Ond mater o steil yn hytrach na chywirdeb - oes gan rywun farn bendant arno? Lloffiwr 21:03, 24 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Buaswn i'n dweud fod y cyfieithiad yn barod. Argymhellion fydden i'n dweud yn naturiol hefyd. Es i draw i Meta gyda'r bwriad o newid statws y neges i 'ready' ond do'n i ddim yn siwr sut i wneud hynny. Ife trwy glicio ar y cy/Cymraeg ger y sgwâr oren ac yna teipio 'ready' yn y blwch gwag o dan y pennawd Cymraeg sydd angen i mi wneud? Do'n i ddim eisiau gwneud rhywbeth yn anghywir (achos mae Meta yn codi ofn arna i!!) Rhodri77 20:51, 25 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Y ffordd i newid y statws yw hyn; cliciwch tab golygu'r dudalen, a symud at yr adran cy. Yn llinell gyntaf yr adran, sef '{{cn translation status|cy|proofreading}}', gallwch osod 'ready' yn lle 'proofreading'. Yna gallwch rhoi'r dudalen ar gadw, gyda rhywbeth tebyg i 'cy status changed to ready' yn y blwch crynodeb. Diolch. Lloffiwr 10:40, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
  Cwblhawyd
Diolch! Rhodri77 15:25, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Sgwrs:Mŵn

golygu

Dim ond nodyn i dynnu sylw at Sgwrs:Mŵn, angen mwy o fewnbwn fan hyn dwi'n credu. Thaf 15:57, 23 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Cyfeirio

golygu

Gwall cyfeirio: Mae tagiau "ref" yn bresennol, ond dim tag "references/"

Beth ydi hwnna?
Mae angen creu adran ==Cyfeiriadau== ar waelod y dalen a rhoi'r sgript yma i mewn {{cyfeiriadau}} (neu <references/>) odano. (ON cofia llofnodi dy sylw trwy ychwanegu pedwar tild fel hyn ~~~~). Anatiomaros 17:18, 27 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Hwyl fawr

golygu

Helo bawb. Dwi jyst isio dweud fy mod i wedi cael llawer o hwyl gan gyfrannu efo chi i gyd, ond bant â fi. Dwi wedi cael digon o Sanddef, ac dwi ddim yn ei haeddu yn fy marn i. Wrth gwrs, os wyt ti isio cael cysylltu â fi, wedyn mae croeso iti anfon e-bost gan glicio ar fy mhroffil a gwneud o fa'na, ond ni fydda i bellach yn cyfrannu neu helpu o hyn ymlaen. Pob lwc â'r Wici 'ma - mae'n wir ddrwg iawn gen i mai hon yw'r unig ffordd. Hwyl i chi. Xxglennxx 22:25, 27 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Varlaam

golygu

For those who do not hang around the drama spots on enWP: [8], [9]. I have reverted the edit to en:Hedd Wyn (film). JzG 16:51, 1 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Thanks, JzG. I had a feeling this person's "mission" was not confined to here. Anatiomaros 17:48, 1 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Er ein bod i gyd wedi hen flino ar "jôcs" hiliol y Saeson am y Cymry a defaid, dydwi ddim yn meddwl fod sylwadau aflednais ac ymfflamychol fel yr uchod [dilewyd] yn dderbyniol yma. Anatiomaros 18:17, 2 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno Anatiomaros - a oes hawl gyda ni i ddileu'r sylw? Hefyd, a gaf i wneud sylw cyffredinol, mae angen i ambell ddefnyddiwr fod yn ofalus o ran y ffordd mae'n mynegi ei hun er mwyn osgoi cythruddo defnyddwyr eraill. Mae ambell sylwad wedi cael eu gwneud yn ddiweddar ar dudalennau sgwrs gwahanol ddefnyddwyr wedi cael eu geirio mewn ffordd anffodus i ddweud y lleiaf. Ai dim ond fi sy'n teimlo fel hyn neu a oes unrhyw un arall wedi synhwyro rhyw "vibe" negyddol gydag ambell sylwad sydd wedi cael eu gwneud? Rhodri77 18:38, 2 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Rwy'n cael yr un teimlad. Diolch am dy waith ar Wicipedia:Cwrteisi; bydd yn defnyddiol medru ei dynnu i sylw ambell un. Mae'n debyg y bydd angen Wicipedia:Dim ymosodiadau personol a Wicipedia:Rhagdybiwch ewyllys da hefyd rywbryd. Rhion 19:11, 2 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Roeddwn i'n rhy brysur i sylwi yn fanwl ar ei gyfraniadau, ond ar ôl edrych rwan dwi'n gweld nifer o enghreifftiau o ddefnyddio ymadroddion annerbyniol, yn gyffredinol ac fel sylwadau llai na diplomatig am ddefnyddwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys y golygiad "jôc" hwn i'r erthygl 'Saesneg' (dadwnaeth o'r golygiad yn fuan wedyn, ond nid dyna'r pwynt). Dwi ddim yn siwr os ydy Y ddraig felyn yn gadael neu ddim, ond credaf fod gair o rybudd yn briodol a bod bloc yn anorfod os digwyddith hyn eto. Anatiomaros 19:45, 2 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n dileu fy sylw, ond neb a feddyliodd am ddileu tudalen o bropaganda gwrth-Gymraeg (gwrth-Gymreig hefyd efallai) The Biz cyn i mi ei wneud fy hun. Ble mae'r synnwyr yn hynny?

