Sgwrs:Cymru

Latest comment: blwyddyn yn ôl by 84.148.224.249 in topic Midwalesarts.org

Hen erthygl golygu

Hen erthygl Cymru:

[[de:Wales]] [[eo:Kimrio]] [[fr:Pays de Galles]] [[pl:Walia]] [[en:Wales]] Cymru ydy gwlad fach yng ngorllewin Ynys Prydain, a rhan o'r y Deyrnas Unedig efo Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cymru ydy cartref yr iaith Cymraeg, er bod llai na chwarter y boblogaeth yn ei siarad hi. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Arwel Parry (sgwrscyfraniadau) 01:41, 20 Gorffennaf 2003‎

Wales? golygu

In the English Wikipedia, the name Cymru is stated immediately in the first sentence. Is there any reason why the word "Wales" does not appear one single time throughout this entire article? Surely it is a startling omission not to mention the name by which other countries know this country... 84.9.34.22 02:44, 27 Awst 2006 (UTC)Ateb

If you mentioned the names other countries know this country, you'd have a very long list. I've added Wales because English and Welsh are treated as equal in Wales. Paul-L 19:19, 2 Medi 2006 (UTC)Ateb
A list almost as long as the number of languages in the world. One could as well ask why the English language wikipedia article on England does not include the name Lloegr, as that is the name used by the Welsh, the inhabitants of one of the only two countries which border on England, since the formation of that country! Anatiomaros 19:54, 2 Medi 2006 (UTC)Ateb
Lloegr? Hehe... I never heard that before. How does one pronounce it, I wonder? I could tell people "I'm from Lloegr", and see the confusion on their faces :P
Thanks for adding the English name... although I do get the point about all the other languages in the world. 87.74.48.230 10:01, 5 Medi 2006 (UTC)Ateb
Lloegr is approxomately 'sl-oi-gr'. I'm from Lloegr = Dw i'n dod o Loegr (soft mutation causes the first 'l' to disappear). Paul-L 16:01, 9 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Roedd Defnyddiwr:Siswrn wedi dileu'r gair "Wales", dwi wedi ei ail-osod. Dwi'n teimlo y dylid crybwyll y gair o leiaf unwaith yn yr erthygl, gan ei fod yn un o enwau swyddogol Cymru, ac enw a ddefnyddid gan fwyafrif o drigolion Cymru. Byddai'r erthygl yn anghyflawn hebddo. --Llygad Ebrill 19:18, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Ni welaf bwrpas dangos yr enw Saesneg am Gymru yma - mae pawb sy'n defnyddio'r Wici Cymraeg yn gwybod beth ydi Cymru yn Saesneg. Maen nhw wedi dewis darllen y Wici Cymraeg am eu bod eisiau darllen erthyglau Cymraeg. Rhoi gwybodaeth i bobl mae Wicipedia i fod i wneud, nid dweud yr hyn sy'n amlwg. Dywedwn i mai gwneud pwynt gwleidyddol ydi rhoi 'Wales' i mewn. Siswrn 21:54, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Nid yw fy amcanion yn rhai gwleidyddol, ond yn rhai gwyddoniadurol. Pe tasech chi'n darllen yr hyn a ysgrifenais uchod, fe fyddai hynny'n glir. Dylsai wyddoniadur fel hwn cynnwys bob math o wybodaeth perthnasol, hyd yn oed pethau amlwg. Yn wir, pan mae rhywbeth yn amlwg, bosib fod ei hepgor yn anfon neges gwleidyddol. --Llygad Ebrill 00:02, 16 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Dw i ddim yn deall y rhesymeg yma. Nid ydym yn rhoi enw Saesneg gwledydd eraill. Er engraifft dydyn ni ddim yn rhoi 'Turkey' ar tudalen y wlad Twrci. O ddilyn y rhesymeg yma byddem yn rhoi y teitl Saesneg ar bob dalen. Dyfrig 00:21, 16 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Nid yw hyn yn dilyn o fy rhesymeg o gwbl. Gweler isod --Llygad Ebrill 17:13, 17 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Buaswn i'n dal i ddweud bod y cyfieithiad Saesneg allan o'i le ac yn diraddio'r Wici Cymraeg i raddau. Oes eisiau "Cwningen (Saesneg: rabbit), Y Lleuad (Saesneg: The Moon)" ayb? Arhoswn ni am farn mwy o bobl. Ond fy marn i - dim Saesneg di-anghenraid ar y Wici Cymraeg (nac ar S4C, nac ar...) ;-) Siswrn 20:19, 16 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Mae'n amlwg nad ydych yn fy neall: yr hyn a ddywedais yw fod 'Wales' yn enw swyddogol am Gymru, a'i fod yn un o enwau brodorol y wlad. Mae Cymru'n wlad ddwyieithog. Byswn i fyth isio gweld enw Saesneg ar fwyafrif helaeth erthyglau wicipedia. Dim ond am erthyglau gwledydd roeddwn i'n son, does gan y Lleuad ddim enw swyddogol na thrigolion :-) O rhan Twrci, wrth gwrs nad oes isio enw Saesneg, ond mae isio enwau Twrceg a Chwrdeg y wlad. --Llygad Ebrill 17:13, 17 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Gwyddoniadur Cymraeg ydi hon, nid Saesneg.

