Saundersfoot
Pentref glan-môr yn ne-ddwyrain Sir Benfro yw Llanusyllt, neu Saundersfoot. Cyfeirir enw Cymraeg ac enw hanesyddol yr ardal at eglwys gyfagos wedi'i chysegru i Sant Usyllt.[1][2] Gyda'i gymydog Dinbych-y-pysgod, 2 filltir i'r de, mae'n un o'r cyrchfeydd gwyliau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae'n enwog am ei draethau braf ar Fae Caerfyrddin.
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Benfro ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.7114°N 4.7°W ![]() |
Cod SYG |
W04000471 ![]() |
Cod OS |
SN136048 ![]() |
Cod post |
SA69 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Angela Burns (Ceidwadwyr) |
AS/au | Simon Hart (Ceidwadwr) |
![]() | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Angela Burns (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Simon Hart (Ceidwadwr).[3][4]
HanesGolygu
Adeiladwyd yr harbwr yn 1829 ar gyfer allforio glo carreg (anthracite) o'r pyllau glo niferus yn yr ardal (e.e. yn ardal Stepaside), ond cyn hynny allforid glo o'r traeth ei hun am ganrifoedd. Tyfodd y pentref o gwmpas yr harbwr. Mae cwrs hen dramffordd o bwll Cwrt Bonville yn croesi'r pentref tra fod y yr hen dramffordd o bentref Amroth yn ffurfio'r promenad heddiw. Daeth y diwydiant glo i ben ar ddechrau'r 20g.
Manteisiodd y pentref ar y rheilffordd ger llaw i ddenu ymwelwyr o ardaloedd glofaol a dinesig De Cymru a gorllewin Lloegr a thyfodd i fod yn bentref glan-môr poblogaidd. Gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwyddo.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Bartrum, Peter (1993). A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. t. 729. ISBN 0907158730.
- ↑ Wade-Evans, Arthur (1910). "Parochiale Wallicanum". Y Cymmrodor XXII: 32. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1386446/1389668/37#?xywh=-852%2C1389%2C3924%2C1940.
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Abercastell · Abercuch · Aberdaugleddau · Abereiddi · Abergwaun · Aberllydan · Amroth · Angle · Arberth · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd Bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgerran · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm yr Eglwys · Dale · Dinas · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Hwlffordd · Jeffreyston · Johnston · Little Haven · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maenorowen · Maiden Wells · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Neyland · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Penfro · Pentre Galar · Pont Canaston · Pont Fadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Ffrêd · St. Florence · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Treglarbes · Tregroes · Treletert · Tremarchog · Tyddewi · Waterston · Uzmaston · Wdig · Yerbeston