Wicipedia:Y Caffi/archif/9

Erthyglau Llafar golygu

A oes erthyglau llafar ar gael ar y Wicipedia Cymraeg? Un o fy addunedau blwyddyn newydd ar gyfer 2008 yw cyfrannu ychydig bach mwy at Wicipedia [!], a byddai gen i ddiddordeb cyfrannu drwy ddarllen dros hen erthyglau a chyfieithu ychydig o erthyglau o'r Saesneg, wrth gwrs, ond hefyd drwy droi ambell erthygl sy'n bodoli yn ffeil sain (fel [1]). Dw i'n sylweddoli mai nifer cymharol fychan o erthyglau sydd ar Wicipedia a bod angen cynyddu'r nifer, ond dw i'n meddwl y byddai'n dda i rai pobl allu clywed rhai o'r erthyglau yn ogystal â'u darllen. A oes ffordd o wneud hyn ar y Wicipedia Cymraeg h.y. a yw'r patrymluniau nodiadau ac ati wedi eu cyfieithu? Os na, dw i'n fodlon gwneud hynny, jyst ddim yn siwr beth sydd angen ei wneud e.e. allforio nhw o'r wikipedia Saesneg? Beth yw barn y gweinyddwyr am hyn? Diolch am eich cymorth/barn, a Blwyddyn Newydd Dda! Jac y jwc 23:12, 31 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Fe fyddai'n syniad da iawn. Does gen i ddim syniad sut i wneud, ond mae'n siwr fod rhywun yma yn gwybod. Rhion 08:24, 2 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Pob hwyl i chi gyda hwn. Fel y sonioch bydd angen creu nodiadau pwrpasol - eu seilio ar y rhai ar Wikipedia sydd rwyddaf siwr o fod. Os y cewch drafferth holwch. Mae'n debyg eich bod yn mynd i olygu'r erthyglau cyn eu darllen? Fe fyddai'n drueni gorfod dileu erthygl lafar oherwydd bod camgymeriadau ieithyddol neu ffeithiol ynddo wedi trafferthu creu'r ffeil sain yn y lle cyntaf. Lloffiwr 22:19, 3 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Diolch i chi'ch dau am yr anogaeth. Dw i newydd drio gwneud un o erthygl Y Swyddfa Gymreig; nid y dewis gorau o bosib, ond dw i'n credu bod yr iaith yn weddol os nad y ffeithiau (diolch am y tip, Lloffiwr). Y broblem fwyaf ar hyn o bryd (heblaw am fy niffygion i fel darllenwr!), yw'r nodiadau, fel ro'n i wedi'i ragweld. Dw i'n deall dim arnyn nhw! Nes i drio gwneud un fan hyn Nodyn:Wicipedia_Llafar (sef Template:Spoken_Wikipedia), ond doedd e ddim yn gweithio yn Saesneg ar Wicipedia heb sôn am yn en:Template:Spoken_Wikipedia/doc" er enghraifft! Efallai bod systemau llai cymhleth ar y wicis eraill ond yn anffodus dydi Ffrangeg ddim yn y dolenni rhyngwici felly fedra'i ddim gwneud llawer yn y cyfeiriad yna chwaith. Amgen amser i feddwl am hyn ac mae'n rhy hwyr yn y dydd i roi'r ymenydd ar waith rwan. Gobeithio fod gan rywun arall fwy o grebwyll am hyn! Anatiomaros 23:34, 3 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr am eich trafferth Anatiomaros! Ro'n i'n ofni mai dim ond fi oedd yn gweld y peth yn gymhleth! Ffeindies i ffordd eitha hawdd o gynnwys ffeil sain mewn erthygl wedyn (yn nhudalennau