18:49, 16 Gorffennaf 2007 (UTC)

Dw i'n dal i anghytuno, ond mater o farn yn fwy na ffaith ydyw hyn. Rwyf wedi cynnig cyfaddawd drwy ychwanegu 'Cambria' a 'Pays de Galles'. (Dw i ddim yn ystyried Saesneg yn iaith frodorol yng Nghymru - yn Lloegr y tarddodd, a Saeson a ddaeth â hi i Gymru, a dw i ddim yn ystyried y Saesneg (na'r Gymraeg) yn iaith swyddogol yma - 'does dim ieithoedd swyddogol yn y Deyrnas Unedig.) Siswrn 20:21, 18 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Dwi'n cytuno gyda Llygad Ebrill am gynnwys yr enw Saesneg, gan ei bod yn un o ddwy brif iaith Cymru. Efallai bydd hi'n well os caiff ei nodi ar y wybodlen yn unig (ac nid yn y llinell gyntaf)? —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:25, 18 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Fe fyddai hynny'n dderbyniol i mi --Llygad Ebrill 11:19, 29 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Ydw yr wyf yn deall beth yr ydych yn ei ddweud ond does gan y Saesneg fel iaith swyddogol (a bwrw ein bod yn derbyn hynny) ddim i'w wneud â'r peth. Fel y dywedwyd uchod fyddem ni ddim yn cyfieithu cwningen, lleuad nac unrhyw air arall. Pam felly cyfieithu Cymru Dyfrig 23:38, 18 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Mae statws Wales fel enw swyddogol yn berthnasol: swyddogaeth gwyddoniadur yw cofnodi'r math yma o wybodaeth. Wrth gwrs nad yw Wales yn air Cymraeg, ond nid geiriadur mo hwn. Rydym yn ysgrifennu'r geiriadur trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae angen crybwyll enwau priod mewn ieithoedd eraill lle bont yn berthnasol. A fyddech yn dileu'r gwybodaeth yma o erhyglau eraill? 'République française' o Ffrainc er enghraifft? Gan fod Gymru'n wlad ddwyieithog (efallai nad ydym i gyd yn falch o hynny, ond does bosib i ni newid Cymru'n wlad uniaith), mae'r ddau enw yn berthnasol. Gyda llaw, mae'r enwau Lladin a Ffrangeg ar Gymru yn amherthnasol hyd welwn i, a dylid eu dileu. --Llygad Ebrill 11:19, 29 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb

Consensws golygu

Can we got concensus on the use of Wales? I like what Llygad Ebrill did to the infobox, and I've added "hefyd Saesneg: Wales" to the opening paragraph, which shows it is one of the two languages, but not the native language. Paul-L 18:39, 14 Ionawr 2007 (UTC)Ateb

