Ffair-rhos

pentref yng Ngheredigion

Pentref gerllaw Llynnoedd Teifi rhwng Pontrhydfendigaid ac Ysbyty Ystwyth yng Ngheredigion yw Ffair-rhos ("Cymorth – Sain" ynganiad ).

Ffair-rhos
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3°N 3.8°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)

Fe'i adnabyddir yn aml fel 'Pentre'r Beirdd' - y tri mwyaf amlwg yw Evan Jenkins, Dafydd Jones a W. J. Gruffydd (Elerydd). Enillodd Dafydd Jones y Goron Genedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966. Ym 1955 enillodd W. J. Gruffydd y Goron ym Mhwllheli am ei bryddest ar y testun 'Ffenestri' gan ailadrodd y gamp yn Eisteddfod Caerdydd ym 1960 ar y testun 'Unigedd'. Bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1984 a 1986.

Cynrychiolir y pentref yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014