Wn i ddim wyt ti wedi sylwi, ond mae The Biz wedi cael ei flocio. Rhion 07:06, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Nid dyma'r pwynt. Roedd ei bropaganda i'w weld o hyd. Y ddraig felen 09:05, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]


Boddi dan ormod o wybodaeth

golygu

Mae rhai o'n erthyglau, bellach, yn cynnwys gormod o wybodaeth. Mae'n troi pobl i ffwrdd. Gweler Tywysogaeth Cymru er enghraifft. Beth am fynd ati i grynhoi'e elfennau pwysic mewn paragraff taclus, syml, a rhoi botwm 'Rhagor o Wybodaeth oddi tano i'r bobl hynny sydd eisiau gweld y manylion manylaf? Ysgol Rhiwabon 08:28, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Os teimlwch chi bod angen addasu'r paragraff cyntaf er mwyn ei wneud yn gyflwyniad gwell i'r pwnc, ewch ati. Ond peidiwch â cheisio i guddio'r gweddill tu ôl i ryw fotwm os gwelwch yn dda. Dyn da ydy Sanddef, a greodd yr erthygl, a chanlyniad o lawer o waith iddo oedd hi. Y ddraig felen 09:03, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Anghytunaf â sylw Ysgol Rhiwabon. Dwi'n credu bod erthyglau byr yn troi mwy o bobl i ffwrdd (at y Wicipediau eraill, mawr) nac erthyglau hir. Fel mae'r ddraig felen yn awgrymu, gall defnyddwyr sydd mewn brys neu sy'n dymuno trosolwg byr o'r pwnc darllen y cyflwyniad (ac felly dylem ceisio sicrhau bod cyflwyniadau ar erthyglau hir yn gryno). —Adam (sgwrscyfraniadau) 17:50, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
M. Pwyntiau da. Ond yn y Saesneg mae nhw yn gwneud hyn efo Wici newydd gwahanol i'r pwrpas, sef Simple English. Byddai'r symlhau hwn i'r llygad - heb symlhau dim ar y cynnwys (o ddefnyddio botwm 'dangos' yn gwneud hyn. Ysgol Rhiwabon 13:00, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Petai gyda ni i gyd ddigon o amser (neu'n bwysicacg, mwy o gyfranwyr) dylai pob erthygl fod mor drwyadl a hyn. Yr unig welliant faswn i'n ei gynnig ar y erthygl o dan sylw yw gwneud y cyflwyniad yn fwy cryno. Yn y wici Saesneg, mae'r erthygl cyfatebol gyda chyflwyniad o ryw dri paragraff reit cryno. Efallai gelli'r gwnud hyn gyda'r erthygl yma, dryw ddidoli y ffiethiau llai pwysig (gan gymryd eu bod yn cael eu nodi nes ymlaen, ac os ddim eu symud ynddo). Dw i ddim meddwl dylid cuddio dim cynnwys. Hefyd, beth am geisio ychwnaegu hwn restr yr erthyglau dethol? --Ben Bore 13:47, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

minimum linguistic standard?

golygu

Hi, can I ask a question here? Another user has said in so many words that my edits in Welsh are below the minimum standard which is required for an article newly created by myself to be better than no article at all. Please see the discussion on my talk page. Please can you let me know whether you agree with this. (Feel free to be frank; I won't be offended.) Thanks. Dysgwr 16:44, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

As it happens, I was going to leave a comment on your talk page earlier. I disagree with Y ddraig felen and I would encourage you to continue contributing. I appreciate that some people feel that users should have a decent level of the language, but I'm more inclined to agree with you that it's better to have a newly created article by a Welsh learner than no article at all. After all, the whole concept of Wikipedia is that it's a collaborative project. Everybody can create articles, and then those with higher linguistic abilty in Welsh can adapt, correct and change the article as required. That's just my opinion - I wonder what others think... Rhodri77 18:55, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Thanks. I'll await further responses (here or on my talk page) to see if others agree, but for the meantime I'll continue creating articles. I will, however, try to be conservative with the edits I make to articles which appear to be already well developed. Dysgwr 19:26, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Oh good. Then I'll join in the fun too. Y ddraig felen 20:02, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Made some new articles. Hope you like them. Y ddraig felen 20:18, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