Buaswn i'n dweud bod angen i ni benderfynu ar bolisi cyffredinol yn gyntaf, ac wedyn gweithredu'r polisi. Fel arall, 'does dim ateb 'iawn' - dim ond barn a chwaeth pobl. Yn fy marn i: 'does dim ieithoedd swyddogol yng Nghymru (nac yn unlle ym Mhrydain), 'dydi Cymru ddim yn wlad ddwyieithog (mae ieithoedd eraill yn cael ei siarad yma, ac mae'r gyfartaledd o bobl sy'n medru mwy nag un iaith yn is na'r gyfartaledd drwy'r byd), a chyfleu gwybodaeth ddefnyddiol drwy'r Gymraeg ydi gwaith y Wici Cymraeg - 'sdim eisiau Saesneg sydd ddim yn deud dim. Ond rhaid sefydlu'r egwyddor i'w dilyn yn gyntaf. Siswrn 22:03, 16 Ionawr 2007 (UTC)Ateb

Hanes Cymru? golygu

Dwi ddim yn deall pam fod yr adran "Hanes Cymru" yn gorffen yn y 1280au; roeddwn i'n meddwl fod yr arfer hynny wedi mynd allan o ffasiwn ers dyddiau J.E. Lloyd! Yna mae pwt am ryfel Glyndŵr a'r Deddfau Uno yn dod dan y bennod "Gwleidyddiaeth" - bwlch anferth wedyn nes inni gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol. Yn fy marn i mae angen ail-ysgrifennu a threfnu hyn i gyd. Oes rhywun yn teimlo fel rhoi cynnig arni? Dwi'n fodlon i gyfrannu fy hun. Anatiomaros 21:03, 7 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb

Cytuno bod eisiau ailwapio'r erthygl ond fel mater o frys yr wyf wedi torri allan y cufeiriad at hiliaedd oedd dan 'economi Dyfrig 09:53, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Diolch Dyfrig. Gyda llaw, oes gennych unrhyw syniad be di'r "APE" ("Mae APE yn credu...") gan y fandal Defnyddiwr:Quirky (hiliol ei hun yn fy marn i!)? Mae 'na bobl od o gwmpas. Anatiomaros 19:32, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb

Rhufeiniaid ac Iwerddon golygu

Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru , cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae tystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. : Rwy'n amheus iawn o hyn. Mae ychydig o gelfi Rhufeinig wedi eu darganfod yn Iwerddon, ond marsiandïwyr yw'r eglurhad amlwg, nid bod y Rhufeiniaid eu hunain wedi bod yno.Rhion 07:17, 16 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Gwlad gyfansoddiadol?? golygu

Beth yw ystyr un o wledydd cyfansoddiadol y DU. Does dim cyfansoddiad gennym. Dw i ddim yn meddwl fod y golygiad hwn wedi gwella ar y ddalen. Dyfrig 20:55, 12 Awst 2007 (UTC)Ateb