personol Lloffiwr - diolch Lloffiwr!) felly dw i wedi newid y ddolen o fod yn ddolen lle mae'n rhaid llwytho'r ffeil i lawr i'r cyfrifiadur i'w chwarae, sy chydig bach yn well, gobeithio. Byddai'n dda cael nodyn fel un en. rhywbryd, ond fel dwedwch chi Anatiomaros, mae braidd yn hwyr yn y dydd! Jac y jwc 00:51, 4 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Hefyd, yn dilyn sylw Lloffiwr am ansawdd erthyglau, mae croeso i unrhyw un awgrymu rhai i'w troi yn erthyglau llafar; dechre dod i nabod y lle ydw i, rydych chi'n llawer mwy cyfarwydd â'r lle, pa erthyglau sydd yma, pa erthyglau sy'n eitha cywir o ran ffaith ac iaith, beth sy'n ddifyr a.y.b. Byddai'n well gen i gadw at rai gweddol fyr am y tro, h.y. llai na 500 gair, ond mae croeso i bobl eraill ddarllen rhai hirach! Jac y jwc 23:24, 3 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Llongyfarchiadau ar yr erthygl lafar ar y Swyddfa Gymreig - sain clir gennych ond bod ras gwyllt arnoch! Mae'n siwr y gwnaiff rhywun fynd ati i greu nodyn pwrpasol at yr erthyglau llafar pan fydd amser yn caniatau. A fyddech (ac unrhyw un arall o ran hynny) mor garedig ag ystyried recordio ffeiliau yngan ar gyfer enwau lleoedd yn eich rhan chi o Gymru? Y syniad tu ôl i hyn yw creu ffeiliau sy'n dangos i ddysgwyr ac i bobl na sy'n hanu o'r fro honno, y ffordd i yngan enwau lleoedd. Bydd hefyd yn bosib i erthyglau mewn ieithoedd eraill i gynnwys y ffeil yngan. Yn y categori 'Welsh pronunciation' ar Wicifryngau mae angen eu gosod, sef darpar is-gategori i'r categori Pronunciation. Lloffiwr 21:11, 6 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi creu categori ar gyfer 'Erthyglau llafar'. Lloffiwr 21:55, 6 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Diolch Lloffiwr - roeddwn i'n teimlo wrth recordio fy mod yn siarad yn aaraaf iawn, ond mae siarad yn gyflym yn rhedeg yn y teulu! Pan/os llwydda i i wneud mwy fe dria i arafu eto. Ymddiheuriadau nad ydw i wedi gwneud mwy gyda llaw, dw i'n eitha drwg am ddechrau lot o wahanol brosiectau a'u gadel i gyd ar eu hanner. Rheswm arall yw gwybod lle i ddechrau! Dw i newydd recordio rhai enwau lleoedd fel awrgymoch chi uchod Lloffiwr, a ddim yn siwr sut i'w rhoi yn yr erthyglau fel ffeiliau 'ynganu'. Newydd sylwi hefyd fy mod wedi eu llwytho yma yn hytrach nac i wicifryngau, na i drio'u rhoi nhw yno nawr... O ran creu mwy o erthyglau llafar falle y byddai'r rhai sy'n cael eu dewis fel pigion yn addas? Jac y jwc 16:20, 8 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Mae cymorth ar sut i osod ffeil yngan mewn erthygl i'w gael ar Wicipedia:Gosod ffeiliau sain. Gweler Yr Ariannin i weld enghraifft. Lloffiwr 21:38, 10 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Maes-e golygu

