William John Nicholson
Roedd Y Parch William John Nicholson (23 Rhagfyr, 1866 – 25 Tachwedd, 1943) yn weinidog gyda'r Annibynwyr.[1]
William John Nicholson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Rhagfyr 1866 ![]() Bangor ![]() |
Bu farw | 25 Tachwedd 1943 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl ![]() |
Tad | William Nicholson ![]() |
Cefndir Golygu
Ganwyd Nicholson ym Mangor, yn blentyn i William Nicholson[2] oedd ar y pryd yn athro ysgol Llanengan, Llŷn ac Annie (née Roberts) ei wraig. Ym 1867, cafodd William Nicholson ei ordeinio yn weinidog Annibynnol a'i sefydlu yn Rhoslan a Llanystumdwy. Bu'r teulu yn byw yn Llanystumdwy am dair blynedd. Ym 1870, symudodd ei dad i gymryd gofal eglwysi Treflys a Thyn-y-maes, Bethesda. Bu yn y cylch hwnnw hyd 1872. Ym Methesda dechreuodd Nicholson mynychu'r ysgol. Ar ôl ddwy flynedd ym Methesda symudodd y teulu i'r Groes-wen ger Caerffili.[3] Ar ôl pedair blynedd yn y Groes-wen cafodd y tad alwad i olynu Gwilym Hiraethog fel gweinidog Capel Grove Street, Lerpwl.
Ar ôl cael ychydig ychwaneg o ysgol gynradd yn Lerpwl danfonwyd William John i'r Ysgol Ramadeg Porthaethwy oedd o dan ofal y Parch. E. Cynffig Davies. Tra yn Ysgol y Borth y derbyniwyd Nicholson yn gyflawn aelod o eglwys yr Annibynwyr. Ym 1883 dechreuodd pregethu fel pregethwr lleyg, a hynny yn Grove Street, eglwys ei dad, a daeth yn bregethwr poblogaidd yn bur fuan. Ym 1885 bu farw ei dad.[4]
Blwyddyn wedi marwolaeth ei dad, bu Nicholson yn llwyddiannus yn arholiad mynediad ar gyfer Athrofa'r Annibynwyr Aberhonddu.[5] Dechreuodd ei gwrs paratoad at y weinidogaeth trwy fynychu Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd a'i gorffen yn Aberhonddu.
Gyrfa Golygu
Wedi tair blynedd o hyfforddiant derbyniodd Nicholson alwad i fod yn weinidog ar Eglwys Annibynnol Saesneg Sant Paul, Abertawe. Cafodd ei ordeinio a'i sefydlu yn weinidog y capel ar 14 Mai, 1889 mewn oedfa a arweiniwyd gan ei ewythr y Parch Thomas Nicholson.[6] Wedi treulio ychydig dros dair blynedd yn Abertawe, symudodd i gymryd gofal Salem, Porthmadog, fel olynydd i'r Dr Lewis Probert ym 1892.[7] Arhosodd ym Mhorthmadog hyd ddiwedd ei yrfa.
Gwasanaethodd fel cadeirydd Cyfundeb Llŷn ac Eifionydd o enwad yr Annibynwyr ym 1902, bu hefyd yn ysgrifennydd cronfa (pwyllgor cyllid) y cyfundeb am sawl flwyddyn. Bu'n aelod o bwyllgor golygyddol "Y Caniedydd Cynulleidfaol", y llyfr emynau a defnyddiodd yr Annibynwyr rhwng 1895 a 1921. Gwasanaethodd fel cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1929-30
Roedd Nicholson yn gallu barddoni ac enillodd ambell i wobr mewn eisteddfodau lleol, roedd hefyd yn gerddor pur fedrus yn gallu canu, chwarae'r organ a chyfansoddi, ond ni chyhoeddwyd dim o weithiau. Roedd yn cael ei gofio yn bennaf fel un o bregethwyr mwyaf grymus a phoblogaidd ei enwad yn ei gyfnod. [4]
Ymddeolodd Nicholson o'r weinidogaeth ym 1940 oherwydd afiechyd a bod o'n colli ei olwg.[1]
Teulu Golygu
Ym 1909 priododd Nicholson â Prudence M'Lean, merch hynaf Robert M'Lean, aelod. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parchg Thomas Nicholson, Paddington, ewythr y priodfab. [8] Ni fu iddynt blant.
Marwolaeth Golygu
Bu farw ym Mhorthmadog yn 77 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Salem, Porthmadog.[9]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ 1.0 1.1 "NICHOLSON, WILLIAM JOHN (1866 - 1943), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
- ↑ "NICHOLSON, WILLIAM (1844 - 1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
- ↑ Cymru; cyf 38, 1910, tud 258 "Tro i'r Groes Wen" gan J James adalwyd 21 Mai 2021
- ↑ 4.0 4.1 TYWYSYDD Y PLANT. Rhif 12. RHAGFYR, 1904. Cyf. XXXIV. Y PARCH. W. J. NICHOLSON, PORTHMADOG. adalwyd 21 Mai 2021
- ↑ "NEWYDDION CYMREIG.|1886-07-02|Y Celt - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
- ↑ "CYFARFODYDD ORDEINIO MR W. J. NICHOLSON YN ST. PAUL, ABERTAWE.|1889-05-31|Y Tyst a'r Dydd - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
- ↑ "| PORTMADOC.|1892-07-22|Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-21.
- ↑ "Marriage of the Rev W J Nicholson - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1909-08-14. Cyrchwyd 2021-05-21.
- ↑ Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd Arysgrifau Cerrig Beddau Ynyscynhaearn, Capel Salem Porthmadog