William Lewis, Barwn 1af Merthyr
Roedd William Thomas Lewis, Barwn 1af Merthyr (5 Awst 1837 - 27 Awst 1914), oedd yn cael ei adnabod fel Syr William Lewis, Barwnig 1af, o 1896 i 1911, yn un o berchnogion pyllau glo Cymru.
William Lewis, Barwn 1af Merthyr | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1837 Merthyr Tudful |
Bu farw | 27 Awst 1914 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | diwydiannwr, gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Thomas William Lewis |
Mam | Mary Anne John |
Priod | Anne Rees |
Plant | Katharine Mary Lewis, Annie Lucy Lewis, Lilian Tydfil Lewis, Gwendolen Halliburton Lewis, Marie Spencer Lewis, Margaret Menelaus Lewis, Herbert Clark Lewis, Trevor Gwyn Elliot Lewis |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Bywyd cynnar
golyguGaned Lewis ym 1837 ym Merthyr Tudful, Sir Forgannwg, yn ail fab i Thomas William Lewis, peiriannydd o Plymouth, a'i wraig Mary Anne. Addysgwyd ef mewn ysgol leol dan ofal Taliesin Williams hyd at dair ar ddeg oed pan gafodd ei wneud yn brentis i'w dad fel peiriannydd.
Yn 1855 penodwyd Lewis yn gynorthwy-ydd i WS Clark, prif beiriannydd mwyngloddio John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute (1847-1890). [1] Treuliodd ddeng mlynedd yn y swydd cyn cael ei godi'n glerc y cwmni ym 1864. Rhoddwyd tenantiaeth Mardy House i Lewis fel rhan o'i swydd, a ddaeth ei gartref hir dymor yn Aberdâr . [1] Yr un flwyddyn priododd Anne Rees, merch William Rees, ac wyres Lucy Thomas, 'mam y fasnach glo ager Cymreig'. [1] Bu i Lewis ac Anne ddau fab a chwe merch. [1]
Bu'n gweithio i ddechrau i byllau glo Bute yn ne Cymru, ond rhwng 1870 a 1880 prynodd ei byllau ei hun yn y Rhondda, a ddaeth yn adnabyddus fel Lewis Merthyr Consolidated Collieries Limited. Ef hefyd oedd sylfaenydd Cymdeithas Glo Sir Fynwy a De Cymru fel ymateb y perchenogion i gryfder cynyddol yr undebau llafur.
Bywyd cyhoeddus
golyguDechreuodd Lewis ei yrfa mewn bywyd cyhoeddus ym 1866, pan etholwyd ef i Fwrdd Iechyd Lleol Aberdâr .[2]
Ym 1889 safodd yn ymgeisydd i gael ei ethol i Gyngor Sir Morgannwg ar gyfer ward Hirwaun. Cafodd y gystadleuaeth ei nodi gan gyhuddiadau (a wnaed yn wreiddiol adeg etholiad Cyngor Morgannwg, 1880) bod Lewis, fel perchennog glo amlwg ac asiant tir, wedi gwrthod ceisiadau gan anghydffurfwyr am dir i adeiladu capeli. Gwrthododd yr honiadau hyn yn gyhoeddus, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Ebeneser, Trecynon .[3] Fe wnaeth cefnogwyr Lewis hefyd gwrthod yr honiadau hyn trwy gyhoeddi hen ohebiaeth, gan gynnwys llythyr gan y diweddar Thomas Price a wrthbrofodd y cyhuddiadau.[4] Mae tystiolaeth bod poblogrwydd personol Lewis yn uwch nag unrhyw ystyriaethau gwleidyddol.[5] Trechodd Lewis yr ymgeisydd Rhyddfrydol, gweinidog Methodistaidd lleol, Richard Morgan, ac fe'i gwnaed yn henadur ar unwaith. Ar ddiwedd ei dymor chwe blynedd ni cheisiodd ei ail-ethol.
Gyrfa diweddarach
golyguCafodd Lewis ei greu yn Farwnig Nantgwyne, ym 1896 [6] ac ym 1911 fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Merthyr, o Senghennydd yn Sir Forgannwg.[7]
Bu farw'r Fonesig Lewis yng Nghastell Hean, Saundersfoot ar 2 Hydref 1902.[8] Bu farw'r Arglwydd Merthyr ym mis Awst 1914, yn 77 oed, ac fe'i holynwyd yn ei deitl gan ei fab hynaf, Herbert.
Codwyd cerflun gan Thomas Brock ym Mharc Aberdâr er anrhydedd iddo ac fe'i dadorchuddiwyd ym 1913.
Trychineb Glofa Senghennydd
golyguUn o byllau Lewis oedd Glofa Senghennydd. Yn dilyn methiant i weithredu cynllun diogelwch yn gynnar ym 1913, lladdodd ffrwydrad yn y pwll ar 14 Hydref y flwyddyn honno 439 o lowyr ac un achubwr. Dyma yw'r ddamwain mwyngloddio waethaf yn y Deyrnas Unedig o hyd. Yn dilyn hynny cafodd yr Arglwydd Merthyr, ynghyd â rheolwr pwll glo, ddirwyon o gyfanswm o £24.[9]
Cyfeiriadau
golygu- William Lewis, Barwn 1af Merthyr - Y Bywgraffiadur Cymreig
- William Lewis, Barwn 1af Merthyr - Gwefan Hansard
- William Lewis, Barwn 1af Merthyr - Bywgraffiadur Rhydychen
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Williams 2004.
- ↑ "Board of Health Election". Aberdare Times. 1 Medi 1866. Cyrchwyd 22 Ionawr 2014.[dolen farw]
- ↑ "Aberdare County Council Election". Aberdare Times. 5 Ionawr 1889. Cyrchwyd 2 Ebrill 2014.[dolen farw]
- ↑ "Mr W.T. Lewis a'r Capeli Ymneillduol". Tarian y Gweithiwr. 10 Ionawr 1889. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-21. Cyrchwyd 11 Chwefror 2014.
- ↑ "Etholiad Aelod y Cyngor Sirol dros Ranbarth Hirwaun". Tarian y Gweithiwr. 10 Ionawr 1889. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-21. Cyrchwyd 17 Chwefror 2014.
- ↑ [https://www.thegazette.co.uk/London/issue/26713/page/969 London Gazette; rhif:26713; dyddiad: 18 Chwefror 1896}}
- ↑ London Gazette; Cyfrol=28512; dyddiad 11 Gorffennaf 1911
- ↑ The Times; Obituaries - Lady Lewis; 3 Hydref 1902; tud =4
- ↑ http://www.welshcoalmines.co.uk/GlamEast/Senghenydd.htm