Dw'i wedi creu tudalen ar y Wiki Saesneg ar gyfer Maes-e, ond mae'r hogia yno yn amau nad ydy'r wefan yn haeddu sylw. Allai unrhywun ohonoch chi fy helpu i'w hargyhoeddi fod gan y wefan notability yn y byd Cymraeg? Diolch Ioan07

Pigion golygu

To start the new year off, I've put Diwydiant llechi Cymru as the front page article in pigeon, as this seems to be the only featured article at present. How do people feel this should continue? I have two options:

  • Leave this as the front page article, until another article is raised to this standard, or
  • Carry on putting other articles, of variable quality, in pigion, as I have been doing.

I'm quite happy to continue, but would like to get other peoples views first.

By the way, I've just archived this page up to the end of 2007 as it seemed to be getting very unwieldy. – Tivedshambo (talk) 22:14, 5 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

I'd suggest continuing to rotate the articles for the time being - it's working very well and adds interest to the front page. Rhion 22:03, 6 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
I agree with Rhion. They'd stay there a long time at present as we have only one Erthygl ddethol! And it's good to see a change on the front page. Diolch am y gwaith ar hyn/Thanks for your work on this. Anatiomaros 22:26, 6 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Thanks for the comments - I'll carry on as I was then. I may do a bit of experimenting to try to automate the weekly changeover. – Tivedshambo (talk) 22:17, 7 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

 
On a similar subject, as most of the subjects won't be featured articles, I feel the Wikimedal logo may be inappropriate for display on the main page. I've been looking at various logos, and would like to suggest Delwedd:P writing.svg as an alternative, at a size of 56px (see right). I'm trialling it in the Nodyn:pigion template at present (that part isn't transcluded to the main page), but if you feel this is a suitable change, it'll need an administrator to carry out the amendments, as the logo is hard-coded into the protected source of Hafan. – Tivedshambo (talk) 16:55, 10 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Wedi tynnu'r logo Wikimedal oddi ar adran y Pigion ar yr Hafan. Yn cytuno nad yw'n ddoeth awgrymu bod cymuned Wicipedia wedi cytuno bod erthygl yn y pigion wedi cyrraedd rhyw safon arbennig, pan nad yw hynny'n wir. Tynnu gwawd ar ein pennau fyddai'r canlyniad 'na'i ofn. O ran rhoi logo gwahanol yn ei le - dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod angen gwneud. Os am wneud byddai'n rhaid creu tudalen help yn egluro sail dewis y pigion a'i gysylltu â'r logo fel bod darllenwyr yn gwybod beth yw beth. (Have pulled the wikimedal logo from Hafan. Agree not wise to imply that the ~Wicipedia community has agreed that an article in pigion has reached a particular quality, when this is not the case. We run the risk of ridicule. As to a replacement logo, I am not convinced one is needed. However, if created, we would have to link it to a help page explaining the basis of selecting pigion to readers. Lloffiwr 12:40, 11 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Change request golygu

Could an administrator change Delwedd:Crystal 128 wp.png for the identical Delwedd:Crystal Clear app wp.png in Hafan please. The former has been tagged on Commons as a duplicate, and a bot has been through all projects changing them, but obviously couldn't do Hafan as it's protected. See this page. The other cywici pages listed should be ok. Diolch! – Tivedshambo (talk) 17:58, 22 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Done. Presumably the bot will do/has done the other pages. Diolch yn fawr, Anatiomaros 18:26, 22 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Prydain - Terminoleg golygu

Rwyf wedi creu tudalen wahaniaethu ar gyfer Prydain, gan nodi orau gallwn gynnwys y prif erthyglau hynny sy'n cynnwys 'Prydain' yn eu teitlau. Ynglŷn â'r erthygl ar Ynysoedd Prydain - mae paragraff yn yr erthygl am wedd propoganda'r teitl 'The British Isles'. Rwyf wedi edrych ar yr Atlas Cymraeg a chael mai 'Prydain Fawr ac Iwerddon' yw teitl y tudalennau perthnasol fan hynny. Mae'r casgliad o luniau tu mewn i glawr yr atlas yn dwyn y teitl 'Prydain o'r Awyr'. Gan hynny, beth am newid 'Ynysoedd Prydain' i 'Ynysoedd Prydain ac Iwerddon'? Ac a ydym ni'n fodlon ar adael y teitl Prydain Fawr ar yr erthygl honno (gweler Sgwrs:Cymru#Gwlad_gyfansoddiadol??) ? Lloffiwr 19:52, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Ie, mae'n bwnc dyrys a dadleuol. Dwi wedi gadael sylw bach ar Sgwrs Cymru sy'n berthnasol yma hefyd dwi'n credu. Cytunaf fod 'Ynysoedd Prydain ac Iwerddon' yn well. Dwi'n meddwl fod Prydain Fawr yn erthygl ddilys, am fod y term yn cael ei ddefnyddio a bod angen ei esbonio, ond dim ond un allan o sawl enw posibl ydyw. Anatiomaros 21:36, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Wedi symud 'Ynysoedd Prydain' i 'Ynysoedd Prydain ac Iwerddon'. Ad-drefnu'r categorïau i gyfateb ar y gweill. Lloffiwr 14:22, 11 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Diolch, Lloffiwr. Credaf fod hynny'n well (a chaniatau nad yw'n bosibl plesio pawb!). Erys y broblem am y defnydd o'r ansoddair "Prydeinig", ond mae hyn yn gam i'r cyfeiriad iawn. Hen bryd i ni gael bot i wneud gwaith diflas fel newid categorïau hefyd! Anatiomaros 15:48, 11 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Bot Status for Purbo T golygu

