William Roberts (Nefydd)
Roedd William Roberts (Nefydd) (8 Mawrth, 1813 –18 Mehefin, 1872) yn weinidog Bedyddwyr, argraffydd, llenor, eisteddfodwr ac hyrwyddwr Cymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd a Thramor.[1]
William Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1813 Llanefydd |
Bu farw | 18 Mehefin 1872 Abertyleri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Priod | Jane Jones |
Cefndir
golyguGanwyd Nefydd ym Mryngolau, Llanefydd, Sir Ddinbych (Sir Conwy, bellach) yn blentyn i Robert Roberts, crydd ac Anne ei wraig. Prin oedd ei addysg ffurfiol fel plentyn.
Gyrfa
golyguAeth Nefydd i weithio i ŵr o'r enw Humphrey Jones yn Llanddulas a chafodd ei gyflwyno i enwad y Bedyddwyr. Ym 1832 cafodd ei fedyddio gan y Parch John Evans Glanwydden. Dechreuodd pregethu i'r enwad ac ym 1834 aeth at y Parch Robert Williams, Llansilin i baratoi am y weinidogaeth. Ym 1835 aeth i'r Wyddgrug fel gweinidog ar brawf. Ym 1837 ordeiniwyd ef yn weinidog ar Gapel Stanhope Street, Lerpwl. Ym 1845 symudodd i Flaenau Gwent lle fu yn weinidog ar gapel Salem am weddill ei oes.[2]
Llenor
golyguYn Lerpwl bu Nefydd yn cymryd mantais o'r ddarpariaeth oedd ar gael yn y dref i oedolion heb fanteision addysg ffurfiol i wella eu hunain trwy fynych lyfrgelloedd a dosbarthiadau nos. Dechreuodd ysgrifennu traethodau ar bynciau megis crefydd, moeseg a hanes ar gyfer eisteddfodau, gyda llawer o lwyddiant. Erbyn iddo symud i Flaenau Gwent bu alw rheolaidd arno i feirniadu traethodau eisteddfodol.
Un o'r testunau daeth yn arbenigwr arno fel traethodydd bu hynafiaethau Cymru a hanes y Bedyddwyr. Enillodd ei draethawd ar hanes y Fari Lwyd ym Morgannwg a Mynwy y wobr gyntaf yn eisteddfod fawr y Fenni ym 1848 [3] ac fe'i cyhoeddwyd ym 1852. Mae llawer o'r wybodaeth sydd wedi goroesi am draddodiad y Fari Lwyd a dathliadau traddodiadol yr hen Nadolig Cymreig yn deillio o'r wybodaeth a gasglodd trwy holi pobl hŷn am eu hatgofion fel ymchwil ar gyfer ei draethodau.[4]
I gynorthwyo ei ymchwil casglodd Nefydd nifer fawr o lyfrau a llawysgrifau hynafol, gan gynnwys copïau o gerddi'r oesoedd canol a Llyfr Coch Asaph. Mae ei gasgliad bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol [5]
Fe sefydlodd Nefydd wasg yn y Blaenau ym 1864 bu'n gyfrifol am argraffu'r papur enwadol Y Bedyddiwr am bedair blynedd. Bu hefyd yn olygydd Y Goleuad.
Ymgyrch addysg
golyguYm 1853 penodwyd Nefydd yn asiant Cymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd a Thramor yn ne Cymru. Dim ond aelodau o Eglwys Loegr oedd yn cael mynychu ysgolion ramadeg ac Ysgolion Cenedlaethol. Ysgolion i addysgu'r bobl gyffredin o bob enwad crefyddol oedd yr Ysgolion Brutanaidd a gan hynny yn cael cefnogaeth frwd gan anghydffurfwyr.[6] Rhwng 1853 a 1863 bu Nefydd yn brysur yn sefydlu ac archwilio'r ysgolion ac yn trefnu hyfforddiant ar gyfer athrawon. Bu'n gyfrifol am gynyddu nifer yr ysgolion yn y de o 6 i dros 500.[7] Bu hefyd yn dysgu mewn ysgol nos ei hun i hyfforddi darpar athrawon. Er fawr siom iddo daeth â'i gytundeb gyda'r Gymdeithas i ben ym 1863, gan nad oedd yn gallu gweithio llawn amser i'r gymdeithas o herwydd ei oblygiadau eraill fel gweinidog.[8]
Teulu
golyguBu Nefydd yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Jane Jones, merch y Parch Daniel Jones, gweinidog capel Bedyddwyr Crosshall Street, Lerpwl. Bu iddynt ddwy ferch. Bu farw Jane ym 1848. Ym 1850 priododd Mary (née Jones) gweddw Jenkin Edwards, gof, Blaenau Gwent; bu iddynt dau fab. Roedd yr ail fab y Parch Robert Henry Roberts (ap Nefydd) yn weinidog ar gapel y Presbyteriaid, Toowong, Brisbane, Awstralia.[9] Bu Mary farw ym 1861.[10]
Marwolaeth
golyguTua dechrau 1871 bu Nefydd yn teithio ar Reilffordd Gorllewin y Cymoedd a fu'r trên roedd yn teithio arni mewn damwain. Cafodd Nefydd cyfergyd i'w ben a effeithiodd ar ei allu ymenyddol. 18 mis yn ddiweddarach bu farw o effeithiau'r niwed i'w ymennydd. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Capel Salem, Blaenau Gwent.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davies, W. Ll., (1953). ROBERTS, WILLIAM (‘Nefydd’ 1813 - 1872), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, cynrychiolydd y British and Foreign School Society yn Neheudir Cymru, argraffydd, eisteddfodwr, llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 25 Hyd 2019
- ↑ "MARWOLAETH NEFYDD - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1872-07-06. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ "THE GREAT EISTEDDFOD - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1848-11-04. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ "Welsh Tit Bits Neu Wreichion Oddi ar yr Eingion - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1909-12-25. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ LlGC Casgliad Nefydd
- ↑ "History of the BFSS | The British & Foreign School Society". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-25. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ "Agor Training College Abertawe - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1872-04-03. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ Cylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol BRITISH SCHOOLS IN SOUTH WALES THE REV. WILLIAM ROBERTS (NEFYDD), SOUTH WALES REPRESENTATIVE OF THE BRITISH AND FOREIGN SCHOOL SOCIETY, 1853-1863
- ↑ "CONGL Y MARWGOFION - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1909-07-02. Cyrchwyd 2019-10-25.[dolen farw]
- ↑ "PRIODWYD - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1861-03-09. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ "FARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y PARCH W ROBERTS LL.D. NEFYDD BLAENAU - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1872-06-28. Cyrchwyd 2019-10-25.