William John Gruffydd (Elerydd)

archdderwydd (enw barddol: Elerydd)

Llenor a aned yn Ffair-rhos, Ceredigion oedd William John Gruffydd (24 Medi 191621 Ebrill 2011),[1] a adnabyddir yn well fel W. J. Gruffydd neu Elerydd.

William John Gruffydd
Ganwyd24 Medi 1916 Edit this on Wikidata
Sir Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Gweler hefyd William John Gruffydd.

Cyfeiria ei enw barddol 'Elerydd' at afon Leri (neu Eleri) gerllaw ei gartref yn Nhal-y-bont lle'r oedd yn weinidog ar Eglwys Fedyddiedig y Tabernacl pan goronwyd ef am ei bryddest 'Ffenestri' yn Eisteddfod Pwllheli ym 1955. Aeth ymlaen i gipio'r goron eto yng Nghaerdydd ym 1960 am bryddest ar y testun 'Unigedd'. Mae'n adnabyddus am ei gerddi a'i gyfrolau o straeon am helyntion y cymeriadau annwyl 'Tomos a Marged'.

Bu'n Archdderwydd o 1984 hyd 1987.

Llyfryddiaeth golygu

Cerddi:

  • Ffenestri (1961)
  • Cerddi'r Llygad (1973)

Nofelau:

  • Hers a cheffyl (1967)
  • Cyffwrdd â'i Esgyrn (1969)
  • Angel heb Adenydd (1971)

Straeon: Cyfres am helyntion 'Tomos a Marged'

Hunangofiant:

Arall:

  • Folklore and myth (1964)

Cyfeiriadau golygu