William Speirs Bruce

Roedd William Speirs Bruce (18611921) yn archwiliwr pegynol Prydeinig ac yn eigioneg. Trefnodd ac arwainodd Ymgyrch Cenedlaethol yr Alban i’r Antarctig rhwng 1902 a 1904.

William Speirs Bruce
Ganwyd1 Awst 1867 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw28 Hydref 1921 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, botanegydd morol, eigionegwr, naturiaethydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Heriot-Watt Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Noddwr, Medal Canmlwyddiant David Livingstone, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi Edit this on Wikidata

Ganwyd Bruce yn Llundain ar 1 Awst 1867. Daeth ei dad, Samuel Noble Bruce, o’r Alban, ei mam, Mary, o Gymru. Cafodd ei addysg yn Swydd Norfolk. Astudiodd wyddoniaeth natur yn Granton yn 1887, ac wedyn meddyginiaeth ym Mhrifysgol Caeredin. Aeth o i’r Antarctig ym 1892-93, yn hela morfilod gyda ymgyrch o Dundee. Ym 1895 a 1896, gweithiodd yn arsyllfa ar gopa Ben Nevis, wedyn aeth ar ymgyrchoedd i Novaya Zemlya a Svalbard.[1][2]

Methodd gael le ar ymgyrch cenedlaethol i’r Antarctig gyda Scott a Shackleton, felly cynlluniodd Ymgyrch Cenedlaethol yr Alban i’r Antarctig. Hwyliasant o Troon ar 2 Tachwedd 1902, a treuliasant 21 mis yn gwneud waith ymchwyl. Sefydlodd orsaf dywydd ar Ynysoedd De Erch sy'n bodoli hyd at heddiw.[1]

Aeth o i Svalbard ym 1912 i chwylio am lo ac olew, ond rhwystrwyd gan ddechrau rhyfel ym 1914.

Bu farw yng Nghaeredin ar 28 Hydref 1921.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwefan undiscoveredscotland.co.uk
  2. 2.0 2.1 Geographical Journal, Rhagfyr 1921