Hi, I'd like to request a bot flag for Purbo T (contributions)

Thank you! --Purodha Blissenbach 22:36, 15 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Bot Status for Idioma-bot golygu

Hi, I'd like to request a bot flag for Idioma-bot here.

  • Operator: lt:User:Hugo.arg
  • Function: interwiki
  • Operation: manually-assisted, and automatic autonomous mode
  • Software: pywikipediabot framework updated daily from

Thank you lt:User:Hugo.arg 09:33, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Block a vandal golygu

Dear administrators,

please block Entlinkt who recently removed interwiki links to de.wikipedia. He is not de:User:Entlinkt but a known impostor. --MF-Warburg 16:48, 20 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

: I have blocked this user. Danke. Rhion 17:36, 20 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Request bot flag for Alexbot golygu

I request the bot flag for Alexbot:

Operator:zh:User:Alexsh
Programming Language:Pywikipedia SVN
Functions:Interwiki(+autonomous), double redirect fix, featured article interwiki link.
Other languages:All statistics in here

Thank you--Alexsh 05:25, 26 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

wanted golygu

'dwi newydd ychwanegu tudalen am erthyglau y mae pobl yn eu ceisio -- Wicipedia:Erthyglau a geisir

and added one to start the ball rolling

hope it's useful --ysgrifennwyd y neges ddilofnod hon gan Mh69

Syniad gwych Mh69 - os gallwn ni wneud rhestr dda o erthyglau amrywiol a diddorol ar y dudalen yna byddai'n ffordd o annog pobl newydd i ysgrifennu erthyglau ar gyfer wicipedia o bosibl / Excellent idea Mh69 - if we can compile a good long list of interesting article possibilities, maybe we could then use that page as a way of persuading (potential) newcomers to write articles on wicipedia, get more people involved... Jac y jwc 18:19, 24 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

arnofio golygu

Pan mae dolen i dudalen sydd heb ei greu, mae'r testyn arnofio yn cynnwys y Saesneg (not yet written). Rhywun yn gwybod sut i drwsio hyn? --Llygad Ebrill 23:27, 2 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Wedi cyfieithu'r neges. Wedi adolygu/cyfieithu rhyw dwy ran o dair o'r negeseuon erbyn hyn. Rhyw 6 mis o waith ar ôl arnynt. Lloffiwr 12:57, 3 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Betawiki update golygu

  • Please help us improve the MediaWiki localisation at Betawiki. Currently 73.97% of the MediaWiki messages and 1.26% of the messages used in the extensions used by the Wikimedia Foundation are localised. Please help us help your language. GerardM 12:25, 8 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Iaith twll ôl? golygu

Yn y dudalen Wicipedia:Cymraeg, "カムリ語" ydy cyfeiriad Siapaneg y gair "Cymraeg". Dw i ddim yn siarad y Siapaneg, ond gyda help o dudalen 'ma, mae'n tybio mai "kamurigo" ydy swn y gair -- sef "kamuri" (カムリ) = "Cymru", "go" (語) = iaith.

