William Ouseley
Roedd Syr William Ouseley HFRSE FSAScot (1767 - Medi, 1842), yn arbenigwr ar ddiwylliant gwledydd y dwyrain.[1]
William Ouseley | |
---|---|
Ganwyd | 1767 Sir Fynwy |
Bu farw | 1842 Boulogne-sur-Mer |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, diplomydd |
Tad | Ralph Ouseley |
Plant | William Gore Ouseley |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Ouseley yn Sir Fynwy, yn fab hynaf y Capten Ralph Ouseley a'i wraig Elizabeth (née Holland). Cafodd ei addysgu gartref yng nghwmni ei frawd, Gore a'i gefnder, Gideon Ouseley. Cafodd y tri ohonynt yrfaoedd nodedig.
Gyrfa
golyguYm 1787 aeth i Baris i ddysgu Ffrangeg, ac yno gosododd sylfaen ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Persia. Yn 1788 daeth yn gorned, (swyddog iau gyda'r marchfilwyr), yn 8fed gatrawd y dragŵn. Ar ddiwedd 1794 gwerthodd ei gomisiwn ac aeth i Leiden i astudio Perseg. Wedi dychwelyd i Ynysoedd Prydain dychwelodd i wasanaeth milwrol fel uwchgapten yng nghatrawd dragŵn Arglwydd Ayr wedi'i leoli yng Nghaerliwelydd.
Ym 1798 roedd yn byw yng Nghrucywel lle byddai, yn y pen draw, yn cyhoeddi ei gyfres o lyfrau Travels in Various Countries of Middle East a chafodd eu hargraffu'n lleol hefyd.[2]
Pan anfonwyd ei frawd iau, Syr Gore Ouseley, ym 1810, i wasanaethu fel Llysgennad i'r hyn a elwid ar y pryd yn Persia (Iran bellach), aeth Syr William gydag ef fel ei ysgrifennydd.[3] Arhosodd yno hyd 1812 cyn dychwelyd i Grucywel ym 1813.
Teulu
golyguPriododd Julia Frances Irving ym 1796 bu iddynt tri mab a chwe merch. Yr hynaf oedd Syr William Gore Ouseley a oedd yn ddiplomydd yn Ne America ac yn arlunydd enwog.[4]
Anrhydeddau
golyguDerbyniodd gradd LL.D. er anrhydedd o Brifysgol Dulyn ym 1797 a PhD o Brifysgol Rostock. Ym 1800 cafodd ei urddo'n farchog gan Charles yr Arglwydd Cornwallis (1738-1805), a oedd rhwng 1786 a 1793 wedi bod yn Llywodraethwr Cyffredinol India. Cafodd ei urddo fel cydnabyddiaeth am ei waith yn hyrwyddo astudiaethau dwyreiniol.
Roedd yn gymrawd anrhydeddus o gymdeithasau brenhinol Caeredin, Göttingen, ac Amsterdam, ac yn aelod o Gymdeithas Asiatig Bengal.[5]
Marwolaeth
golyguBu farw yn Boulogne-sur-Mer
Gweithiau cyhoeddedig
golygu- Persian Miscellanies (1795)
- Oriental Collections rhwng 1797 a1799
- Epitome of the Ancient History of Persia (1799); ym 1800,
- The Oriental Geography of Ebn Haukal (1800)
- Cyfieithiad o'r Bakhtiyar Nama (Bakhtiyar Nama and Observations on Some Medals and Gems) (1801).
- Travels in Various Countries of the Middle East 3 cyfrol (1810, 1811 a 1823)
Bu hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi llyfr John Lewis Burckhardt Travels in Arabia, Arabian Proverbs and Notes on the Bedouins and Wahbys [6]
Cyfrannodd nifer o bapurau pwysig i Drafodion y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ouseley, Sir William (1767–1842), orientalist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-20957. Cyrchwyd 2019-11-11.
- ↑ Radnorshire Society transactions Cyfrol. 54, 1984 Tudalen 46; "The diary of Captain Frederick Jones"
- ↑ "Ouseley, Sir Gore, first baronet (1770–1844), diplomatist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-20955. Cyrchwyd 2019-11-11.
- ↑ "Ouseley, Sir William Gore (1797–1866), diplomatist and author | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-20958. Cyrchwyd 2019-11-11.
- ↑ Ouseley, William (1823). Travels in various countries of the East, more particularly Persia. Llundain: Rodwell and Martin.
- ↑ "Ouseley, William, (Sir) (1767-1842) - People and organisations". Trove. Cyrchwyd 2019-11-11.