"Gwlad gyfansoddol", o'r Saesneg "Constituent country". Mae'n derm sy 'mond yn cael ei ddefnyddio ar y wicipedia Saesneg, hyd y gwelaf i, ac yn bersonol dwi ddim yn hoff ohono o gwbl. Rwyt ti'n iawn, mae angen cael paragraff hir da o gyflwyniad sy'n cynnwys disgrifiad cryno (iawn!) o nodweddion Cymru. Gyda llaw, dwi ddim yn hoff o "ynys Prydain Fawr" chwaith; mae "Prydain" neu "Ynys Prydain" yn llawn digon da ac yn llawer mwy cyfarwydd a naturiol. Anatiomaros 21:22, 12 Awst 2007 (UTC)Ateb
Mae'r gair "cyfansoddiadol"/constituent (siŵr o fod "cyfansoddol" dyle fe fod – mae chwilio am hyn ar Google yn rhoi ambell i ganlyniad) yn dynodi bod y gwledydd yn rhannau o'r DU (together they constitute the United Kingdom) – nid yw'n cyfeirio at unrhyw gyfansoddiad. Mae constituent country yn term sy'n cael ei ddefnyddio gan Whitaker's Almanack, y Swyddfa Ystadegau Gwladol [1], ac eraill (er nad yw'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth San Steffan [2]). Mae amrywiadau megis constituent parts (Penguin Encyclopedia) a component countries yn cael eu defnyddio hefyd. —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:34, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Ie, ond y broblem yw mae'n derm diweddar ac anghywir (ac anghyfarwydd iawn yn y Gymraeg hefyd)) sy mond yn cael ei ddefnyddio gan rai adrannau yn llywodraeth y DU (ond nid y llywodraeth ei hun, mae'n ymddangos!) a'r gwasanaeth sifil a phobl sy'n dilyn eu harweiniad heb feddwl am y peth. Pam anghywir? Achos mae'n cael ei ddefnyddio i ddisgfrifio Gogledd Iwerddon a dydi Gogledd Iwerddon ddim yn wlad ond yn dalaith (o Iwerddon a/neu'r DU gan dibynnu ar eich safbwynt). Gweler hyn, er enghraifft: Google - "Northern Ireland is not a country" (dros 20,000 o gyfeiriadau). Diolch am chwilio i mewn i hyn, gyda llaw. Dwi ddim yn ceisio bod yn negyddol, mond cadw at y ffeithiau. Anatiomaros 21:17, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb
Chwaneg ar hyn o'r erthygl hir ar y wicipedia Saesneg. Er bod en. yn defnyddio'r term (yn ddiflas o aml!), nodir hyn (fy italigs i): "Although the term 'constituent countries' is sometimes used by official government bodies in the UK, such as the Office for National Statistics, it is rarely used otherwise. Far more frequently, they are simply referred to as countries; thus the 2001 British Census asked residents of the UK their "country of birth" with tick box options of: Wales; Scotland; Northern Ireland; England; Republic of Ireland and Elsewhere; and the Office for National Statistics states authoritatively in its glossary that "In the context of the UK, each of the four main subdivisions (England, Scotland, Wales and Northern Ireland) is referred to as a country". The British Embassy in the United States uses the word 'countries' on its website, rather than constituent countries: "The United Kingdom is made up of the countries of England, Scotland, Wales and Northern Ireland." ." Anatiomaros 21:52, 10 Chwefror 2008 (UTC)Ateb

Map o Gymru golygu

Dwi wedi mentro newid yr hen fap, oedd yn dangos Cymru yn y DU yn unig, gyda dau fap newydd, un (anfoddhaol, mae'n wir) yn dangos Cymru yn unig (a darn o Loegr!) a'r llall, newydd ymddangos ar gomin yn gymharol ddiweddar, yn dangos Cymru yn yn Ewrop (+Prydain ac Iwerddon) a'r byd. Gobeithio fod hyn yn wellaint ac felly'n dderbyniol. Gresyn nad oes gwell fapiau o Gymru, yn y Gymraeg os posibl, ar gael. Anatiomaros 00:11, 6 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Hmm. Mae'n flin 'da fi, ond achos difrifol o information overload yw'r mapiau isaf, yn fy marn i. A pham fod map Cymru mor wedi'i aflunio? Roedd well 'da fi'r map blaenorol. :( -- Jac-y-do 12:33, 26 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Gwybodaeth amherthnasol yn y wybodlen? golygu

Pam ydym ni yn nodi Mrs Windsor fel "brenhines" Cymru (tydi hi ddim - does 'na ddim ffasiwn beth!) yn y wybodlen ac yn ychwanegu Gordon 'GB' Brown hefyd am ei fod yn brif weinidog y DU? Yn rhyfedd iawn, dydy'r wybodaeth honno (amheus yn achos Lisi ac amherthnasol yn achos GB) ddim yn cael ei chynnwys yn yr erthyglau am yr Alban a Lloegr. Fedra' i ddim gweld fod unrhyw ddadl dros gynnwys y ddau unigolyn hynny yma, ac mae'n enwedig o ryfedd fod Cymru yn eithriad i'r drefn mewn hyn o beth. Dwi'n cynnig cael gwared o'r ddau. Oes wrthwynebiad? Anatiomaros 20:15, 1 Medi 2009 (UTC)Ateb