Wel, iawn. Ond dyma be' sydd Babelfish yn ei feddwl am "カムリ語":

Back hole language.!!!!

Mh96 18:17, 11 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n iawn. ウェールズ語 (ynganiad: Werusu-go neu, yn ffonetig "Wêrwsw-go", o'r gair Siapaneg am Gymru Wales (=Werusu) + go 語 'iaith') y dylai fod. Anatiomaros 18:27, 11 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Dwi wedi cywirio'r enw a rhediad y paragraff hefyd, a oedd heb ei atalnodi o gwbl bron(!). Anatiomaros 18:36, 11 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Gwybodlen teledu golygu

Help! Ydi rhywyn yn ffansio trio gwneud synnwyr o hwn? Nodyn:Gwybodlen_Teledu Dwi wedi gwneud llanast braidd o drio addasu'r un Saesneg ac wedi rhedeg allan o amser iw gywiro. Diolch. Thaf 22:08, 14 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

I've adapted it, so it will now work, but it needs more translating before it can be applied en-masse here. I'll use SuperTed as the place for testing. Paul-L 07:16, 16 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Six Nations Grand Slam golygu

Next week's front page article was due to be Robert Peel, but if anyone can add improve Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru or a similar article to reflect today's events, with a suitable photograph, I'll be pleased to replace it ;-)  – Tivedshambo (talk) 19:17, 15 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Syniad da. Rwyf wedi dechrau. Rhion 22:31, 15 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr! – Tivedshambo (talk) 08:34, 16 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
  • Operator: Dalibor Bosits
  • Purpose: Interwiki, auto and manually mode, from hr Wiki, daily
  • Software: Pywikipedia framework
  • Bot flagged on: bg, bs, ca, ceb, cs, da, de, el, en, eo, es, et, eu, fr, gl, hr, hu, id, ja, la, ms, nl, nn, no, pl, pt, ro, ru, sh, simple, sk, sl, sr, su, sv, sw, uk, te, th, tr, vo

thank you --Dalibor Bosits (talk) 14:50, 17 Mawrth 2008 (UTC)

Cysylltiadau rhwng erthyglau o wahanol ieithoedd golygu

Ers i mi ymuno ynghanol Chwefror rwy wedi creu ychydig o erthyglau newydd. Oes yna ffordd o gael y ddolen i'r erthygl Cymraeg o'r fersiynau yng ngwahanol ieithoedd oni bai am orfod mynd drwy bob un yn unigol fel rwy wedi bod yn gwneud hyd yn hyn? (Glanhawr 18:45, 17 Mawrth 2008 (UTC))[ateb]

Y peth gorau i'w wneud yw creu cyswllt ag un iaith - cyswllt i'r erthygl Gymraeg yn wici'r iaith honno, a chyswllt i'r erthygl yn yr iaith honno yn yr erthygl Gymraeg. Wedyn ymhen ychydig ddyddiau bydd "bot" yn rhoi'r cysylltiadau eraill i mewn (gyda lwc). Oes rhywun yn gwybod am ffordd haws? Rhion 19:00, 17 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Ah, diolch. I gadarnhau, os rwy'n cysylltu erthygl o Gymraeg i'r holl ieithoedd, ac wedyn o Ffrangeg i Gymraeg er enghraifft, dylai'r bot gysylltu'r erthygl o bob iaith i Gymraeg, ife? (Glanhawr 19:32, 17 Mawrth 2008 (UTC))[ateb]
Dim ond os oes 'na erthygl(au) yn bod yn yr ieithoedd eraill, wrth gwrs (swnio'n amlwg, ond...). Y peth gorau i'w wneud fel rheol ydy chwilio'r wikipedia Saesneg. Hefyd, os wyt ti wedi copïo neu addasu o en. bydd rhoi'r ddolen i'r erthygl honno ar waelod y dudalen yn ddigon, mewn damcaniaeth. Gelli di fynd i en. hefyd a chopio a phastio'r rhestr rhyngwici o fan'na. Anatiomaros 20:20, 17 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Còcỳp? golygu

