Winnie Parry
Awdur Cymraeg oedd Sarah Winifred Parry (20 Mai 1870 – 12 Chwefror 1953) sydd fwyaf adnabyddus am ddatblygu'r stori fer Gymraeg modern. Daeth yn enw cyfarwydd gyda'i ffuglen a gyhoeddwyd mewn penodau mewn cyfnodolion ar droad yr 20g. Cafodd ei gwaith mwyaf enwog, Sioned, a gyhoeddwyd yn gyntaf fel cyfres rhwng 1894 a 1896 ei gyhoeddi fel nofel ym 1906 a chafodd ei ailgyhoeddi yn 1988 a 2003.[1]
Winnie Parry | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mai 1870 Y Trallwng |
Bu farw | 12 Chwefror 1953 Croydon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, golygydd |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cefndir
golyguGanwyd Winnie Parry yn y Trallwng, Sir Drefaldwyn, yn ferch i Hugh Thomas Parry, arolygydd yswiriant a Margaret (née Roberts). Roedd Margaret Parry yn sgwennu barddoniaeth ar y mesurau caeth o dan y ffug enw "Gwenfron".[2]
Yn fuan ar ôl ei genedigaeth Winnie, symudodd y teulu i Lanfair-is-gaer ger y Felinheli lle maent i’w gweld ar gyfrifiad 1871[3] yn byw yn nhŷ rhieni Margaret Parry sef John ac Elen Roberts. Symudodd y teulu o’r Felinheli i Croydon lle fu farw Margaret ym 1876 yn 36 mlwydd oed. Dychwelodd Winnie i fyw gyda'i nain a’i thaid yn y Felinheli, gan gael ei gwahanu rhag ei thad ei brawd a’i thair chwaer. Ail briododd ei thad a symudodd ef a gweddill y teulu i Dde’r Affrig gan adael Winnie yn y Felinheli.
Does dim tystiolaeth wedi goroesi i brofi bod Winnie wedi derbyn unrhyw addysg ffurfiol ond gan ei bod hi wedi geni ar ôl pasio Deddf Addysg Elfennol 1870[4] mae’n debyg y byddai wedi derbyn addysg orfodol hyd 13 oed. Gan fod Winnie yn ffrind gydol oes i ferch prifathro Ysgol Genedlaethol y Felinheli mae’n debyg mae’r ysgol honno bu hi’n mynychu.
Ar farwolaeth ei thaid ym 1903 symudodd i fyw gyda’i hewyrth Owen Parry, gweinidog Calfinaidd, Cemaes, Ynys Môn. Pan ddychwelodd ei thad o Dde’r Affrig ym 1908 symudodd Winnie’n ôl i Croydon ato ef, ac yn Croydon bu’n fyw am weddill ei hoes.
Gyrfa lenyddol
golyguO dan anogaeth O. M. Edwards ac Edward Ffoulks, dechreuodd gyfrannu i gylchgronau Cymru, Cymru’r Plant a’r Cymro. Cafodd ei nofel fwyaf adnabyddus, Sioned, ei gyhoeddi gyntaf mewn penodau yn y cylchgrawn Cymru rhwng 1894 a 1896.[5]
Ym 1896, ysgrifennodd gyfres o'r enw Catrin Prisiard a ymddangosodd yn Y Cymro a gyhoeddwyd hefyd yn The Cambrian a Chymru. Yn ystod ei chyfnod mwyaf toreithiog, daeth Winnie Parry yn enw cyfarwydd yng Nghymru oherwydd poblogrwydd ei ffuglen a’i herthyglau. Erbyn troad yr 20g roedd Parry yn awdur benywaidd mwyaf nodedig y stori fer a oedd yn adlewyrchu bywyd bob dydd yng Nghymru mewn araith lafar, a thrwy hynny daeth yn ddylanwad mawr ar awduron benywaidd diweddarach megis Moelona a Kate Roberts.[6]
Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ceisiodd E. Morgan Humphreys ei pherswadio i ailgyhoeddi Sioned a cheisiodd y BBC addasu peth o’i gwaith ar gyfer Awr y Plant.
Gyrfa
golyguBu’n gweithio fel golygydd Cymru’r Plant rhwng 1908 a 1912[7] wedi hynny bu’n gweithio fel ysgrifennydd i gwmni peirianneg. Rhwng 1922 a 1928, bu’n gwasanaethu fel ysgrifennydd i Syr Robert Thomas, AS Ynys Môn.
Marwolaeth
golyguBu farw mewn cartref henoed yn Croydon yn 82 mlwydd oed ac yn Croydon claddwyd ei gweddillion.
Llyfryddiaeth
golygu- Parry, Winnie (1906). Sioned: darluniau o fywyd gwledig yng Nghymru. Caernarfon: Cwmni y cyhoeddwyr Cymreig. OCLC 48516434.
- Parry, Winnie (1907). Cerrig y Rhyd. Caernarfon: Cwmni y cyhoeddwyr Cymreig. OCLC 563641432.[8]
- Parry, Winnie (1928). Y ddau hogyn rheiny. Llundain: Foyle's Welsh Depot. OCLC 52723140.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "PARRY, SARAH WINIFRED ('Winnie Parry'; 1870-1953)"
- ↑ Jane Aaron, Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (University of Wales Press, 2010). ISBN 978-0-7083-2287-1
- ↑ Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1871, Fron Deg Terrace, Llanfairisgaer, Carnarvon, Caernarvonshire, Wales Cyf:RG10/5715, Ffolio 18, Tudalen 15
- ↑ Elementary Education Act 1870
- ↑ "Notitle - Merthyr Times and Dowlais Times and Aberdare Echo". [Merthyr Times Printing Co.] 1895-06-20. Cyrchwyd 2017-03-18.
- ↑ Koch, John T. (2006). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia. I: A-Celti. Santa Barbara, California: ABC-CLIO. ISBN 978-1-85109-440-0.CS1 maint: ref=harv (link)
- ↑ "GOLYGYDDES NEWYDD - Gwalia". Robert Williams. 1907-12-31. Cyrchwyd 2017-03-18.
- ↑ Cerrig y Rhyd ar Wicidestun