Rwy'n amheus braidd o hyn. Mae angen adlewyrchu'r sefyllfa gyfansoddiadol fel y mae, nid fel yr hoffem ni iddi fod. Y gwir yw fod gan GB lawer mwy o rym dros Gymru na sydd gan Rhodri Morgan yn y pen draw, felly rwy'n credu fod angen ei gynnwys (a Brenda). Os down ni'n weriniaeth annibynnol, fe fydd yn bleser mawr eu tynnu o'r wybodlen, ond hyd hynny ... Rhion 21:02, 1 Medi 2009 (UTC)Ateb
Ia, dwi'n medru derbyn hynny, ond ydy hy'n iawn i gyfeirio ati fel "Brenhines Cymru"? Dydi hi ddim achos does 'na ddim ffasiwn beth yn bodoli. Ac hefyd mae angen cysondeb yma. Pam fod Cymru yn eithriad i'r drefn? Os nad ydym am newid gwybodlen Cymru mae angen newid y lleill. ON Cytuno, wrth gwrs - brysied y dydd! Anatiomaros 21:10, 1 Medi 2009 (UTC)Ateb
OON Dwi'n gweld fod gwybodlen y 6 Sir yn cynnwys Gordon ond nid Brenhines Lloegr: sôn am anghyson! Ac mae'n wneud i Gymru edrych fel... dwn i ddim, ond dydy o ddim yn iawn fel hyn. Cysoni'r cyfan sydd rhaid, dyna fy mhrif bwynt. Anatiomaros 21:14, 1 Medi 2009 (UTC)Ateb
Dw i ddim yn meddwl bod yn unrhyw ymgais bwriadol i hepgor y wybodaeth ar erthyglau Lloegr, Yr Alban a'r Chwe Sir (Gogledd Iwerdodn i bawb arall!), ond yn hytrach diffyg manylder ar y Wicipedia Cymraeg. Er cymaint yr hoffwn iddi fod fel arall, y gwirionedd yw mai Mrs Windsor yw pennaeth cyfansoddiadol Cymru.--Ben Bore 09:04, 2 Medi 2009 (UTC)Ateb
ON, ond o edrych ar yr erthygl, efallai bod eisia ail lunio'r wybodlen, achos mae yn ymddangos fel mai Brenhines Cymru yw i a nid Brenhines Lloegr/DU. Mae'r Anglopedia yn crybwyll yn gyntaf mai constitutional monarchy yw'r DU. --Ben Bore 09:07, 2 Medi 2009 (UTC)Ateb
Diolch am yr ymatebion. Yn gyntaf, hoffwn egluro 'mod i wedi codi'r pwynt yma am sawl rheswm ac er yr oeddwn i'n methu ymatal rhag "dweud fy nweud" uchod - fel arfer! - dwi'n derbyn wrth gwrs mai Mrs W yw brenhines y DU a bod Cymru yn rhan o'r DU. Dwi'n derbyn hefyd fod angen i hynny gael ei gofnodi ar Wicipedia. Ond mae'n rhaid i ni fod yn gyson ac yn gywir. Fel mae Ben yn nodi, fel y mae hi ar hyn o bryd mae'r wybodlen yn rhoi'r argraff - yn anfwriadol - mai Brenda yw "brenhines Cymru". Dydy hi ddim. Dydy Cymru ddim yn deyrnas; does ganddi ddim brenhiniaeth. Ond mae hi'n rhan o'r DU a brenhines Prydain/Lloegr yw pennaeth cyfansoddiadol y wladwriaeth honno. A beth fyddai ymateb hanner Chwe Sir y Gogledd o weld yn y wybodlen am y diriogaeth honno mai Elisabeth II yw ei brenhines? Oes angen 'Brenhines' a 'Prif Weinidog y DU' ar wybodlenni tair gwlad y DU a thiriogaeth/talaith Gogledd Iwerddon? Beth am gael rhywbeth fel hyn yn eu lle: 'Statws cyfansoddiadol' (= 'Gwlad'/'Un o wledydd y DU' yn achos Cymru, yr Alban a Lloegr; 'Talaith (tiriogaeth ddadleuol)' yn achos GI) a 'Gwladwriaeth sofranaidd' (= 'Y Deyrnas Unedig'). Ffeithiol, cywir, dim yn mynd i bechu neb (gobeithio!). Y naill ffordd neu'r llall mae angen fod yn gyson. (ON Y peth olaf dwi eisiau ydy creu dadl boeth am hyn, ond mae angen datrys y broblem.) Anatiomaros 12:41, 2 Medi 2009 (UTC)Ateb
Wedi medwl am y peth ymhellach (a darllen y drafodaeth ar yr un pwnc ar yr Anglopedia) dw i o'r farn nad ydy'r wyboadeth yma yn berthnasol i wybodlen Cymru (na'r gwledydd eraill o fewn y DU chwaith). Cyn belled a bod eglurhad yn yr erthygl bod Cymru'n rhan o'r DU, yna fe all unrhy un glicio ar yr erthygl yna wedyn i weld beth yw statws cyfansoddiadol y wladwriaeth a phwy yw ei bennaeth.

