William Henry Hughes (Glan Caeron)

Bardd o Gymro a ymfudodd i'r Wladfa oedd William Henry Hughes (1856-1926), a ddaeth yn fwy adnabyddus fel Glan Caeron. Fe'i ganwyd yn Llanrhychwyn, Sir Gaernarfon. Ei rieni oedd Hugh Hughes (g. 1830) o Lanrhychwyn a Jane, a oedd wedi ei geni yn Nhreffynnon.[1]

Erbyn 1871 yr oedd y teulu wedi symud i un o ddau dŷ Glasfryn, Y Fron, ym mhlwyf Llandwrog. Cafodd y tad, brawd hynaf William (sef David) ac yntau waith fel chwarelwyr llechi.[2] Yn ystod ei gyfnod yng nghwarel Pen yr Orsedd, ei bartner oedd John Roberts (Iolo Glan Twrog). Yn y chwarel ei lysenw oedd "Wil Llanrwst".[3] Bu farw ei fam Jane rhwng 1871 ac 1881, ac ailbriododd ei dad â dynes o’r enw Mary. Yn y man cafwyd tri phlentyn arall, Dorothy, Robert ac Edith.[4]

Mae’n debyg mai yn ystod ei gyfnod yn y chwarel y dechreuodd William Hughes farddoni o ddifrif ac yn y man fe fabwysiadwyd y ffugenw “Glan Caeron”. Dichon i’r enw ddeillio o enw ffermydd uwchben pentref Y Fron gyda’r enw Caeronwy. Anfonodd sawl darn, megis penillion ar farwolaeth y bardd Trebor Mai, i’r wasg yn ystod y 1870au.[5], ac ym 1878 fe’i hurddwyd i urdd Bardd yn orsedd “Eisteddfod Fawr y Cymry” yn Llanrwst, er, sylwer, nad yr Eisteddfod Genedlaethol oedd honno, gan i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1878 gael ei chynnal ym Mhenbedw.[6] Serch hynny, roedd hynny’n gydnabyddiaeth sylweddol i ddyn 22 oed.

Yr un flwyddyn ag Eisteddfod Llanrwst, ymddangosodd cerdd yn y Genedl Gymreig dan y teitl “Myfanwy”, yn gyflwynedig i Glan Caeron gan y bardd David Thomas (Llwydiarth Môn) oedd yn byw ym Mhen-y-groes ar y pryd.

Tra rhed afon Caeron ar ogwydd i'r eigion,
Mi garaf yn ffyddlon y dirion fun deg;
Dy gwmni a hoffwn, am ennyd ddymunwn,-
Addefwn na chwynwn ychwaneg.[7]

Fe erys y cwestiwn pwy oedd Myfanwy.

Erbyn 1881 roedd o wedi penderfynu gadael Dyffryn Nantlle gan symud i’r Wladfa ym Mhatagonia. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo. Erbyn Tachwedd, roedd wedi cyrraedd y Wladfa, ar ôl teithio yno ar ei ben ei hun, gan fod adroddiad ar gael amdano’n annerch y gynulleidfa mewn cyngerdd er budd y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Trerawson yn yr Ariannin.[8]

O hynny ymlaen, chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y drefedigaeth, a barnu oddi wrth y mynych adroddiadau amdano yn y wasg yno. Ymddengys iddo weithio fel mwynwr am gyfnod, ac fe gafodd waith gan bapur newydd y Wladfa, Y Drafod. Erbyn 1897 roedd yn ysgolfeistr yn Ysgol Maes Teg, un o ddeg ysgol Gymreig yn y Wladfa, lle dysgid y Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg.[9] Parhâi i farddoni gydol yr amser a daeth gryn lwyddiant i’w ran fel un o brif feirdd y Wladfa. Enillodd gadair Eisteddfod y Wladfa bedair gwaith, ym 1883, 1892, 1893, a 1904. Fo hefyd enillodd y brif gystadleuaeth farddonol ym 1909 pan gyflwynwyd coron yn lle cadair.[10] Fe’i hetholwyd Glan Caeron yn Ddirprwy Archdderwydd Gorsedd y Wladfa.

Priododd ag Annie Jane Brunt (1870-1945) o Drefeglwys, Sir Drefaldwyn, ym 1890. Yr oedd rhai o deulu Brunt wedi ymfudo i’r Wladfa. Cafodd y pâr naw o blant i gyd.[11]

Ceir disgrifiad ohono ym 1919 yn llywio cinio Gŵyl Dewi a fynychwyd gan rai o bobl fwyaf amlwg yn Nhrelew, sydd yn tystio i’w ymarweddiad cyhoeddus: roedd o, meddai’r sylwebydd, “fel arfer yn ffrydlif o ffraethineb a’i arabedd yn ddihysbydd”.[12]

Ymgartrefodd yn y diwedd yn Nolavon, ac fe’i claddwyd yno ym mynwent Capel Carmel, ym 1926.[13]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfrifiad plwyf Llanrwst, 1861
  2. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871
  3. "Looking William Henry Hughes and family from Llanrwst or Llanrhychwyn ", Gwefan Rootschat; cyrchwyd 25 Hydref 2022
  4. Op.cit., nodyn gan ei or-ŵyr, Edouardo
  5. Y Genedl Gymreig, 30 Awst 1877, t.3
  6. Baner ac Amserau Cymru, 10 Awst 1878
  7. Y Genedl Gymreig, 5 Rhagfyr 1878, t.3
  8. Y Celt, 27 Ionawr 1882, t.5
  9. North Wales Express, 23 Gorffennaf 1897, t.5; Cymru’r Plant, Awst 1898, t.27
  10. "Enillwyr", Gwefan Cadeiriau Cymru; cyrchwyd 27 Hydref 2022
  11. "Annie Brunt", Gwefan My Heritage; cyrchwyd 27 Hydref 2022
  12. Y Drafod, 7 Mawrth 1919, t.5
  13. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffacs 369/54