William Jones (Gwilym Myrddin)

bardd

Roedd William Jones (Gwilym Myrddin) (12 Ebrill 186310 Ionawr 1946) yn brifardd Cymreig.[1]

William Jones
Ganwyd12 Ebrill 1863 Edit this on Wikidata
Cil-y-cwm Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 1946 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Cefndir

golygu

Ganwyd Gwilym Myrddin ar fferm Pen y Banc, Cil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin [2] yn blentyn i Evan Jones, amaethwr ag Anne (née Adams) ei wraig. Pan oedd yn blentyn unwyd Pen y Banc a Llwyndinawed, y fferm drws nesaf. Cafodd ychydig addysg mewn ysgol cefn gwlad a'r ysgol Sul.

Bu Gwilym Myrddin yn cynorthwyo ei dad ar y ffarm. Bu farw ei dad rhywbryd rhwng cyfrifiad 1881 a chyfrifiad 1891 a bu Gwilym wedyn yn ffarmio Llwyndinawed ei hun hyd 1898. Symudodd o Llwyndinawed i fod yn feili ar fferm yn ardal y Betws, Rhydaman am ychydig flynyddoedd cyn cael swydd fel ceidwad y lampau mewn glofa yng Nghwmaman. Ymddeolodd o'r lofa ym 1924 wedi i'w iechyd torri.

Mae enw Gwilym Myrddin yn dechrau ymddangos yn y papurau a'r cylchgronau fel awdur cerddi ac ymgeisydd eisteddfodol o ganol y 1890au. Ym 1894 enillodd Mr W Jones, Llwyndinawed y brif wobr am farddoni yn Eisteddfod Siloh, Llanymddyfri am Farwnad i'r diweddar Barch Rees Philips, Aberafan.[3] Safodd arholiad yr Orsedd ar gyfer Urdd Bardd ym 1895 ac wedi ei urddo dechreuodd defnyddio'r enw barddol Gwilym Myrddin. (Enw barddol wedi ei ail bobi, gan y bu Gwilym Davies, bu farw 1846, yn ei ddefnyddio [4] a bu prydydd oedd yn cyfrannu i'r Haul yn y 1860au a'r 1870au yn ysgrifennu o dan yr enw Gwilym Myrddin, Caerfyrddin.[5])

Mae gwefan Casglu'r Cadeiriau yn nodi bod Gwilym Myrddin wedi ennill cadeiriau yn eisteddfodau:[6]

  • 1900 Cil-y-cwm – Pryddest Unigedd
  • 1903 Queen's Hall, Llundain – Pryddest Ehediaid y Nefoedd
  • 1903 Felin-foel - Pryddest Dirgelwch
  • 1907 Cadair Gwent, Rhymni - Pryddest Einioes
  • 1911 Ysbyty Ystwyth - Pryddest Y Mynydd
  • 1911 Llandybïe - Pryddest, Gogoniant yr Haf
  • 1917 Y Crwys - Pryddest Y Byd Newydd (Ar ôl y Rhyfel)
  • 1919 Maesteg - Pryddest Aberth

Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1930, am bryddest i Ben Bowen. Yn ei sylwadau ar gyfer cyfres Canrif o Brifwyl y BBC meddai Alan Llwyd:

Aethpwyd yn ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg trwy ofyn am Arwrgerdd, cam enfawr yn ôl i'r gorffennol wedi arbrofion chwyldroadol y dauddegau yng nghystadleuaeth y Goron. Ar ben hynny, yr oedd tri aelod o'r hen do, Beirdd Newydd diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, yn beirniadu. Trychineb llwyr fu'r canlyniad. Gwobrwywyd arwrgerdd affwysol o wael gan gystadleuydd mynych ei wobrau yn adran farddoniaeth yr Eisteddfod yn y cyfnod. Colbiwyd y bryddest fuddugol a phwyllgor llên Llanelli gan W. J. Gruffydd yn Y Llenor a'r Western Mail. [7]

Ym 1886 priododd Gwilym Myrddin ag Elizabeth Jones (née Jones) o Bumsaint cawsant tri mab a merch.[8]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn y Betws, Rhydaman yn 82 mlwydd oed.

Cyhoeddiadau

golygu
  • Pryddest a Chan (1902)
  • Y Ferch o'r Scer a Peniel (1938)
  • Cerddi Gwilym Myrddin Casgliad o gerddi a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "JONES, WILLIAM ('Gwilym Myrddin'; 1863 - 1946), bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-14.
  2. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad Cilycwm 1871 yf: RG10/5480, Ffolio 18, Tudalen 1
  3. "SILOH LLANDOVERY - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1894-03-31. Cyrchwyd 2020-10-14.
  4. Seren Gomer Cyf. XXIX - Rhif. 368 - Mai 1846 Bu Farw adalwyd 14 Hydref 2020
  5. Yr Haul Cyf. 18 rhif. 212 - Awst 1874 tud 295 Gastell Llanstephan adalwyd 14 Hydref 2020
  6. "RHESTRAU O ENILLWYR". CASGLU'R CADEIRIAU. Cyrchwyd 2020-10-14.
  7. BBC – Canrif o Brifwyl – Llanelli 1930 adalwyd 14 Hydref 2020
  8. Who's Who in Wales, Cyhoeddiad 1933 tud. 128; A G Reynolds & Co, Llundain