Arfbais golygu

 

Beth ydym ni ar y Wicipedia Cymraeg yn meddwl am statws yr arfbais yma? Y mae'n anghyfarwydd i gyfranwyr y fersiwn Saesneg o'r dudalen hon ac maent yn ei ddileu pryd bynnag rwyf yn ei ychwanegu. Gofynais i Wikiproject:Heraldry and vexillology am eu barn ac un a atebodd, yn dweud "I'm not convinced it should be given a leading role in the article. Incorporated somewhere, but not at the top - it simply doesn't help the reader enough." Rwy'n aros am ddiwrnod braf i gymryd llun o'r arfbais ar flaen Teml Heddwch Caerdydd (lle ymddengys ynghyd â rhai Lloegr, yr Alban ac Iwerddon) cyn ymateb, ond a wyr unrhywun am dystiolaeth pellach i'r hyn rwyf yn barod wedi rhoi yma? Ham 20:26, 22 Tachwedd 2009 (UTC)Ateb

Yn bersonol, faswn i ddim yn meddwl bod eisiau ei gynnwys. Ydw i'n iawn i ddweud bod yna ar un adeg rhyw fath o Royal Standard ar erthygl Cymru ar y Wikipedia Saesneg? Beth petai rhwyun awydd rhestru rhywbeth felly (ych a fi!), neu un o'r amryw o fanneri answyddogol Cymru yn y wybodlen hefyd? Bydd yn edrych yn fler ac yn tynnu'r sylw oddi ar y ddraig goch yn fy marn i.--Ben Bore 11:08, 23 Tachwedd 2009 (UTC)Ateb
Does dim royal standard fel y cyfryw, ond ydy, mae'r peth tebycaf i un yn cynnwys yr arfbais yma. Arfbais teuluol rhai o dywysogion Gwynedd ydoedd, gan gynnwys Llywelyn Fawr ac ein Llyw Olaf. Roedd traddodiad wedyn o ystyried hwn fel arfbais Cymru – gweler, er enghraifft y delwedd yma, er mai teulu brenhinol Lloegr, yn anffodus, oedd yn ei hawlio. Ham 22:51, 1 Rhagfyr 2009 (UTC)Ateb

Visit golygu

In Wales which good places to visit? There are many trains from Reading Berkshire. I go to South Coast? It is very easy with a train. Go to places away from a train is worthwhile, such as on buses? Castles, shops, history, what else? Is the country is very beautiful? May be cold in the winter walk on the beach. Thank you. Wenhao.

If public transport is difficult to interesting places, I can rent a car. Do you drive on the left as Britain? How ease of parking?

If you go hiking, do you pay attention to bear? What is the most dangerous animals in rural areas?

Where there is good access to Wales Tourist Board? I would like to ask you to tell me where the potential interests of tourism, if possible, please. However, if you can not answer, is good enough for me to tell Tourist Board. I can ask them. Wenhao

Everywhere in the UK drives on the left. Only pay attention to bears if you go hiking at the zoo, they are extinct in the UK. The most dangerous animals in rural areas are cows. For any future questions there is a cool new website that can answer them: here. 130.88.141.34 16:11, 21 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

Rhannau'r DU golygu

Mae'r frawddeg gyntaf yn rhestru pedwar rhannau'r DU: yr Alban, Lloegr, Cernyw a Gogledd Iwerddon. Ceryw? Mae Ceryw'n rhannu'r DU, wrth gwrs, ond drwy estyniad o fod rhan o Loegr fel Sir Efrog a Gwlad-yr-haf. Hen genedl Geltaidd yw hi, ond dim cenedl fodern Ewropaidd fel Cymru. Gwinafal (sgwrs) 04:27, 6 Mai 2012 (UTC)Ateb