I like them so much I'm rewarding you with a 24 hour block. Rhion 20:29, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Rhion was very lenient. This sort of behaviour is beyond a joke. And just what was the meaning of this edit comment: "double, double standards and trouble"? Was that a threat? "Trouble" for whom? You reverted the warning posted on your old account, Y ddraig felen/felyn; however that warning still stands. If there are any further edits in this vein I see no option but to block both accounts permanently. If you want to make a positive contribution to Wicipedia and put this disruptive behaviour behind you this is your last chance to do so. Anatiomaros 22:05, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Gweler hefyd y "jôc" yma. Fandaliaeth yw hynny. Diolch i Dysgwr am sbotio fo a'i ddadwneud. Fel y dywedais, ni fydd rhybudd os digwyddith unrhyw beth o'r fath eto. Anatiomaros 23:22, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr am eich sylwadau, Anatiomaros. Dwi'n medru cadarnhau nad awgrymwyd bygwth o "trouble" pellach gan fy nghrynodeb golygu a gyfeirioch ato; cyfeiriodd y "trouble" at y sefyllfa oedd yn bodoli eisoes: er y cafodd fy sylwadau eu dileu, roedd sylwadau The Biz, oedd yn ymosodiad uniongyrchol ar yr iaith, wedi cael eu gadael i sefyll.

Er hynny, dwi'n gofidio'r effaith negyddol ar y prosiect a ganlynodd i fy ngolygiadau ddoe. Gadawaf i rwan neges bersonol at Ddysgwr.


I've been following this going back and forth between Dysgwr and Y ddraig felen, and it's inspired me - inspired me not to take things to heart so much. What happened previously between me and another Wicipedia contributor got out of hand, and I appreciate that the user in question is looking out for the quality of the language on Wicipedia. I also agree with the above comments, and I'll help out by correcting mutation errors / grammatical errors where I can and to the ability I can. Keep at it! Xxglennxx 22:31, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
This thread appears to have taken a life of its own way outside the confines of my original question. No problem with that, but if anyone has any further replies to my question then please leave them on my talk page. However, I have a general sense from the replies already received that you're happy for me to use my faltering Welsh and you'll fix up the errors, which is much appreciated. Diolch yn fawr. Dysgwr 22:52, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
While I didn't 100% agree with him/her I did kind of see what Y ddraig felen's point was, but it's far more satisfying and productive correcting the odd spelling/grammer mistake than having to revert mindless vandalism. Some wikipedias, the Maori one for instance, actively discourage none fluent speakers from contributing, but the Welsh Wikipedia would never be where it is today if it was left to fluent speakrs alone and all constructive editing is encouraged. A good way to minimise the amount of eiting others will have to do later is, is to copy and paste the content of a similar article where possible, and replace the main details - e.g. with towns and villages from the same county.--Ben Bore 14:13, 5 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Y Ddraig Felen

golygu

Ar ol derbyn neges wrth Y Ddraig Felen ar ebost, penderfynais rhoi'r benefit of the doubt iddo a lleihau ei floc i wythnos yn hytrach na phyfethnos. Fodd bynnag, dw i newydd fod ar Wiciadur a Wiciquote ac mae wedi bod wrthi'n eu fandaleiddio nhw. A oes unrhyw wrthwynebiad gan unrhywun fy mod yn cynyddu'r bloc i 6 mis? Mae wedi cael cyfle i gyfrannu'n adeiladol ond mae'n ymddangos mai yma i wneud niwsans o'i hyn yw e? Rhodri77 10:19, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Caria mlaen, ro'n i'n cysidro gwneud yr un peth fy hun. Dwi'n tybio mai trolio er mwyn denu ymateb ydy hyn i gyd, a mae gennym ni i gyd bethau gwell iw wneud na gwastraffu amser yn ymateb ac ymdrin gyda hyn! Thaf 10:35, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Diolch! Wedi gwneud. Rhodri77 10:55, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Dwi wedi bod yn rhy brysur i gyfrannu yma ers nos Iau, ond credaf mai profocio a bod yn niwsans oedd ei brif bwrpas yma. Diddorol clywed am y fandaliaeth ar Wiciadur a Wiciquote. Tybed beth ydy ei record ar yr Anglopedia? Yn bersonol ni welaf rheswm dros beidio ymestyn y bloc am gyfnod amhenodol. Anatiomaros 20:56, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi rhoi bloc amhenodol ar ei hen gyfrif, Y Ddraig Felyn, rhag ofn iddo ddefnyddio'r cyfrif hwnnw i osgoi'r bloc ar y cyfrif newydd, ac wedi diogelu'r dudalen sgwrs. Rhion 21:46, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, Rhion. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod hwnnw heb ei flocio hefyd. Gyda llaw, mae rhywbeth od yn digwydd gyda'r dau gyfeiriad IP yma heno hefyd - [10] a [11]. Rhyfedd fod dau yn troi i fyny fel 'na i olygu'r un erthygl... Anatiomaros 22:10, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Cafwyd yr un peth eto heddiw, gwrthdrowyd gan Ben Bore, er mai dim ond un cyfeiriad IP fu'n gyfrifol y tro yma. Diddorol fod un o'r cyfeiriadau yn rhan o LAN Prifysgol Aberystwyth ([12]) a'r llall o Brifysgol Caerdydd ([13]). Eitha drwgdybus! Anatiomaros 14:45, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Fandaliaeth eto, gan IP arall. Gan fod y gwron mor boblogaidd yn ddiweddar dwi wedi diogelu'r erthygl am fis rhag cyfranwyr heb gofrestru. Anatiomaros 18:36, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]