Gweler yr erthyglau ar Great Cockup a Little Cockup, sy'n fryniau honedig yn Ardal y Llynnoedd. Dydw i ddim yn gyfarwydd iawn ag Ardal y Llynnoedd, ond maent yn swnio'n amheus iawn i mi. Rhion 21:53, 17 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Prin y gellid dychmygu enwau sy'n swnio'n fwy wirion, ond maen nhw'n fynyddoedd go iawn (gweler y ddolen at yr erthygl ar y Great Cockup ar en.). Anatiomaros 21:59, 17 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Os mae Cockup yn swnio'n amheus, beth am Wank yn Ne'r Almaen? Alan012 18:29, 21 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Election Notice, Please Translate golygu

The 2008 Board election committee announces the 2008 election process. Wikimedians will have the opportunity to elect one candidate from the Wikimedia community to serve as a representative on the Board of Trustees. The successful candidate will serve a one-year term, ending in July 2009.

Candidates may nominate themselves for election between May 8 and May 22, and the voting will occur between 1 June and 21 June. For more information on the voting and candidate requirements, see <http://meta.wikimedia.org/wiki/Board_elections/2008>.

The voting system to be used in this election has not yet been confirmed, however voting will be by secret ballot, and confidentiality will be strictly maintained.

Votes will again be cast and counted on a server owned by an independent, neutral third party, Software in the Public Interest (SPI). SPI will hold cryptographic keys and be responsible for tallying the votes and providing final vote counts to the Election Committee. SPI provided excellent help during the 2007 elections.

Further information can be found at <http://meta.wikimedia.org/wiki/Board_elections/2008/en>. Questions may be directed to the Election Committee at <http://meta.wikimedia.org/wiki/Talk:Board_elections/2008/en>. If you are interested in translating official election pages into your own language, please see <http://meta.wikimedia.org/wiki/Board_elections/2008/Translation>.

For the election committee,
Philippe Beaudette

Following translation is drafted and posted here for comment -

Mae Pwyllgor Etholiad 2008 i Fwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Wikimedia yn cyhoeddi trefn etholiad 2008. Bydd defnyddwyr Wikimedia yn cael cyfle i ethol un ymgeisydd o blith cymuned Wikimedia i’w cynrychioli ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad Wikimedia. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o’r Bwrdd dros gyfnod o flwyddyn, hyd at fis Gorffennaf 2009.

Bydd ymgeiswyr yn cael cynnig eu hunain yn ystod y cyfnod 8 Mai hyd at 22 Mai. Bydd pleidleisio’n digwydd rhwng 1 Mehefin a 21 Mehefin. Am ragor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer bwrw pleidlais neu ymgeisio gweler <http://meta.wikimedia.org/wiki/Board_elections/2008>.

Nid yw’r system ar gyfer bwrw pleidlais wedi ei gadarnhau eto; pa fodd bynnag pleidlais gudd fydd hi, gan ofalu cadw at gyfrinachedd llwyr.

Unwaith eto, caiff y pleidleisiau eu bwrw a’u cyfrif ar weinydd sy’n berchen i Software in the Public Interest (SPI), sy’n hollol annibynnol a niwtral. Bydd SPI yn dal allweddau cryptograffig, a byddant yn gyfrifol am gyfri’r pleidleisiau ac am gyflwyno’r canlyniadau i Bwyllgor yr Etholiad. Cawsom gymorth gwerthfawr gan SPI yn ystod etholiad 2007.

Cewch wybodaeth pellach ar <http://meta.wikimedia.org/wiki/Board_elections/2008/en>. Gallwch holi Pwyllgor yr Etholiad ar <http://meta.wikimedia.org/wiki/Talk:Board_elections/2008/en>. Os oes diddordeb gennych mewn cyfieithu tudalennau swyddogol yr etholiad i’ch iaith eich hunan, ymwelwch â <http://meta.wikimedia.org/wiki/Board_elections/2008/Translation>.

Lloffiwr 09:29, 27 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]