Ond mae hi'n dal yn hen genedl a chanddi ei iaith ei hun. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:01, 6 Mai 2012 (UTC)Ateb
Cenedlaetholdeb Cernyw o'r neilltu, dw i'n meddwl pan bobl ar draws y byd yn meddwl am y gwledydd DU (y rhannau sydd yn 'unedig') maen nhw'n siarad am Gymru, Lloegr, yr Alban, a'r Gogledd o Iwerddon. Mae 'England and Wales' yn gyffredin, ond does dim 'England and Cornwall.' Gwinafal (sgwrs) 12:44, 6 Mai 2012 (UTC).Ateb
Son am Gymru rydym ni yma, nid y DU, ac mae'n gwbwl naturiol ac yn berthnasol i gyfeirio at Gernyw. Byddwn i yn cynnwys Ynys Manaw hefyd Dyfrig (sgwrs) 13:02, 6 Mai 2012 (UTC)Ateb
Wrth gwrs, Dyfrig: dw i wedi ychwanegu Manaw a'u rhoi i gyd yn nhrefn yr wyddor. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:46, 7 Mai 2012 (UTC)Ateb

Diogelu dros dro golygu

Dwi wedi diogelu'r dudalen am bythefnos fel mai dim ond gweinyddwyr gall ei golygu a hynny oherwydd golygiadau niferus gan rywun gyda agenda wleidyddol sy'n ceisio dweud nad yw Cymru'n wlad. Anatiomaros (sgwrs) 22:29, 23 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Mae hynny'n wir; dw i wedi edrych ar yr hanes. Pam dim ond gweinyddwyr? Cyfeiriadau IP yr oedd yn gosod gwybodaeth anghywir, dim defnyddwyr cofrestredig, ac mae'r cyfeiriadau wedi cael eu rhwystro eisoes hefyd. Cathfolant (sgwrs) 16:57, 1 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Gan eu bont yn gyfrwys ac yn newid eu IP, neu hynny'n digwydd yn otomatig. Cytuno ag Anat. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:04, 1 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Mae'n gas gen i gloi tudalennau fel rheol, Cathfolant, ond gan fod y person yma mor benderfynol dwi'n siwr buasai'n creu cyfrif(on) newydd er mwyn parhau i osod ei farn ar Wici. Mae'n anffodus does dim opsiwn 'gweinyddwyr a defnyddwyr cydnabyddedig' neu rywbeth tebyg ar gael wrth ddiogelu tudalennau. Anatiomaros (sgwrs) 19:25, 1 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Climate Map golygu

Hello, apologies for not speaking in Welsh here. My welsh is very basic. I just made a climate map on the English wikipedia page for Wales:

 

I'd like to make one in Welsh and was wondering if I could get translation help for the text in the map. If you could post Welsh translations here of the few bits of text, I'd be happy to add them to the map and upload a Welsh version. Diolch! Redtitan (sgwrs) 06:30, 20 Gorffennaf 2016 (UTC)Ateb

Many thanks! I don't really understand the English, whether Koppen describes the type. If so:
'K climate types of Wales' - 'Mathau Koppen o hinsoddau gwahanol yng Nghymru'
'K climate types' - 'Mathau Koppen o hinsoddau gwahanol'
'Subpolar oceanic' - 'Isbegynol-cefnforol'
'Oceanic' - 'cefnforol'
bottom bit -

'Yr isotherm a ddefnyddir i wahaniaethu'r tymherus (C) oddi wrth y cyfandirol (D) yw -3 gradd.
'Ffynhonnell y data: WorldClim.org'

The diagram does not state what (C) and (D) are on the diagram. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:01, 11 Awst 2016 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr! Köppen is the name of the scientist who developed the system and (C) and (D) are language-independent science terms, so those translations work great. Here's the Welsh version:
 
Mathau Köppen o hinsoddau gwahanol yng Nghymru
Redtitan (sgwrs) 04:17, 7 Medi 2016 (UTC)Ateb

Midwalesarts.org golygu

Hello,

does this site belong here: https://midwalesarts.org.uk/

Please check this, because the arts are nearly not visible here in this article. Thank you! Kindly VG 84.148.224.249 13:36, 8 Mehefin 2022 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Cymru".